Gall contractau ymddangos yn eithaf brawychus; peidiwch â phoeni a pheidiwch â rhuthro. Byddwn yn trafod rhai o'r prif bethau i fod yn wyliadwrus ohonynt, yr hyn y dylech ei wneud a’r hyn y dylech osgoi ei wneud. Unwaith eto - peidiwch â theimlo dan bwysedd i arwyddo'r cytundeb yn syth! Os ydych chi wedi llwyddo cael hyd i'r tŷ perffaith, dylai hynny fod ar eich telerau chi, nid ar delerau'r landlord. Mae gennych chi bob hawl i ddarllen drwy'r cytundeb cyn ei arwyddo.
Mynnwch yr wybodaeth mewn ysgrifen.
- Does dim rhaid i chi arwyddo ar y diwrnod. Dylai eich landlord roi 24 awr i chi fynd â’r cytundeb i ffwrdd gyda chi i’w ddarllen; dylai’r eiddo gael ei ddal i chi yn ystod y cyfnod hwn.
- Oes unrhyw welliannau neu newidiadau i’r eiddo mae’r landlord wedi cytuno iddyn nhw? Gwnewch yn sicr fod hyn mewn ysgrifen, wedi’i ddyddio a’i arwyddo.
- Gwiriwch fod gennych chi a’ch landlord gopiau sy’n union yr un fath.
- Keep your contract safe, for your whole time at the property.
Math o gytundeb: Ydy e’n gytundeb unigol neu’n un ar y cyd?
- Mae cytundebau unigol yn well, gan fod cytundebau ar y cyd yn eich gadael yn gyfrifol am rent neu ddifrod gan denantiaid eraill. Os ydych chi ar gytundeb ar y cyd, gwnewch yn sicr ei fod gyda phobl rydych chi’n gallu ymddiried ynddyn nhw.
- A ofynnwyd i chi ddarparu gwarantwr, ac oes angen iddyn nhw arwyddo ffurflen?
Ffioedd a Thaliadau
- Peidiwch fyth â gwneud unrhyw daliad (gan gynnwys blaendal) cyn arwyddo’r cytundeb.
- Gwiriwch ble caiff eich blaendal ei gadw’n ddiogel.
- Pryd a sut caiff eich rhent ei dalu.
- Ydych chi wedi cyd-drafod gwahanol raddfa ar gyfer misoedd yr haf?
- Have you checked for any additional charges?