£50,000 ar gyfer iechyd meddwl, dwedwch wrthym ni sut i’w wario!

Dydd Llun 03-02-2020 - 14:00

Mae iechyd meddwl yn uchel ar yr agenda mewn addysg bellach ac uwch ledled y DU, ac mae rheswm da am hynny. Mae mwy na 2 o bob 5 myfyriwr yn defnyddio alcohol neu gyffuriau fel modd o ymdopi â straen, ac mae 1 o bob 5 myfyriwr yn cyfaddef eu bod nhw wedi cael diagnosis ar gyfer salwch meddwl, er bod tri chwarter y myfyrwyr hyn yn cuddio eu symptomau lle bynnag y bo modd gwneud hynny. Mae'r ystadegau hyn yn frawychus, yn enwedig yng nghyd-destun y cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n dioddef yn feddyliol yn ystod y degawd diwethaf.

 

Gyda hyn mewn golwg, mae UMyDDS wedi bod yn llwyddiannus mewn cais ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, i gael gafael ar arian sydd i'w wario ar godi ymwybyddiaeth o gyflyrau iechyd meddwl a chanolbwyntio ar iechyd meddwl cadarnhaol. Daeth yr arian hwn o gronfa ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a CCAUC (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru) a’r bwriad oedd y byddai prifysgolion yn gweithio gyda'i gilydd ar brosiect ar y cyd.

 

Mae PCyDDS a Phrifysgol Abertawe yn gweithio gyda'i gilydd ar y prosiect CYSWLLT (www.connect-wellbeing.wales / www.cyswllt-lles.cymru) o amgylch darparu hyfforddiant i staff a myfyrwyr, a hyfforddi myfyrwyr i ddod yn 'GYSYLLTWYR' - sef y rheiny yng nghymuned y myfyrwyr sydd wedi'u hyfforddi i adnabod arwyddion iechyd meddwl gwael, a chynorthwyo i gael yr help sydd ei angen ar fyfyrwyr.

 

Fel rhan o'r cais hwn dyrannwyd £50,000 i UMyDDS, a nawr chi sydd i benderfynu! Rydym wedi defnyddio ychydig o'r arian ar hyfforddi dros 80 o fyfyrwyr mewn atal hunanladdiad a gwytnwch eisoes eleni; nawr rydym am wybod beth yw eich barn chi - i ble ddylai'r arian hwn fynd?

 

Teithiau dydd ar gyfer myfyrwyr sydd ar incwm isel a'u teuluoedd?

Mwy o hyfforddiant iechyd meddwl dwysach?

Chwaraeon?

Meddylgarwch?

 

Rydym am i CHI benderfynu, a byddwn yn addo gwneud i hynny ddigwydd!

 

Os oes gennych chi syniad neu rywbeth rydych chi am i ni weithio arno, defnyddiwch y ffurflen isod i'w gyflwyno! Yna gallwn gasglu’r ymatebion ynghyd a mynd ati i gynllunio rhaglen weithredu ar sail eich syniadau chi, y myfyrwyr.

 

https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=-REPTm4EBUWcuNshUjEeIbyhivJbdftNkXAdE77ezMFUQUw2MENaUTUyTTJJRVYyWE5ESzc0SzdJTy4u

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill neu os ydych chi am gael mwy o wybodaeth ynghylch CYSWLLT, mae croeso i chi anfon e-bost ataf i: becky.ricketts@uwtsd.ac.uk

 

 

 

Categorïau:

Student Wins

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...