Yr wythnos hon mae'r Brifysgol yn cael adolygiad sefydliadol, wedi’i gynnal gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA), a elwir yn Adolygiad Gwella Ansawdd (QER). Nod yr adolygiad yw sicrhau bod y Brifysgol yn cyrraedd y safonau disgwyliedig ar gyfer addysg uwch yn y DU, gan felly sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad academaidd o ansawdd uchel. Mae'n wythnos bwysig iawn i'r Brifysgol!
Mae 17 o fyfyrwyr o PCyDDS ac oddeutu 10 yn cynrychioli sefydliadau partner yn cymryd rhan yn y broses trwy rannu eu profiadau academaidd mewn cyfarfodydd gyda thîm adolygu QAA. Mae'r cyfarfodydd hyn yn galluogi'r panel i gael cipolwg pellach ar brofiadau myfyrwyr, yn ychwanegol i’r Cyflwyniad Ysgrifenedig gan Fyfyrwyr a gynhyrchwyd gan Undeb y Myfyrwyr. Bydd Prif Gynrychiolydd y Myfyrwyr a Llywydd Campws Abertawe, Liam Powell, yn cyfarfod yn rheolaidd â hwylusydd yr adolygiad ar ran y Brifysgol a Rheolwr Adolygiad QAA yr wythnos hon hefyd, i wirio’r broses ddwywaith y dydd.
Bydd y Brifysgol yn derbyn dyfarniad gan y tîm adolygu yn ystod y misoedd nesaf, a fydd yn nodi ym mha feysydd mae PCyDDS yn bodloni’r safonau disgwyliedig; gall hefyd gynnwys rhai argymhellion ar gyfer gwneud gwelliannau.
Darllenwch fwy am yr Adolygiad Gwella Ansawdd yn y Cyflwyniad Ysgrifenedig gan Fyfyrwyr.