Mae Taya, Llywydd y Grŵp, wedi helpu â darparu cymorth amserol y mae mawr ei angen i’n haelodau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Trwy arwain ein Hymgyrch Costau Byw yn Undeb y Myfyrwyr, mae Taya wedi llwyddo i gyflawni amryw o wahanol ffyrdd o gefnogi myfyrwyr tra byddant yn y brifysgol - un o'r llwyddiannau hynny fu darparu cynhyrchion misglwyf ac atal cenhedlu am ddim i'n holl gampysau gyda'n hunedau Dewis a Dethol.
Gallwch ddod o hyd i un o'n Hunedau Dewis a Dethol Undeb y Myfyrwyr ar ein campysau; maent wedi'u brandio â brand Undeb y Myfyrwyr ac maent yn llawn eitemau i chi eu cymryd pan fo angen.
Mae’r canlynol ar gael ar hyn o bryd yn ein hunedau Dewis a Dethol:
Sylwch y gall mathau o eitemau amrywio ychydig yn dibynnu ar y campws ac argaeledd.
Ond nid dyna'r cyfan! Mae mwy o eitemau ar gael ar gais – gofynnwch i aelod o dîm staff Undeb y Myfyrwyr
“Pan ddes i i’r swydd, roeddwn i eisiau parhau â’r gwaith a ddechreuwyd o’m blaen trwy lobïo am barhad cynnyrch misglwyf am ddim ar BOB UN o’n campysau. Mae misglwyf yn gallu bod yn ddrud iawn ac maen brofiad hollol ddiflas, felly roedd dileu'r baich o beidio â gwybod a allwch chi fforddio cynhyrchion ai peidio yn rhywbeth a oedd yn teimlo'n bwysig iawn i mi. Lansiwyd y prosiect i helpu â rhoi diwedd ar y stigma o gwmpas y misglwyf a bod unrhyw un sydd eu hangen yn gallu cael gafael ar gynhyrchion pwrpasol am ddim. Ar y dechrau, roedd pobl yn bryderus ynghylch mynd at yr unedau Dewis a Dethol, ond nawr mae'n wych gweld pobl yn cyrchu'r nwyddau hyn heb deimlo unrhyw gywilydd na beirniadaeth. Rwyf mor falch bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r prosiect, a chafwyd llawer o adborth cadarnhaol ynghylch pa mor angenrheidiol ydyw, a’i bod yn bwysig iddo barhau. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn llwyddiant mawr i’r Undeb, a gyda rhywfaint o help ar hyd y ffordd gan y Brifysgol rwy’n gobeithio y bydd yn parhau ymhell ar ôl i mi adael.” - Taya Gibbons, Llywydd y Grŵp
Abertawe:
Swyddfa Undeb y Myfyrwyr, Canolfan Dylan Thomas
Caerfyrddin:
Swyddfa Undeb y Myfyrwyr
Llambed:
Swyddfa Undeb y Myfyrwyr
Caerdydd:
Ardal Argraffu’r Myfyrwyr
Llundain:
llawr gwaelod, Llawr 1aft, gyferbyn â'r toiledau
Llawr 1af, gyferbyn â'r toiledau
Birmingham (Quay Place):
Tŷ Louisa – Llawr 1af, tua chefn ystafell gyffredin y myfyrwyr
Tŷ Vincent – llawr gwaelod, gyferbyn â’r ddesg gymorth TG
Birmingham (Sparkhill):
Llawr gwaelod, tua chefn ystafell gyffredin y myfyrwyr
Ffurflen Ail-lenwi Dewis a Dethol