Fy nghyd-fyfyrwyr, wrth i ni groesawu’r flwyddyn newydd a’r tymor academaidd newydd, dymunaf heddwch, cariad, twf parhaus a llwyddiant i chi i gyd. Rwyf yn eich annerch i gyd mewn ymdrech i roi unrhyw eglurder a sicrwydd y gallaf ar hyn o bryd.
Mae llawer ohonoch wedi estyn allan ac wedi cymryd yr amser i leisio eich ofnau - ac rwy'n eich parchu am fod yn ddigon dewr i wneud hynny. Mae eraill ohonoch wedi bod yn poeni'n dawel, ac rwy'n clywed eich calon. Rwy’n deall y gallai’r sgyrsiau hyn beri ansicrwydd a phryder am eich astudiaethau a’ch dyfodol yn PCyDDS.
Mae eich profiad fel myfyriwr yn dal i fod yn ganolog i'r hyn a wnawn. Cofiwch ein bod ni - eich Undeb Myfyrwyr - yn gweithio'n ddiwyd i sicrhau bod amddiffyn myfyrwyr yn flaenoriaeth trwy gydol y broses hon.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo ers amser maith i'w Chytundeb â Myfyrwyr, sydd â’r nod o amddiffyn eich taith academaidd a darparu profiad dysgu o ansawdd uchel i chi, ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei gyflawni.
Ein ffocws yw:
Fel mae llawer ohonoch wedi rhannu, mae Llambed yn fwy na champws; dyma'ch cartref, cymuned, a gofod ar gyfer twf personol ac academaidd.
Rydym wedi ymrwymo i gynnal y gwerthoedd hyn, boed hynny trwy gymorth gwell i fyfyrwyr, adnoddau ychwanegol, neu gyfleoedd newydd.
Os oes gennych chi gwestiynau, neu bryderon, neu dim ond angen siarad, mae croeso i chi estyn allan trwy anfon e-bost i union@uwtsd.ac.uk
Fy nghyngor i yw hyn; peidiwch â digalonni. Mewn cyfnod o ansicrwydd, rhaid i ni wneud y gorau o’r cyfle i ddod at ein gilydd a chynnig cefnogaeth i’n gilydd.
Mewn undod, Rhobyn Grant, Llywydd Campws Llambed