Barn Academaidd - Sgyrsiau Cynghori'

Dydd Llun 29-06-2026 - 16:18

"Allwch chi ddim apelio oherwydd eich bod chi wedi'ch siomi."

- Corey Edwards

 

Yn y trydydd ychwanegiad at ein cyfres 'Sgyrsiau Cynghori', eisteddodd ein cynghorydd, Alice, i lawr gyda'r darlithydd Corey Edwards i drafod 'barn academaidd'. Beth mae'n ei olygu? Beth sy'n digwydd yn ystod y broses farcio? I ble gall myfyrwyr droi am gefnogaeth? Caiff pob un o’r rhain ei ateb isod.

Beth yw Barn Academaidd?

Mae Barn Academaidd yn rhan hanfodol o broses y brifysgol, er efallai nad yw llawer o fyfyrwyr hyd yn oed wedi clywed am hyn o'r blaen. Fell, beth mae'n ei olygu? Yn syml, mae'n cyfeirio at y casgliadau a’r penderfyniadau y mae academydd (fel darlithydd) yn eu gwneud wrth werthuso a marcio gwaith myfyriwr.   

"'Beth yw'r peth pwysicaf y dylai myfyrwyr ei wneud pan fyddant yn derbyn eu marciau? - Alice

"Peidiwch â chymryd y marc ar ei ben ei hun. Agorwch y ddolen gyflwyno a darllenwch eich adborth. Beth nes i wir ei wneud yn dda? Sut alla i wella?" - Corey

Pam na all myfyrwyr ofyn i'w gwaith gael ei ail-farcio?

Fel y trafodwyd yn y fideo, er y gallai fod yn siomedig i fyfyrwyr dderbyn marc is nag yr oeddent wedi bod yn gobeithio amdano, ni all myfyrwyr gyflwyno apêl academaidd oherwydd hyn yn unig. Os ydych chi wedi’ch siomi neu wedi’ch drysu gan y marciau neu’r adborth rydych chi wedi’u derbyn am eich gwaith, rydym yn argymell eich bod chi’n cysylltu â’ch darlithydd neu reolwr rhaglen i drafod y peth.

Oes yna resymau eraill pam y gall myfyriwr gyflwyno apêl?

Oes! Mae yna amgylchiadau eraill lle bydd y brifysgol yn ystyried apêl academaidd gan fyfyriwr. Yn gryno, dyma nhw;

  • Os bu gwall ffeithiol neu rifiadol yn y canlyniadau a gyhoeddwyd. 
  • Os oedd y myfyriwr yn profi amgylchiadau lliniarol ar adeg yr aseiniad nad oedd y brifysgol eisoes yn ymwybodol ohonynt. 
  • Os oedd yna anghysondebau yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gyfer yr aseiniad. 
     

Am ragor o wybodaeth am apeliadau academaidd, ewch i'n gwefan Graddau ac Apeliadau @ Undeb Myfyrwyr PCyDDS

"Mae gennym ni lawer o lwybrau ar gyfer cymorth, ac rwy'n argymell yn gryf bod myfyrwyr yn eu cyrchu, yn hytrach nag eistedd ar eu pennau eu hunain a phoeni. Rydym yn falch iawn o'r gefnogaeth y gallwn ei chynnig i fyfyrwyr" - Corey 

"Siaradwch â rhywun, oherwydd mae’r gefnogaeth ar gael i chi" - Alice

Gyda chanlyniadau ar feddwl pawb yr adeg hon o'r flwyddyn, rydym yn gobeithio bod y wybodaeth a ddarparwyd wedi bod yn ddefnyddiol. Os hoffech chi gysylltu â'n tîm cynghori, gallwch gael rhagor o wybodaeth isod.

Mwy am Dîm Cynghori Undeb y Myfyrwyr

Gall Tîm Cynghori Undeb y Myfyrwyr gynnig gwybodaeth a chefnogaeth yn ystod eich taith academaidd gan gynnwys:

  • Cyfeirio myfyrwyr at adrannau neu wasanaethau eraill
  • Egluro prosesau academaidd, fel ffurflenni apêl academaidd.
  • Helpu myfyrwyr i ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau. 

I gysylltu â'r tîm, gall myfyrwyr naill ai e-bostio su.advice@uwtsd.ac.uk gwblhau ein Ffurflen Ymholiad am Gyngor!

Categorïau:

Timau

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...