Croeso’n ôl! Gobeithio eich bod wedi cael gwyliau haf da.
Rydyn ni'n deall nad yw’r haf yn golygu ymlacio i fyfyrwyr bob amser, gyda rhai myfyrwyr yn gwneud gwaith llawn amser neu’n gweithio ar eu traethawd hir. Beth bynnag rydych chi wedi’i gyflawni dros yr haf, gobeithio fod y semester newydd hwn yn cychwyn ar nodyn cadarnhaol.
Ym mis Mai, gwnaethom ailgyflwyno tîm ein gwasanaeth cynghori i chi. Ers hynny, rydyn ni wedi parhau i weithio ar brosiectau i sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf gan fyfyrwyr ynglŷn â pholisïau a gweithdrefnau’r brifysgol.
Mae ein pecyn cymorth academaidd yn bwrw golwg gynhwysfawr ar holl brosesau'r brifysgol, gan gynnwys cwynion, apeliadau ac amgylchiadau esgusodol. Mae’n amlinellu pob proses fesul cam, ac yn rhoi’r manylion cysylltu ar gyfer adrannau’r brifysgol a allai ddarparu canllawiau pellach, megis Cymorth Ariannol sy'n gallu helpu myfyrwyr gyda chaledi ariannol a chyllidebu.
Mae’r pecyn cymorth ar gael ar ffurf dogfen PDF sy’n cynnwys yr holl wybodaeth y gall fod ei hangen arnoch: https://www.uwtsdunion.co.uk/advice/toolkit
Mae ein fideo ar dynnu’n ôl a ffioedd addysgu yn rhoi trosolwg defnyddiol ar hawliau a chyfrifoldebau myfyrwyr mewn perthynas â thalu ffioedd addysgu, yn enwedig ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn derbyn cyllid gan ddarparwr cyllid myfyrwyr.
Proses tynnu’n ôl wedi cyfnod 14-diwrnod:
Tynnu’n Ôl neu Doriad i’ch Astudiaethau | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae'r rhestr wirio hon ar gael i bob myfyriwr - rhai newydd a’r rhai sy’n dychwelyd! Dyma eich rhestr wirio un stop er mwyn gwneud yn siŵr eich bod wedi cwblhau’r holl fân-gamau ar gyfer dod yn barod i wneud y gorau o’ch astudiaethau.
Mae’n ddefnyddiol hefyd os ydych chi wedi ailymuno’n ddiweddar ar ôl tynnu’n ôl ac eisiau gwneud yn siŵr bod y brifysgol yn gwybod eich bod ar waith, yn ymgysylltu ac yn barod i ailgydio yn eich astudiaethau. Mae hynny’n cynnwys mewngofnodi i’ch cyfrif Moodle, agor eich e-byst prifysgol ac ymgyfarwyddo â’r amrywiol adrannau yn PCYDDS.
Lawrlwythwch y Rhestr Wirio Myfyrwyr
Lawrlwythwch y rhestr wirio i’w hargraffu gartref neu ewch i gasglu rhestr wirio o swyddfa leol eich Undeb Myfyrwyr!
Mae ffurflen adborth newydd ein Gwasanaeth Cynghori yn gyfle i fyfyrwyr leisio eu barn ynglŷn â’r cyngor y maent wedi’i dderbyn gan ein tîm. Os ydych chi wedi derbyn cymorth a chyngor gan ein tîm cynghori yn ddiweddar, byddem yn eich annog i gwblhau ein ffurflen adborth i roi gwybod i ni beth oedd o werth i chi a sut gallwn ni wella.
Dyma beth mae myfyrwyr wedi bod yn ei ddweud:
Hyd yn oed ar adegau pan nad oes rhaid i chi ymdopi ag astudiaethau academaidd, mae mynd i weld tai yn gallu peri straen a dryswch. Mae’n bwysig i chi ganfod rhywle lle byddwch chi’n teimlo’n ddiogel ac yn hyderus. Ond rydyn ni’n gwybod nad yw hi’n hawdd cofio’r holl gwestiynau sydd gennych chi yn y fan a’r lle wrth i chi fynd i weld tŷ. Pwy ydy’r landlord? Pa gelfi sy’n cael eu cynnwys yn y rhent? Pwy sy'n gyfrifol os bydd y oergell yn pallu?
I fynd i’r afael â nerfau cartref newydd, rydyn ni wedi llunio rhestr wirio ddefnyddiol o bopeth y mae angen i chi chwilio amdanynt a holi amdanynt yn eich cartrefi newydd posib
Mae ein tîm Cynghori wedi bod yn brysur hefyd yn mynychu campysau PCYDDS i gefnogi myfyrwyr pan fydd canlyniadau’n cael eu rhyddhau. Mae’r stondinau dros dro hyn yn ffordd wych i fyfyrwyr gael gofyn cwestiynau am ein gwasanaeth cynghori a chael syniad beth ydy'r camau nesaf ym mhrosesau’r brifysgol.
Gallwch ein dal yn y stondinau rhyddhau canlyniadau nesaf yn:
Birmingham
10 Medi 12.30pm – 2.30pm yng Nghampws Spark Hill, Ardal y Myfyrwyr
12 Medi 12.30pm – 2.30pm yng Nghampws Quay Place, Ardal Myfyrwyr Louisa House
13 Medi 12.30pm – 2.30pm yng Nghampws Quay Place, Ardal Myfyrwyr Louisa House
Llundain
9 Hydref, 11am – 1pm yn yr Ardal Gyffredin
10 Hydref, 11am – 1pm yn yr Ardal Gyffredin
11 Hydref, 10am – 1pm yn yr Ardal Gyffredin
Sophie Kitsell
Wedi’i lleoli ar Gampws Birmingham
wedi symud i mewn i dŷ i roi rhagor o le i’w chwningen gael rhedeg dros bob man!
Sydney Radford
Wedi lleoli ar Gampws Llundain
Bu Syd mewn noson i oedolion yn unig yn Sw Llundain. Ei hoff anifail oedd y pengwiniaid gyda'u hwyau.
Alice McGovern
Wedi’i lleoli ar Gampws Abertawe
Bu Alice yn gwylio'r ffilm Superman ddiweddaraf yn y sinema lawer iawn gormod o weithiau...y roc pync go iawn, efallai!