Gall dod yn ôl ar ôl gwyliau'r gaeaf deimlo fel tipyn o straen. Efallai bod llawer ohonoch wedi dychwelyd yn syth i aseiniadau neu arholiadau, ac efallai nad ydych wedi cael y cyfle i gymdeithasu â'ch ffrindiau prifysgol cymaint ag yr hoffech chi.
Rydyn ni eisiau eich helpu chi i drechu’r felan y gaeaf hwn. I wneud hyn, rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ar eich cyfer chi, sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i fod yn gymorth i’ch gilydd, cael hwyl, rhoi cynnig ar rywbeth newydd, ac ail-gysylltu’n gymdeithasol.
Edrychwch ar ein digwyddiadau "Trechu'r Felan y Gaeaf Hwn" isod, rhowch gynnig ar rai, a gobeithio y bydd y cysgod y felan yn codi cyn bo hir.
Dyma’r rhestr o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal i helpu â "Threchu'r Felan y Gaeaf Hwn"

Astudio yn Abertawe? Mae'r Brifysgol yn ceisio darganfod mwy am eich dymuniadau a'ch anghenion o ran iechyd corfforol. Gyda'r wybodaeth hon, byddan nhw'n edrych ar greu a datblygu cyfleoedd i wella bywydau myfyrwyr fel eu bod nhw'n teimlo'n iachach ac yn hapusach tra byddan nhw yn y Drindod Dewi Sant.
Llenwch yr arolwg hwn i gael eich cynnwys mewn raffl i ennill taleb gwerth £50 i Neuadd Albert