Mae’n braf gan Gymdeithas Amgylcheddol YDDS Abertawe gyhoeddi y byddwn ni'n plannu ein 1000fed goeden yn Lloches Anifeiliaid Llys Nini ddydd Sadwrn 17 Tachwedd.
Dyma garreg filltir bwysig yn ein perthynas â'r safle a’n hymrwymiad i helpu bywyd gwyllt i oroesi'r gaeaf (ffrwythau yw’r holl goed sy’n cael eu plannu fel bod modd i adar a mamaliaid bach fwydo arnynt yn ystod misoedd oerach pan fydd bwyd yn brin).
Ymunwch â ni â'r dathliad pwysig hwn wrth i ni blannu ein TRYDEDD GYFRES o goed ar y safle hwn, gan greu coetir aml-gynhyrchiol y bydd pobl yn gallu ei fwynhau am flynyddoedd.
Darperir bwyd a thrafnidiaeth a gwisgwch esgidiau a dillad addas ar gyfer y tywydd.
Bydd yr bws yn pigo lan o Llys Glas (ar bwys yr adeilad Alex) am 10 yb.
https://www.facebook.com/events/566685583788690/