Chwalu Stigma Iechyd Meddwl

Dydd Gwener 09-10-2020 - 15:20

Colourful hands reaching out

“Dywed pobl â phroblemau iechyd meddwl y gall y stigma cymdeithasol sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl gwael a’r camwahaniaethu y maent yn ei wynebu wneud eu hanawsterau’n waeth a’i gwneud yn anoddach gwella”  - www.mentalhealth.org.uk

Heddiw rydym yn canolbwyntio ar chwalu’r stigma sy’n perthyn i iechyd meddwl. Gall cyfnod prifysgol fod yn un o'r adegau gorau, neu waethaf, ym mywyd myfyriwr. O antur byw mewn tref neu ddinas newydd i straen terfynau amser a theimladau o unigrwydd. Mae COVID-19 wedi newid addysg uwch ac wedi ei gwneud yn anoddach nag erioed i ni gymdeithasu a mynd allan, yn enwedig gyda misoedd y gaeaf a thywydd gwael ar y gorwel. Felly, beth yw ein hystadegau?  

“Mae mwy na thraean myfyrwyr y DU (37%) yn teimlo bod cyflwr eu llesiant meddyliol wedi newid er gwaeth ers dechrau mewn addysg uwch” - www.randstad.co.uk

Un o'r prif resymau nad yw pobl yn estyn allan am gymorth yw diwylliant sy’n seiliedig ar stigma; o 'bydda’n wrol', i 'paid â bod mor drist’, i 'byddi di'n dod drosto' mae'r agwedd hon yn bychanu brwydrau unigolion ledled y byd.  Mae hyn yn aml yn arwain at effaith negyddol ar fyfyrwyr, yn enwedig o ran ein hastudiaethau, p'un a yw'n ddarn o waith nad ydym yn hapus ag ef, neu'n benderfyniad i adael ein cwrs yn gyfangwbl.  

Fe wnaethon ni estyn allan at y myfyrwyr ar ein campysau i gael eu mewnbwn ar rai o'r mathau o stigma sy'n ymwneud ag iechyd meddwl a sut maen nhw'n ymgyrchu i'w chwalu. Yn gyntaf, mae gennym ni Dîm Rygbi Dynion Llambed, sydd, mewn cydweithrediad â'n Timau Rygbi eraill, yn gwneud llawer o waith ar iechyd meddwl dynion trwy eu hymgyrch Tashwedd flynyddol sy'n cael ei chynnal ym mis Tachwedd;  

“Fe wnaethon ni estyn allan at y myfyrwyr ar ein campysau i gael eu mewnbwn ar rai o'r mathau o stigma sy'n ymwneud ag iechyd meddwl a sut maen nhw'n ymgyrchu i'w chwalu. Yn gyntaf, mae gennym ni Dîm Rygbi Dynion Llambed, sydd, mewn cydweithrediad â'n Timau Rygbi eraill, yn gwneud llawer o waith ar iechyd meddwl dynion trwy eu hymgyrch Tashwedd flynyddol sy'n cael ei chynnal ym mis Tachwedd; 

“Yn y brifysgol, ac yn enwedig mewn cyfnod fel hwn, mae ymwybyddiaeth am iechyd meddwl a diogelu unigolion yn flaenoriaeth i bob clwb a chymdeithas, i’w haelodau, a holl gymuned PCyDDS. Mae iechyd meddwl dynion yn brif ffocws i’n haelodau ni.  

Mae iechyd meddwl dynion yn ymestyn ar draws ystod eang o bynciau, ac mae'r holl faterion hyn yn hynod gymhleth. Felly, mae'n hanfodol sefydlu amgylchedd lle gall dynion deimlo'n hyderus am gael sgwrs ynglŷn â’u hiechyd meddwl. Mae pawb yn wahanol, ond mae pawb angen ac yn haeddu teimlo'n ddigon cyfforddus i gymryd y cam cyntaf hwnnw, a siarad am yr hyn sydd ar eu meddwl, waeth beth fo'r stigma. P'un a yw'r materion hyn yn fawr neu'n fach, y peth pwysicaf yw bod dynion yn teimlo'n hyderus wrth estyn allan, a bod rhywun yno i wrando arnynt. 

Mae Rygbi Dynion PCyDDS Llambed wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl dynion. Y llynedd, gosododd ein hymgyrch codi arian elusennol Tashwedd darged hynod o uchel i’w gyrraedd, ac eleni yn fwy nag erioed, mae angen i ni ddod ynghyd â chymuned y brifysgol i helpu â hyrwyddo amgylchedd diogel, agored a chadarnhaol. Gyda'n gilydd, gallwn helpu i gefnogi Tashwedd fel y gellir darparu mwy o ddynion fyth â'r help y maent yn ei haeddu. “ 

Fe wnaethon ni estyn allan at ein Swyddog LHDTC+ rhan-amser, Rio i rannu rhywfaint o wybodaeth am y gymuned LHDTC+ a'u phrofiadau o ran cymorth ac iechyd meddwl: 

Mae unigolion LHDTC+ yn fwy tebygol o brofi lefel isel o hunan-barch, iselder ysbryd, pryder (gan gynnwys pryder cymdeithasol), problemau bwyta, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, hunan-niweidio a theimladau hunanladdol, yn ogystal â phroblemau iechyd meddwl eraill. Mae hyn oherwydd bod aelodau o'r gymuned LHDTC+ yn wynebu stigma a chamwahaniaethu yn sgil eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth ryweddol, sydd ddim yn effeithio ar bobl nad ydynt yn LHDTC+. Mae pethau fel homoffobia / trawsffobia, arwahanrwydd cymdeithasol, allgau a chael eu gwrthod yn cael effaith fawr ar unigolion LHDTC+. 

 

Ar y cyfan:  

  • Mae unigolion LHDTC+ ddwywaith yn fwy tebygol o geisio lladd eu hunain 
  • Mae hanner y bobl LHDTC+ wedi profi iselder yn ystod y flwyddyn ddiwethaf 
  • Mae pobl LHDTC+ yn wynebu camwahaniaethu eang o fewn y system gofal iechyd 
  • Mae un o bob saith o bobl LHDTC+ yn osgoi ceisio gofal iechyd oherwydd eu bod yn ofni camwahaniaethu gan staff 

 

Canfu astudiaeth ynghylch Bywyd yn yr Alban i Bobl Ifanc LHDTC+:  

  • Nododd wyth o bob deg o bobl ifanc LHDT (84%) eu bod wedi profi o leiaf un broblem iechyd meddwl neu ymddygiad cysylltiedig  
  • Dywedodd y mwyafrif eu bod wedi cael profiad o bryder (78%), straen (72%), ac iselder ysbryd (63%)  
  • Roedd hanner y bobl ifanc LHDT wedi cael meddyliau hunanladdol ac wedi ystyried eu gweithredu, ac roedd 43% wedi hunan-niweidio 
  • Roedd y bobl ifanc trawsryweddol a ymatebodd i'r arolwg wedi cael mwy fyth o brofiadau iechyd meddwl gwael  
  • Roedd 96% o bobl ifanc traws yn teimlo eu bod wedi cael problem iechyd meddwl neu ymddygiad cysylltiedig, gyda chyfraddau uchel o bryder (84%), straen (72%), ac iselder ysbryd (74%) 
  • Canfu adolygiad o fynychder problemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc draws, a oedd yn cynnwys 15 astudiaeth o 2011-2016, fod pobl ifanc traws yn fwy tebygol o gael profiadau o iselder, hunanladdiad a hunan-niweidio, ac anhwylderau bwyta o gymharu â'u cyfoedion cis-ryweddol.  
  • Dywedodd 59% o bobl ifanc draws eu bod wedi hunan-niweidio 
  • Pan ofynnwyd a oedden nhw wedi cael meddyliau hunanladdol ac wedi ystyried eu gweithredu, dywedodd 63% o bobl ifanc drawsryweddol eu bod nhw wedi profi meddyliau o’r fath 

 

Dyma ganfyddiadau Stonewall yr Alban: 

  • Roedd bron pob person ifanc traws (96%) wedi niweidio eu hunain yn fwriadol ar ryw adeg 
  • Roedd mwy na dau o bob pump (43%) wedi ceisio cymryd eu bywyd eu hunain ar ryw adeg 
  • Mae hyn yn cymharu ag un o bob pedwar (24%) o bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol nad ydynt yn draws.

 

Elusennau defnyddiol ar gyfer iechyd meddwl LHDTC+: 

  • AKT - cymorth i bobl LHDTC+ rhwng 16 a 25 oed 
  • Gendered Intelligence - gweithio gyda'r gymuned draws a'r rhai sy'n cael effaith ar fywydau traws gyda ffocws penodol ar gynnig cymorth i bobl draws o dan 21 oed 
  • Imaan - prif elusen Fwslimaidd LHDTC+ y DU 
  • Stonewall and LGBTQ+ Consortium - gwasanaethau sy'n eich galluogi i ddod o hyd i wasanaethau iechyd meddwl LHDTC+ yn eich ardal leol.

Rhannodd ein Swyddog Anableddau rhan-amser, Emily, ei mewnwelediad ar sail profiad personol o'r stigma sy’n perthyn i iechyd meddwl ymysg pobl ag anableddau:  

“Gall iechyd meddwl ac anableddau fynd law yn llaw. Gall iechyd meddwl ddirywio i bwynt lle mae'n eich analluogi o'ch bywyd bob dydd, a gall anableddau effeithio ar iechyd meddwl rhywun yn sgil hynny. Oherwydd bod gen i brofiad o hyn a'r stigma sy'n gysylltiedig â'r naill a’r llall yn ifanc, rwyf wedi dysgu llawer o ddulliau ymdopi a sut i esbonio i'r bobl hynny sydd â stigma pa mor wahanol yw realiti. 

Cefais lawdriniaeth i fy asgwrn cefn i gywiro fy scoliosis pan oeddwn i’n 13 oed, oedran lle’r oedd ymddangosiad yn wirioneddol bwysig i mi. Nid yn unig hyn, ond ar y pryd roeddwn yn cymryd rhan mewn amryw o ddosbarthiadau dawns, un yn falé, a gall yr amgylchedd mewn lle o’r fath o ran delwedd y corff fod yn wenwynig iawn. Gan fod hyn wedi effeithio arnaf pan oeddwn i’n ieuengach, roedd darganfod bod fy asgwrn cefn yn grwm a bod fy nghluniau’n gam yn dipyn o ergyd i mi. Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n well ar ôl y llawdriniaeth, ond na. Daeth hyn â mwy o broblemau os rhywbeth. Es i o fod yn blentyn heini oedd yn mwynhau Add.Gorff. ac yn mynychu sawl gwahanol ddosbarth dawns yn ystod yr wythnos, i eistedd mewn cadair trwy'r dydd bob dydd yn gwylio'r teledu. Cafodd y newid sydyn hwn mewn ffordd o fyw gryn effaith, ac mae'n amlwg wrth edrych yn ôl faint o bositifrwydd a hapusrwydd roeddwn i’n ei gael o'r holl weithgareddau hynny. Pan geisiais fynd yn ôl i ddawnsio, bu rhaid i mi ddechrau ar lefel lawer is, a suddodd fy hunan-barch. Roedd yn rhaid i mi adael i'm corff wella, ac rydw i’n dal i wrthi hyd heddiw. Rhaid i mi fod yn ofalus gydag unrhyw weithgaredd, sydd wedi peri i mi fod bron yn baranoiaidd ynghylch unrhyw beth a allai effeithio ar fy asgwrn cefn. 

Roedd y rhan fwyaf o fy athrawon yn ystyried bod yr anabledd corfforol hwn “wedi’i ddatrys”; byddai fy athrawon Add. Gorff. yn gofyn i mi bob wythnos pryd y byddwn i’n gallu ddechrau chwarae pêl rwyd a rhedeg o gwmpas eto. Fe wnes i ddweud wrthyn nhw dro ar ôl tro fy mod i'n gwella, a bod hynny’n cymryd blynyddoedd, ond hyd yn oed pan oeddwn i'n teimlo y gallwn i ddechrau eto, doeddwn i ddim eisiau gwneud hynny. Roeddwn i’n rhy ofnus i gymryd rhan, ond wnes i erioed ddweud hynny wrthyn nhw. Dydw i erioed wedi dod allan o hyn yn iawn, hyd yn oed wrth gymryd rhan mewn ymarferion ffitrwydd. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn, rwy'n ceisio herio fy hun. Roedd pethau syml fel mynd am dro hir yn arfer peri cryn boen, ond nawr rydw i'n gallu dal ati am fwy o amser cyn bod angen cymryd hoe neu stopio. I mi, mae hwn yn gyflawniad enfawr, ac rwy'n gobeithio cyflawni mwy a mwy yn y dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth y gwn y gallaf ei wneud i helpu fy iechyd meddwl, yn ogystal â chadw agweddau negyddol fy anableddau dan reolaeth. 

Mae llawer o bobl wedi dweud wrthyf fod y llawdriniaeth bron i 10 mlynedd yn ôl bellach, a’i bod yn bryd i mi symud ymlaen a dechrau gwneud mwy i wella fy ffitrwydd ac unrhyw beth sy’n dipyn o hwyl. Rwyf hyd yn oed wedi clywed pobl yn dweud, oherwydd fy mod yn gallu cerdded yn unionsyth, nad ydw i’n anabl mewn gwirionedd. Ac fe wnaeth hynny fy mrifo i’r byw; fe wnaeth i mi deimlo fel nad oedd fy nheimladau yn ddilys, a fy mod i ar fy mhen fy hun.  

Nid yw'r ffaith bod fy nghefn “wedi’i drwsio” yn golygu fy mod i'n barod i ymddwyn fel pe bai popeth yn iawn. Rwyf wedi siarad â llawer o bobl o bob oedran sydd hefyd wedi cael y llawdriniaeth, ac mae ymatebion pobl yn gymysg. Dechreuodd un ferch syrffio eto flwyddyn ar ôl y llawdriniaeth, ond cymerodd dair blynedd i un dyn deimlo'n gyfforddus i wneud hydrotherapi, rhywbeth a argymhellir dri mis ar ôl llawdriniaeth. A thra bod hyn wedi fy helpu i sylweddoli a derbyn y dylwn gymryd adferiad ar fy nghyflymder fy hun, rwyf hefyd yn ei ddefnyddio fel esgus i beidio â symud ymlaen - rwyf wedi dod o hyd i'm hardal gysur. 

Ni ellir gweld iechyd meddwl. Mae'n gudd; gallaf edrych arnaf fy hun a dweud, “Gwnaeth y llawfeddyg waith gwych, mae fy nghefn wedi’i drwsio ac mae dros 8 mlynedd wedi mynd heibio bellach, cer i ymuno â'r tîm pêl-rwyd”, ond allaf i ddim gwneud hynny. Daw ton o deimlo’n ddiwerth ac yn ddiog drosof, ac mae’n rhaid i mi eistedd i lawr a dweud wrthyf fy hun y bydd yr hyn es i drwyddo pan oeddwn i mor ifanc yn mynd i gael effaith sylweddol arnaf, ac mae’n iawn cymryd pethau gam wrth gam, ar fy nghyflymder fy hun. Ond does dim ots sawl gwaith y gwnaf hyn, byddaf bob amser yn cwrdd â rhywun sy'n dweud wrthyf am roi cynnig arni a bydd popeth yn iawn. Ac ydy, mae hyn yn ddefnyddiol wrth wneud i mi feddwl am faint o gynnydd dwi wedi’i wneud, ond dros amser rydw i wedi dysgu cael y cydbwysedd yn iawn o ran pryd i wthio fy hun - ddim i wneud hynny er mwyn pobl eriall - a phryd i gymryd cam yn ôl a chymryd yr amser a’r lle sydd ei angen arnaf i mi fy hun. Trwy wneud hyn, rwyf hefyd wedi dod yn fwy agored gyda phobl o ran sut ydw i a sut mae popeth yn effeithio arnaf. 

Pan ddychwelais i'r coleg ar ôl fy niagnosis (Awtistiaeth, Dyspracsia, a Syndrom Irlen) fe blymiodd fy iechyd meddwl, a hynny i gyd yn sgil agweddau fy athrawon. Roedd y gefnogaeth a gefais yn anhygoel - roedd y Pennaeth Cymorth i Fyfyrwyr bob amser yn gefn i mi, ond ni fyddai unrhyw beth y gallai hi ei wneud yn newid sut roeddent yn ymddwyn gyda mi. Rwy’n cofio gorfod egluro wrth fy athro Mathemateg pan ofynnodd pam na allwn “yn sydyn” ateb cwestiynau wrth gael fy ngalw a dweud “dwyt ti ddim yn dod drosodd fel rhywun awtistig” ac na fyddai “erioed wedi dyfalu”. Penderfynais ddweud wrtho beth ddigwyddodd y rhan fwyaf o’r amser, pryd bynnag y byddwn yn gofyn i fynd i’r toiled ar ôl ateb y cwestiwn, fod hynny i gael “mini-meltdown”, fel rwy’n eu galw, a thawelu er mwyn i mi geisio ail-ymuno â gweddill y dosbarth. Doedd e ddim yn deall yn iawn o hyd, ond fe gytunodd i fy nghais a gadael i mi benderfynu pryd roeddwn i'n gyfforddus yn ateb cwestiynau. 

Gall anableddau dysgu hefyd arwain at iselder ysbryd a phryder. Mae ymchwil yn awgrymu bod problemau iechyd meddwl ymysg pobl ag anabledd dysgu ddwywaith y gyfradd ar gyfer y rhai sydd heb anableddau o’r fath (Cooper 2007; Emerson & Hatton 2007; NICE 2016). Doedd yr athrawon oedd gen i'r flwyddyn honno o ddim help yn hyn o beth. Gyda fy dyspracsia, rwy'n hynod o ddi-drefn er fy mod yn credu fy mod i’n drefnus, ac roedd hwn yn broblem barhaus gyda fy athro hanes. Roedd fy ffolder yn ofnadwy o flêr, ac er fy mod i’r cael cymorth gan y coleg, a fyddai'n fy helpu gyda'r ffolder hon, ddeuddydd yn ddiweddarach byddai'n llanast eto. Felly byddwn yn aml yn ceisio ymdopi ag athrawes yn dod draw ataf ac yn dweud wrthyf dro ar ôl tro o flaen myfyrwyr eraill fy mod i'n cael cymorth, felly pam ydw i'n bod yn ddiog o ran cadw trefn ar bethau? Ac ni fyddai hi'n rhoi cyfle i mi egluro. Rhoddais gynnig ar hyn, ond roedd cymaint o bynciau’n cael eu trafod, ac roedd y gwaith cwrs hefyd yn llanast, doedd gen i ddim siawns i'w gadw'n drefnus i'r safon roedd hi’n ei ddisgwyl. 

Gwrthododd fy athro arall roi help i mi. Rhan o Syndrom Irlen yw bod gen i sbectol arlliw, ond roedd yn well gen i ddarllen y papur lliw cywir gan fod y sbectol yn dal i beri i'm llygaid frifo ychydig. Gwrthododd argraffu fy ngwaith oherwydd bod y sbectol gennyf, ac roedd yn gwneud ei swydd yn anoddach - er mai'r cyfan yr oedd yn rhaid iddo ei wneud oedd gofyn am un copi ar bapur glas.  

Bu rhaid i mi ffugio a darganfod dulliau o ymdopi am y deuddeng mlynedd gyntaf o fy addysg, ac oherwydd hyn, doedd fy athrawon ddim yn deal, ac roedd yn ymddangos fel pe bai nhw ddim eisiau gwneud hynny.  

Gwnaeth hyn i mi deimlo'n eithaf gwirion, a bod yn onest. Es i drwy gyfnod lle roeddwn i'n casáu fy mod i wedi dod o hyd i ffyrdd o ymdopi â'r byd oherwydd ar gyfer y flwyddyn olaf honno yn y coleg, gallai fy athrawon fod wedi dangos mwy o ddealltwriaeth. Cymerodd beth amser i mi sylweddoli nad fy mai i oedd dim o hyn; roedd gen i athrawon anwybodus oed yn rhagfarnllyd yn erbyn fy anabledd. Pan ddechreuais yn y brifysgol, gwelais sut beth yw system addysg sy’n barod i dderbyn pobl, ac felly dechreuais osod safonau ar gyfer yr hyn yr wyf yn ei ddisgwyl o'r gweithle. Nid wyf am fod yn rhy oddefol, pan rwyf yn gwybod sut y dylwn gael fy nhrin, a sut mae fy anableddau yn effeithio arnaf. 

Yn anffodus, mae yna leoedd o hyd lle nad yw'r rhai ag anableddau yn cael eu hystyried mor 'alluog’ â’r rheiny sydd heb anableddau, ac felly mae'n arwain at y 'bwlch canran anabledd' (Dixon et al, 2018). Mae polisïau fel Gweithredu Cadarnhaol yn helpu i gydbwyso canrannau cyflogaeth ar gyfer mwy na'r rheiny sydd ag anableddau yn unig. Er gwaethaf hyn, roedd 32% o’r rhai a ymatebodd i Arolwg Agweddau Prydain yn 2017 o'r farn nad yw pobl anabl mor gynhyrchiol â phobl sydd ddim yn anabl. Ond mae yna systemau ar waith, a phethau y gallwch chi eu gwneud i helpu. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnwys y rheiny sydd ag anableddau, yn feddyliol - gydag achosion o iechyd meddwl yn dod o dan y ddeddf hefyd - ac yn gorfforol, ac mae'n eich helpu i ymladd a dadlau eich achos pan fydd angen i chi wneud hynny. Wrth chwilio am gyflogaeth, mae gennym y dewis i roi gwybod i'r cyflogwr ar unrhyw adeg os oes gennym ni anabledd, ac os penderfynwn wneud hynny, gallwn roi gwybod iddynt beth yw ein hanghenion ac a oes angen unrhyw newidiadau i'r amgylchedd gwaith. Gallwn hefyd ofyn am Fynediad i'r Gwaith am gymorth ychwanegol, sy'n cynnwys help ym maes iechyd meddwl. Mae ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth am anableddau yn helpu hefyd. Ar hyn o bryd mae yna ddigonedd o ymchwil sydd angen ei gyllido, ac elusennau sydd angen cefnogaeth i barhau i helpu'r rhai sydd mewn angen.  

A chofiwch fod angen i chi ofalu amdanoch chi'ch hun yn gyntaf. Trwy flaenoriaethu eich iechyd meddwl a sut mae'ch anabledd / anableddau yn effeithio arnoch chi, byddwch chi'n helpu'ch hun i wella. Mae terfyn ar faint o helpu eraill y gall rhywun ei wneud pan fydd angen help arnyn nhw eu hunain.  

Mae'n anodd mynd trwy unrhyw frwydr iechyd meddwl, ac mae'n teimlo'n waeth pan nad yw'r rhai o'ch cwmpas yn deall, ac sydd â rhagfarn ynghylch sut mae'ch anabledd yn gweithio neu ddim yn gweithio.  Ond fel y dywedais, mae cymaint yno i’n helpu ni, a chymaint y gallwn ni ei wneud i helpu eraill ar ôl i ni weithio’n ffordd heibio i’n hanawsterau ein hunain a helpu ein hunain.” 

 

Felly beth allwn ni wneud ynghylch stigma?  

Mae maint y stigma sy’n perthyn i iechyd meddwl yn syfrdanol, a chipolwg yn unig yw’r mewnwelediadau rydyn ni wedi'u cynnwys yma, felly beth allwn ni ei wneud? 

Mae gan Camh (www.camh.ca) restr wych o ffyrdd y gallwn ni fynd i'r afael â stigma: 

 

Gwybod y ffeithiau  

Addysgwch eich hun am salwch meddwl fel y byddwch chi’n ddeall beth i’w wneud os yw'ch ffrind yn dod atoch chi am gymorth / atgyfeirio. 

 

Dewiswch eich geiriau’n ofalus

Mae'n rhy hawdd defnyddio enw anhwylder fel jôc neu ymadrodd cyfleus heb olygu dim niwed, ond gall effeithio ar y rhai o'n cwmpas! 

 

Addysgwch eraill

Trosglwyddwch ffeithiau ac agweddau cadarnhaol, heriwch y mythau a'r ystrydebau! 

 

Byddwch yn gefn i bobl!

Dylech drin pawb ag urddas a pharch  

 

Mae’n bwysig cynnwys pawb!

Peidiwch â chamwahaniaethu na gadael ffrind allan os ydyn nhw'n mynd trwy gyfnod anodd; mae’n debygol mai dyna pryd fyddan nhw eich angen chi fwyaf! 

 

Felly, ble allwn ni fynd i gael cymorth? 

Mae yna sawl gwahanol wasanaeth, ac rydw i wedi cynnwys rhai argymhellion isod

 

Gwasanaethau Myfyrwyr yn PCyDDS

Mae'r brifysgol yn cynnig gwasanaeth cymorth a chwnsela am ddim, e-bostiwch yr Hwb a byddant yn eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun!  

 

PAPYRUS – www.papyrus.org.uk 

Mind - www.mind.org.uk 

No Panic - www.nopanic.org.uk 

Fforwm Iechyd Dynion www.menshealthforum.org.uk 

SMART Recovery UK - smartrecovery.org.uk 

Gofal Profedigaeth Cruse  - www.cruse.org.uk 

Family Lives - www.familylives.org.uk 

 

I gael mwy o wybodaeth am y rhain a llawer o rai eraill, ewch i Wefan y GIG  - www.nhs.uk 

 

Os oes gennych chi unrhyw brofiad o ran chwalu stigma, neu os ydych chi wedi’i wynebu eich hun, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Gyda'n gilydd, gallwn ni greu newid cadarnhaol. Gyda'n gilydd, gallwn ni roi cymorth i'r rhai sydd ei angen. Gyda'n gilydd, gallwn chwalu'r stigma o amgylch iechyd meddwl.  

 

Gan Tammy Bowie 

 

#UWTSDSUBustingStigmas 

 

 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...