Yn y bôn, cyfarfod mawr a gynhelir dair gwaith y flwyddyn ar bob campws yw Cyngor y Campws. Yn y cyfarfod hwnnw, bydd aelodau Cyngor yr Undeb (Swyddogion Rhan-Amser a Swyddogion Sabothol) i gyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud, a bydd cyfle ganddyn nhw i ateb cwestiynau. Mae croeso i bob Myfyriwr fynychu
Mae Cynghorau Campws yn gam pwysig wrth sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn parhau i fod yn atebol i'r myfyrwyr y mae'n eu cynrychioli. Mae Cynghorau Campws yn gyfle i fyfyrwyr siarad â'u cynrychiolwyr myfyrwyr a'u dwyn i gyfrif am weithredu’r hyn sydd yn eu maniffestos. Fe gewch chi well syniad o'r hyn mae eich cynrychiolwyr yn ei wneud o ran eirioli dros gorff y myfyrwyr, y prosiectau maen nhw'n gweithio arnyn nhw, a'r cynnydd maen nhw wedi'i wneud. Mae Cynghorau Campws hefyd yn gyfle i fyfyrwyr gyflwyno syniadau i'r cyngor. Yno, fe gynhelir pleidlais arnyn nhw a'u symud ymlaen i'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol os ydyn nhw'n llwyddiannus.
Bydd yr agenda’n cael ei chyhoeddi cyn Cyngor y Campws. Bydd yr agenda’n cynnwys manylion yr hyn fydd yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod. Yn ystod y cyngor, bydd Llywydd eich Campws, Swyddogion Rhan-Amser, a Chynrychiolwyr Llais Myfyrwyr (?) yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y math o bethau maen nhw wedi bod yn gweithio arnyn nhw, a pha gynlluniau sydd ganddyn nhw. Wedyn, byddwn yn pleidleisio ar unrhyw gynigion neu eitemau eraill ar yr agenda. Ar ôl hynny, bydd cyfle i fyfyrwyr ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.
Caerdydd
24ain Tachwedd 14:00 - 15:00
Ar-lein Microsoft Teams
https://www.uwtsdunion.co.uk/events/cardiff-campus-council
Caerfyrddin
25ain Tachwedd 13:00 -14:00
Y Clwb, Undeb y Myfyrwyr
Hybrid – wyneb-yn-wyneb ac ar Microsoft Teams
https://www.uwtsdunion.co.uk/events/carmarthen-campus-council-7d6f
Abertawe
26ain Tachwedd 17:00 - 18:00
Canolfan Dylan Thomas, Undeb y Myfyrwyr
Hybrid – wyneb-yn-wyneb ac ar Microsoft Teams
https://www.uwtsdunion.co.uk/events/swansea-campus-council-da32
Llundain
27ain Tachwedd 10:00 - 11:00
Ar-lein
https://www.uwtsdunion.co.uk/events/london-campus-council
Birmingham
28ain Tachwedd 10:00 -11:00
Ar-lein
https://www.uwtsdunion.co.uk/events/birmingham-campus-council