Yn ystod y mis diwethaf, dwi wedi bod yn cerdded y cŵn yn Llys Nini; gwnaed y cyfle hwn yn bosib gan yr UM. Fel rhywun sy'n hoff iawn o gŵn, roeddwn yn gwybod y byddai hyn yn rhywbeth y buaswn i'n ei wneud yn aml, ac roeddwn i'n iawn! Mae fy nghariad i a fi'n gwirfoddoli yno sawl gwaith yr wythnos (ac efallai ein bod ni'n cynllwynio sut i gael 40 o gŵn yn ein car...). Gan fy mod i yn fy nhrydedd flwyddyn, mae cryn lawer o bwysedd gwaith, a does gen i fawr ddim amser i feddwl am unrhyw beth ar wahân i ddyddiadau cyflwyno gwaith a thraethawd estynedig, sy'n gwneud hyn mor berffaith i mi! Mae tystiolaeth y gall anwesu cŵn helpu i lacio straen a thyndra, yn ogystal â gwella iechyd meddwl. Mae treulio amser gyda'r cŵn, a chael cyfle i adael y tŷ am resymau ac eithrio mynd i'r brifysgol neu Tesco yn hynod o braf! Dwi'n gwirfoddoli yn bennaf oherwydd fy mod i wedi gwirioni ar gŵn, ond hefyd am fy mod i'n awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau'r cŵn.
Mae gwirfoddoli'n beth gwych; byddwch yn teimlo'n dda ynglŷn â chi eich hun am gymryd rhan, ynghyd â'r teimlad eich bod chi'n gwneud gwahaniaeth. Yn yr achos hwn, cewch gyfle i ddod i adnabod y cŵn wrth fynd â nhw am dro tra byddant yn aros am eu cartref perffaith. Mae llawer o bobl yn dweud na allent wneud hyn oherwydd y byddent yn teimlo'n wael am adael y cŵn, ond y gwir yw, mae gwybod eich bod chi'n gwneud cymaint o wahaniaeth yn gwneud y cyfan yn brofiad gwerth-chweil. Byddwch hefyd yn gweld gwahaniaeth er gwell yn y cŵn y byddwch chi'n mynd am dro gyda nhw. Pan ddechreues i a fy nghariad fynd a dau Bullwhip am dro, roedden nhw'n lletchwith ac anghyfeillgar, ond nawr maen nhw'n neidio ar hyd y lle bob tro maen nhw'n ein gweld ni! Mae gweld eu hymddiriedaeth ynddon ni, a'u gweld nhw'n datblygu fel y gallan nhw gael eu hail-gartrefu, yn deimlad amhosib ei ddisgrifio.
Dwi'n gwybod bod y brifysgol yn llawn pobl sydd wedi gwirioni ar gŵn; dwi wedi cwrdd cymaint ohonyn nhw pan fyddaf yn cerdded fy nhi o amgylch y campws. Mae amryw o bobl yn siarad â fi am gymaint maen nhw'n methu eu cŵn gartref neu'n son am ba mor dda mae'n teimlo i fod yng nghwmni cŵn. Dyma'r peth perffaith i chi! Dewch i fynd â chŵn am dro a mwytho cŵn bach sydd angen rhywun i'w caru nhw! Mae cymryd rhan yn hawdd iawn, a'r ffordd hawddaf yw cysylltu ag Andrew.Jones@Uwtsd.ac.uk a fydd yn trefnu'r cwbl i chi. Mae trafnidiaeth wedi'i drefnu bob yn ail ddydd Mercher, felly does dim angen gofidio am gostau teithio! Mae'n ddigon hawdd rhoi eich amser i gi mewn angen, yn ogystal â helpu eich hun i ymdopi â phwysedd gwaith yn y brifysgol.