Dom Day

Dydd Mercher 15-11-2017 - 09:00

Mae'n anodd credu bod blwyddyn gyfan wedi mynd heibio ers i ni golli ein ffrind, cyd-chwaraewr pêl-fasged a chyd-fyfyriwr PCYDDS, Dominic Newton.

 

Bu farw Dom yn Hydref 2016 yn sgil cyflwr heb ei ganfod yn ei galon. Roedd e'n chwaraewr pêl-fasged brwd ac yn aelod o dîm Tylluanod PCYDDS Abertawe. Felly er cof amdano, aethom ni ati i godi arian a chynnal twrnamaint pêl-fasged – a helpodd i godi dros £4000 at yr elusen CRY, Cardiac Risk in the Young, sy'n bwriadu atal marwolaethau cardiaidd sydyn drwy ymwybyddiaeth, sgrinio ac ymchwil, yn ogystal â chefnogi teuluoedd mae hyn yn effeithio arnynt.

 

DOM DAY: 1pm Ddydd Sadwrn 18 Tach 2017 @ LC Abertawe 

 

Rydyn ni am ddatblygu ar lwyddiant llynedd a chodi hyd yn oed mwy o arian eleni. Felly ddydd Sadwrn 18 Tachwedd, byddwn ni'n cynnal ‘Diwrnod Dom’, sef diwrnod o ddathlu bywyd Dom gyda thwrnamaint pêl-fasged, gwerthiant cacennau, set DJ byw, hwyl a sbri i bawb a raffl na fyddwch chi am ei golli. Cynhelir y digwyddiad yn

LC Abertawe rhwng 1pm a 9pm. Yna byddwn ni'n cwrdd yn Li’l London am fwyd a diod o 9.30pm ymlaen.

 

 

Rydyn ni am i chi gymryd rhan! Bydd croeso cynnes i chi ddod i ddigwyddiad Diwrnod Dom a'r ôl-barti yn Li’l London. Mae disgwyl iddo fod yn ddiwrnod gwych a bydd yn helpu i gefnogi achos gwych.

 

DOM DAY RAFFL!

 

A bydd raffl! Bydd hi'n cael ei thynnu yn ystod Diwrnod Dom. Bydd llwyth o wobrau gwych i'w hennill.

  1. Kon Tiki - Drinks Package worth £150

  2. Peppermint Swansea - Bottle of Grey Goose and VIP package

  3. Bambu - Karaoke room for 2hrs & bottle of prosecco to share for you and 10 guests

  4. BrewStone - £50 bar/food tab

  5. The Bucket List - 4 x Burgers & a bucket of beers

  6. Gower Tours - Two places on the Gower Coastal Tour (Worth £38 each)

  7. Popworld - Bottle of jagermeister, £20 Bar tab, and a booth with champagne on a Friday.

  8. Starvin’ Jacks - Three £10 vouchers

  9. Walkabout - Free entry, VIP booth for 10 people, Bottle of Vodka and champagne.

  10. Go Ape - 6 Adult Tickets

  11. Carmarthen Golf Club - 4 Ball Voucher

  12. Tenpin Swansea - One free game voucher (Up to 6 people)

  13. TSDSU- Google Chromecast & Hoody

  14. Gower activity center - Free activity session for up to 12 people worth £540

  15. Corie -  Dom Newton Forever Print

  16. The LC  - 1 year membership

  17. The LC - Family Water Park Passes

  18. The LC - Climb & Boardrider Passes

  19. The LC - Spa Passes

  20. Lil London - VIP bus booth and free bottle of house vodka

  21. Juniper Place / Old Havana - 50% off voucher

  22. VUE Cinema - 4 Family tickets (4 people per ticket)

  23. Zinco Lounge - £10 voucher

  24. Waterstones - Children's Books

  25. Nandos Swansea - One full platter

  26. Reverse - Free T shirt

  27. Thorntons - Box of chocolates

  28. Ospreys - Signed Rugby Ball

  29. Sin City - Sin City Blackcard, queue jump and free entry all year round.

  30. Lonsdale London Pink Boxing Gloves

  31. Xcel Bowl Carmarthen - Free lane hire (1 hour)

  32. Odeon Swansea - 2 free Tickets

  33. Limitess - 4 free tickets

  34. Uplands Diner - £20 Voucher

  35. Unit 19 - Voucher for Prosecco

  36. Bottle of Penderyn Whisky

  37. Folly Farm - 2 Complimentary Tickets

  38. Tapestri Bistro - £30 Voucher

  39. £23.00 Earthenware Dish

  40. £18.00 Blue striped large bowl

  41. £9.50 Blue Cawl Bowl

  42. 4 Dylan Mugs worth £12.00 each

 

Pris tocyn yw £2 a bydd angen i chi fynnu'ch un chi cyn 18 Tachwedd. Am gyfle i ennill, dewch i swyddfa Undeb y Myfyrwyr yn Mount Pleasant neu ewch i'n tudalen JustGiving (www.justgiving.com/fundraising/dominicnewton). Bydd angen i chi adael eich enw a'ch cyfeiriad e-bost. Bydd yr holl arian a godir yn mynd at CRY.

 

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi ar y diwrnod a hoffem ni ddiolch i chi am eich cefnogaeth!

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...