Crynodeb olaf Swyddogion Sabothol 2024/25

Dydd Gwener 27-06-2025 - 13:24
Sabb report 2425 thumbnail

Rydym yn agosáu at ddiwedd y flwyddyn academaidd 2024/25 - a dyma’r crynodeb olaf gan ein swyddogion sabothol, Maria, Natalie, a Rhobyn. A chyn i ni drafod eu buddugoliaethau, rydyn ni eisiau diolch o galon iddyn nhw am eu holl angerdd, eu hymroddiad, a'u cyfraniadau at wneud bywyd myfyrwyr yn PC y Drindod Dewi Sant y gorau y gall fod - maen nhw wedi gadael eu marc yn sicr. Gadewch i ni grynhoi eu buddugoliaethau.

Natalie Beard, Llywydd Campws Abertawe

Sgwrs gyda Nat

Rhoddodd y sesiynau galw-heibio hyn gyfle i fyfyrwyr gael sgwrs gyda Nat a myfyrwyr eraill, gwneud ffrindiau, chwarae ychydig o gemau, mwynhau byrbrydau, a siarad am y pethau oedd yn bwysig iddyn nhw, boed hynny am eu profiad yn y Brifysgol neu gwestiynau am gymorth.

Cyfarfod â Vikki Howells ASC

Cyfarfu Natalie â Vikki Howells ASC, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn Llywodraeth Cymru, ar ddechrau ei chyfnod yn y swydd. Siaradodd Vikki am ei meysydd blaenoriaeth, ac roedd Natalie yn falch o glywed y byddai iechyd meddwl myfyrwyr yn un o flaenoriaethau Vikki. Yna parhaodd Nat i gefnogi llesiant myfyrwyr gyda gwahanol brosiectau am y 6 mis olaf o'i rôl.

Ymgyrch Costau Byw

Nod ymgyrch Costau Byw Nat oedd helpu myfyrwyr sy'n cael trafferth gyda chostau cynyddol ar hyn o bryd trwy ddarparu cynhyrchion glanweithiol a hylendid am ddim yn ein gorsafoedd 'Dewis a Dethol' sydd wedi'u gwasgaru ledled campysau Abertawe, a gofyn i fyfyrwyr sut yr hoffent gael eu cefnogi yn y dyfodol.

Mannau Cymdeithasol

Mae gofod cymdeithasol sydd ar gael i fyfyrwyr ei ddefnyddio yng Nghanolfan Dylan Thomas wedi agor; mae pob rhyddid i fyfyrwyr ddod i mewn a threulio amser gyda gemau bwrdd, a PS5. Mae ffyrnau micro-don a thegelli hefyd wedi'u gosod yng Nghaffi Dinefwr, ac yn ardal Undeb y Myfyrwyr yn adeilad IQ, fel y gall myfyrwyr gynhesu eu bwyd a'u diod.

Sticeri Llesiant

Lansiodd Natalie a Gwasanaeth Llesiant y Brifysgol ymgyrch yn seiliedig ar sticeri i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth llesiant. Mae pum sticer, pob un â neges wahanol, ond mae pob un yn cysylltu myfyrwyr â thudalen ar gyfer cefnogaeth llesiant. Mae timau'r Undeb a'r Brifysgol wedi'u gosod o amgylch y campws mewn ardaloedd lle gall myfyrwyr eu gweld yn amlach.

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Dan arweiniad Nat, thema'r prosiect oedd "cymuned", a arweiniodd at weithgareddau a hyfforddiant yn digwydd ar draws campysau. Roedd hyfforddiant fel “Hyfforddiant Gofalu am Eich Cyfaill” a “Hyfforddiant Rhagfarn ac Ymyriad Gwyliedydd” yn rhan o’r ymgyrch. Roedd yna weithgareddau ystyriol hefyd, o liwio a chrefftau clai, i greu negeseuon yn Abertawe, Birmingham, a Chaerfyrddin.

“Mae wedi bod yn bleser pur cynrychioli myfyrwyr yma yn y Drindod Dewi Sant am y ddwy flynedd ddiwethaf, gan eich cefnogi trwy eich brwydrau, ymgyrchu dros newid a bod wrth eich ochr trwy eich buddugoliaethau. Rydw i wedi bod yn rhan o gymuned PCyDDS ers 2018 pan ddechreuais i fel myfyriwr yma fy hun, ac mae'r bobl a'r diwylliant yma, yn y Brifysgol ac yn Undeb Myfyrwyr, wedi dod yn rhan enfawr o fy mywyd, a byddaf yn drist iawn i'w gadael ar ôl. 

Dydw i ddim yn siŵr beth sydd gan y bennod nesaf i'w gynnig; rwy'n gobeithio parhau i weithio ym maes AU a dal ati i wneud gwahaniaeth lle gallaf, ond rwy'n gwybod y byddaf yn parhau i ddilyn diweddariadau'r Brifysgol a'r Undeb yn agos i weld yr holl bethau anhygoel y mae ein myfyrwyr presennol yn eu gwneud. Rwy'n falch o bopeth rydych chi wedi’u cyflawni ac yn ddiolchgar o fod wedi cael gweithio gyda chydweithwyr a chynrychiolwyr myfyrwyr mor anhygoel i helpu â llunio eich profiad fel myfyrwyr".

- Natalie Beard, Llywydd Campws Abertawe 2023/24 a 2024/25


Rhobyn Grant, Llywydd Campws Llambed

Mis Hanes Pobl Dduon

Arweiniodd Rhobyn Fis Hanes Pobl Dduon gyda digwyddiadau ym mis Hydref 2024. Dechreuodd y mis gyda Gweithdy Gwrth-Hiliaeth a gynhaliwyd gan Lywydd Undeb Aberystwyth, Bayanda Vundamina. Fe'i cynhaliwyd yn Llambed ac ar-lein, ac roedd yn trafod pynciau fel sut olwg sydd ar hiliaeth mewn addysg uwch, hiliaeth gudd ac agored, a bod yn wyliedydd gweithredol.

Yna daeth Noson Meic Agored yn llwyfan bywiog i leisiau ar gampws Llambed. Cafodd y myfyrwyr gyfle i arddangos barddoniaeth, cerddoriaeth ac adrodd straeon a oedd yn dathlu profiadau amrywiol. Yna cynhaliwyd Nosweithiau Ffilm ar draws Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe, yn cynnwys ffilmiau difyr a oedd yn annog trafodaethau ystyrlon am hil a hunaniaeth.

Mewn cydweithrediad â'r darlithydd o Lambed, Andy Bevan, dangoswyd 'Sugar Lands' gan y gwneuthurwr ffilmiau Vincentian arobryn, Akley Olton, yn ystod Panel Dad-wladychu'r Cwricwlwm. Wedi hynny, cafwyd sesiwn holi ac ateb gyda Rhobyn ac Andy, â’r nod o archwilio thema dad-wladychu'r cwricwlwm. I gloi pethau cynhaliwyd gweithdy Treftadaeth Ysgrifennu dan ofal y myfyriwr Tunji Offeyi, yn archwilio sut mae cefndiroedd diwylliannol yn dylanwadu ar adrodd straeon.

Ochr-yn-ochr â'r digwyddiadau hyn, cynhaliwyd Helfa Lyfrau ar bob campws. Pwrpas yr helfa yw ehangu gorwelion pobl a thynnu sylw at awduron nad ydyn nhw bob amser yn cyrraedd y rhestrau darllen arferol, yn ogystal â rhestr wylio ar gyfer ffilmiau a luniwyd gan Rhobyn.

Ymgyrch Dyfodol Llambed

Yn 2024, cyhoeddodd y brifysgol eu cynnig i symud cyrsiau o Lambed i Gaerfyrddin, a chasglodd Rhobyn adborth myfyrwyr a'i gyflwyno i'r Brifysgol i gynrychioli myfyrwyr Llambed ac i sefydlu llinell gyfathrebu glir a thryloywder ynghylch y sefyllfa. Mae Rhobyn hefyd wedi sicrhau gostyngiadau ar gyfer cost llety i fod yn gyson â'r hyn y mae'r myfyrwyr yn ei dalu yn Llambed. Hefyd cynhaliwyd gweithdy trefnu myfyrwyr, yn ogystal â sesiwn datblygu sgiliau, a hyfforddiant sylfaenol ar gyfer ymgyrchu i fyfyrwyr.

Gweithdy Ymwybyddiaeth Iechyd Rhywiol

Gweithiodd Rhobyn gyda'r tîm Llesiant i gynnal Gweithdy Ymwybyddiaeth Iechyd Rhywiol fel rhan o nod ehangach i sefydlu adnoddau ar gyfer goroeswyr ymosodiad ac aflonyddu rhywiol. Nod y gweithdy oedd dod ag ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ac iechyd rhywiol i'r amlwg, ac fe'i cynhaliwyd ym mis Chwefror 2025.

Dadwladychu'r Cwricwlwm

Arweiniodd Rhobyn ymgyrch barhaus i ddad-wladychu'r cwricwlwm trwy gydol y flwyddyn academaidd. Cydweithiodd â phennaeth arfer academaidd i helpu â hyrwyddo hyn ledled y brifysgol. Roedd hyn yn cynnwys ffilmio fideo byr 5-8 munud a oedd yn egluro beth mae dad-wladychu'r cwricwlwm yn ei olygu, pam ei fod yn bwysig, a sut y gellir ei weithredu. Dosbarthwyd y fideo ymhlith adrannau i'w ddefnyddio mewn sesiynau hyfforddi staff. Yn ogystal, dyluniodd Rhobyn ddeunyddiau hyfforddi – gan gynnwys llyfr gwaith PowerPoint a chanllaw ar ffurf dogfen Word i ddarlithwyr eu defnyddio wrth adolygu eu dulliau addysgu. Cynlluniwyd sesiynau gyda siaradwyr allanol, a dechreuodd rhai darlithwyr weithredu'r trafodaethau hyn o fewn eu hadrannau. Mae'r gwaith hwn yn gosod y sylfaen ar gyfer cwricwlwm mwy cynhwysol a chynrychioliadol yn y Drindod Dewi Sant.

“Rwyf mor ddiolchgar o fod wedi cael y cyfle hwn. Roedd yn bleser eich gwasanaethu chi i gyd ac rwy'n dymuno llwyddiant i chi yn eich teithiau academaidd a’ch dyfodol.”

- Rhobyn Grant, Llywydd Campws Llambed 2024/25


Maria Dinu, Llywydd y Grŵp

Eich Llais, Fy Nghlustiau

Sesiynau galw-heibio a gynhaliwyd gan Maria ar gampws Canary Wharf yn Llundain ar gyfer myfyrwyr sydd â chwestiynau llosg am fywyd Prifysgol, sydd angen cymorth, neu sydd ond eisiau sgwrs. Cynhaliwyd y sesiynau hyn ym mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 2024.

Lobïo ASau dros Fyfyrwyr mewn Llety Preifat

Cysylltodd Maria â’r Aelodau Seneddol (ASau) sy’n cynrychioli etholaeth pob campws yn PCyDDS a lobïo’r aelodau hynny; hefyd cyfarfu â dau ohonynt yn San Steffan ar 23ain Hydref 2024. Roedd Maria yn lobïo ynghylch y materion sy'n effeithio ar fyfyrwyr ar draws y sector Addysg Uwch, gan ganolbwyntio ar dai a gwarantwyr/y Bil Hawliau Rhentwyr.

Cefnogi Myfyrwyr ag Anableddau

Ar gyfer Mis Hanes Anabledd, cydweithiodd Maria â'r Brifysgol ar ymgyrch "Cefnogi Ymwybyddiaeth o Fyfyrwyr ag Anableddau" i helpu myfyrwyr i lywio prosesau'r brifysgol a rhoi arweiniad ynghylch cael mynediad at Lwfans Myfyrwyr Anabl. Cyhoeddwyd erthygl ar wefan Undeb y Myfyrwyr yn trafod beth yw Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), y gofynion ar gyfer cofrestru, camau yn y cais am DSA, yn ogystal â rhai Cwestiynau Cyffredin.

Fframweithiau Bwrsariaeth wedi'u Symleiddio

Cydweithiodd Maria â thîm Cymorth Ariannol y Brifysgol i greu adnodd ar-lein ar gyfer ei gwneud yn haws deall a llywio fframwaith bwrsariaeth PCyDDS.

Mis Hanes LHDTC+

Ar gyfer Mis Hanes LHDTC+, lansiodd Maria ymgyrch i fyfyrio ar gynnydd, anrhydeddu gwydnwch yr aelodau LHDTC+ a aeth o'n blaenau, ac ymrwymo i'r gwaith sydd ei angen i gyflawni cydraddoldeb a chynhwysiant. Cyhoeddwyd Arddangosfa Ar-lein yn arddangos cyfraniadau sylweddol unigolion at gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a hawliau dynol.

Cynhaliwyd Helfa Llyfrau Llenyddiaeth Cwïar, yn cynnwys teitlau fel, From Prejudice to Pride ac A Journey Through Time: Cafodd copïau o Stori Hanes LHDTC+ eu cuddio ar draws pob campws yng Nghymru a Lloegr i fyfyrwyr ddod o hyd iddynt a'u cadw! A chynhaliwyd trafodaeth banel wedi'i recordio gyda'r pwnc Dyfodol ac Actifiaeth LHDTC+ gan Maria ochr-yn-ochr â siaradwyr gwadd ar hawliau LHDTC+, gofal iechyd, iechyd meddwl, hygyrchedd ac arferion cynhwysol. Yna cyhoeddwyd y drafodaeth banel ar sianel YouTube Undeb y Myfyrwyr.

Cydweithio â’r Brifysgol

Cydweithiodd Maria â'r Brifysgol a sefydliadau allanol i ddarparu bargeinion bwyd i fyfyrwyr mewn peiriannau gwerthu Selecta a chynyddu hygyrchedd i’r rhain – mae'r prosiect hwn hefyd wedi'i drosglwyddo i'r swyddogion newydd ar gyfer 2025/26.

Hygyrchedd

Gweithiodd Maria ar gynyddu hygyrchedd i wasanaethau a champysau’r Brifysgol i fyfyrwyr ag anableddau symudedd a chreu adnoddau ar-lein ar gyfer mynediad i ddysgwyr o bell a llywio hawdd yn gyffredinol.

"Mae gweithio i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a chael y cyfle i gynrychioli pob myfyriwr, nid yn unig i staff y Brifysgol ond hefyd i ASau, UCM, ac ar raddfa genedlaethol wedi bod yn fraint fawr y byddaf yn ddiolchgar amdani am byth. I'r rhai sydd wedi fy ethol, i'r rhai sydd wedi credu ynof fi, y rhai sydd wedi codi eu materion gyda mi ac wedi cydweithio â mi... o waelod fy nghalon, DIOLCH YN FAWR!!! Dydw i ddim yn gwybod beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig ond rwy'n gwybod, beth bynnag rydych chi am ei gyflawni, mae hyn o fewn eich cyrraedd; cydweithio, cyfathrebu, gofyn am help - defnyddiwch eich llais bob amser i eirioli; gallwch gyflawni newidiadau gwych dim ond trwy godi eich llais! Diolch i chi i gyd am yr holl atgofion gwych eleni, byddaf yn trysori'r rhain am byth a byddaf bob amser mor falch o'r holl bethau rydych chi wedi’u cyflawni, o raddio i sefydlu cymdeithasau; roedd gweld yr holl bethau anhygoel y mae ein myfyrwyr wedi'u gwneud a'u cyflawni bob amser yn dod â gwên i'm hwyneb.

Mae gweithio gyda thîm mor anhygoel yn Undeb y Myfyrwyr a chydweithwyr yn y Brifysgol a oedd bob amser yn awyddus i wrando a chefnogi wedi bod yn bleser, ac mae gwybod fy mod i'n helpu i wella profiad y myfyrwyr a'm bod i wedi bod yn eich cynrychioli chi i gyd wedi gwneud fy mhrofiad gymaint yn well. Mae'r angerdd a'r ymroddiad sydd gen i dros eiriolaeth ac effaith gadarnhaol wedi cynyddu yn ystod fy nghyfnod fel Llywydd ac rwy'n gobeithio parhau i gyflawni newidiadau cadarnhaol lle bynnag y mae bywyd yn fy arwain. Diolch yn fawr iawn i chi gyd am flwyddyn mor anhygoel. Hoffwn orffen y bennod hon o fy nhaith ar yr un nodyn ag y dechreuais hi; nid cyrchfan yw llwyddiant ond taith, ac mae pob cam, ni waeth pa mor fach, yn rhan o'r daith honno!"

- Maria Dinu, Llywydd y Grŵp 2024/25

Categorïau:

Sabbatical Officers

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...