Heddiw yw dechrau Wythnos Iechyd Meddwl. Yma yn Undeb y Myfyrwyr, byddwn yn ymdrin â gwahanol bynciau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, darparu adnoddau, a hyrwyddo positifrwydd.
Mae ein hwythnos yn cychwyn gyda bwyd a hwyliau. Rydyn ni am i chi rannu'ch hoff fwydydd, yr hyn sy’n gwneud i chi deimlo’n iach a’r pethau sy’n codi eich ysbryd. I ddechrau ar hyn, mae tîm yr UM wedi rhannu eu hoff fwydydd.
Cytunwn yn llwyr y gall diet cytbwys fod o fudd i'ch iechyd a'ch llesiant; mae’n hysbys bod bwyta'ch 5-y-dydd, yfed digon o ddŵr a gwneud rhywfaint o ymarfer corff ysgafn yn gallu rhoi hwb i’ch hwyliau. Ond weithiau, mae'n haws dweud na gwneud hyn; gyda therfynau amser ar y gorwel, gweithio'n rhan-amser a cheisio cydbwyso bywyd yn gyffredinol - gall y cyfan deimlo ychydig yn ormod.
A ddylem ni fod yn flin â ni ein hunain os ydym yn cael pryd sy’n llai nag iachus? Dydyn ni ddim yn meddwl hynny - mae'n ymwneud â bod yn gymhedrol wedi’r cyfan.
Rydyn ni am i chi rannu â ni’r bwydydd sy'n rhoi hwb i’ch hwyliau - p'un a yw hynny'n fwyta'n iach neu'n rhywbeth ychydig yn fwy moethus. Ewch i'n Instagram i gymryd rhan a gwneud eich argymhelliad.
#StudentMentalHealth #MoodFood
Treat-yo-self: Rebecca's go-to gelato.
James Go-To Pizza.
Treat-yo-self: Channelling his inner Paddington Bear, Matthew with Marmalade.
Treat-yo-self: Steve and his love of Nutella.
Treat-yo-self: Euan's love of chocolate.
Health Kick: Euan's love of oranges.
Steak, Georgia's go-to comfort meal.