Llongyfarchiadau ar sicrhau eich lle yn y brifysgol! Efallai eich bod chi'n meddwl, beth nesaf? Mae yna gryn dipyn o bethau i'w hystyried, ac mae gennym ni lawer o ffyrdd i'ch helpu â hynny, gan gynnwys ein rhestr wirio ddefnyddiol
Rhywbeth a all helpu i'ch amddiffyn wrth i chi ddechrau yn y brifysgol, fodd bynnag, yw gwneud yn siŵr, os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, eich bod chi'n cael eich brechlyn llid yr ymennydd! Os ydych chi o dan 25 oed, neu, os ydych chi'n dechrau yn y brifysgol am y tro cyntaf, cysylltwch â'ch meddyg teulu a'r GIG lleol ynglŷn â sut i amddiffyn eich hun rhag y bacteria meningococcal, a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael eich brechu o leiaf bythefnos cyn i'r tymor ddechrau.
Meningitis yw llid y pilenni sy'n amgylchynu ac yn amddiffyn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn, a gall effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oedran, ar unrhyw adeg. Y llynedd bu achosion o lid yr ymennydd mewn prifysgolion eraill, ac rydym am i'n myfyrwyr deimlo mor ddiogel â phosibl wrth ddod i'r Drindod Dewi Sant, felly roeddem am roi gwybod i chi am rai o'r pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu â hynny!
Gwiriwch eich cofnodion brechlynnau yn eich meddygfa. Os oes angen brechlyn ychwanegol arnoch chi neu os nad ydych chi wedi cael y brechlyn hwn na brechlynnau eraill eto, trefnwch hynny, a cheisiwch amseru hyn fel eich bod chi'n cael eich brechlyn olaf o leiaf bythefnos cyn i'r tymor ddechrau. Efallai mai’r brechlyn MenACWY, neu'r brechlyn MenB dwy-ddos a gynigir i chi os yw'ch cofnodion yn dangos nad ydych chi wedi'u cael eto. Ac os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, cofrestrwch gyda meddyg teulu lleol, a byddwch hefyd yn gymwys os nad ydych chi eisoes wedi'i gael, neu, os ydych chi wedi cael dos gyntaf ac angen ail un. Dewch â’ch cofnodion gyda chi!
Rydyn ni'n gyffrous iawn am y flwyddyn academaidd sydd i ddod, ac rydyn ni'n barod i'ch croesawu chi. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi ar y campws, a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n bwrw golwg ar yr holl stondinau dros-dro, digwyddiadau, a mwy, a gynhelir gan y bobl mewn porffor!
Cael y brechlyn MenB cyn dechrau yn y
Brifysgol neu’r coleg – Yr Hyb Addysg
Llid yr Ymennydd mewn myfyrwyr – yr hyn sydd angen i chi ei wybod | UCAS
Llid yr ymennydd mewn myfyrwyr - Gwybodaeth a chyngor | Meningitis Now
Brechlyn MenB i Fyfyrwyr a Phobl Ifanc y DU | Meningitis Now
Brechlyn MenB i bobl ifanc - Iechyd Cyhoeddus Cymru