Rhowch Gynnig Arni! Hyd yn oed mwy o ddigwyddiadau am ddim i fyfyrwyr.

Dydd Gwener 04-03-2022 - 09:00

Mae digwyddiadau Rhowch Gynnig Arni yn ddigwyddiadau am ddim gan eich Undeb Myfyrwyr sy’n caniatáu i fyfyrwyr roi cynnig ar rywbeth newydd.

Hyd yn hyn mae myfyrwyr wedi rhoi cael profiad o glybiau neu gymdeithasau, gweithdai a dosbarthiadau o bob math, a hyd yn oed wedi teithio ar draws y wlad. Y cyfan AM DDIM!

Rydym wedi ychwanegu hyd yn oed mwy o ddigwyddiadau Rhowch Gynnig Arni at ein gwefan yn ddiweddar. Gallwch gymryd cipolwg ar yr hyn sydd gennym ni ar y gweill dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Cliciwch ar ddigwyddiad i sicrhau eich lle. Mae tocynnau'n gwerthu allan yn gyflym iawn, felly peidiwch ag oedi os ydych chi am fynychu.

Darperir cludiant o gampysau Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe.

 

Dydd Sadwrn 12fed Mawrth

Taith Caerfaddon - WEDI GWERTHU ALLAN!

 

Dydd Gwener 18fed Mawrth

Parc Trampolîn Zip World Bounce Below - Ychydig o docynnau ar ôl!

 

Dydd Mercher 23ain Mawrth

Go Ape Margam

 

Dydd Sadwrn 26ain Mawrth

Taith i Gaerdydd - Ychydig o docynnau ar ôl!

 

Dydd Mercher 30ain Mawrth

Padlfyrddio Wrth Sefyll - Ychydig o docynnau ar ôl!

 

Dydd Sul 3ydd Ebrill

Comic Con Telford Takeover

 

Dydd Llun 4ydd Ebrill

Noson Playzone Abertawe - Ychydig o docynnau ar ôl!

 

Dydd Mercher 6ed Ebrill

Academi Polyn ac Awyrol Abertawe

 

Dydd Mercher 27ain Ebrill

Ysgol Syrffio Outer Reef - Ychydig o docynnau ar ôl!

 

Dydd Mercher 4ydd Mai

Padlfyrddio Wrth Sefyll - Ychydig o docynnau ar ôl!

 

 

Dydd Mercher 11eg Mai

Zipline cyflymaf yn y byd

 

Dydd Sul 22ain Mai

Sioe Drag & Burlesque - Ychydig o docynnau ar ôl!

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...