Mae'r Wythnos Werdd yn dychwelyd! Bob blwyddyn, mae UMYDDS yn gweithio gyda People and Planet i neilltuo wythnos i'r amgylchedd a chodi ymwybyddiaeth o'r newidiadau syml gall staff a myfyrwyr eu gwneud i helpu'r blaned. O boteli dŵr y gellir eu hailddefnyddio i raseli metel, tyfu eich bwyd eich hun i fuddsoddi mewn MoonCup, mae modd gwneud llu o newidiadau rhad dros yr wythnos i leihau eich effaith bersonol ar ein hunig blaned.
Nid yn unig hynny, ond eleni rydyn ni wedi penderfynu ychwanegu elfen arall at hyn. Mae'n ffaith wyddonol bod treulio amser yn yr awyr agored, yn yr awyr iach ac mewn amgylchedd gwyrdd, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl unigolyn. Rydyn ni'n hyrwyddo'r defnydd o 'ymarfer corff gwyrdd' fel modd o werthfawrogi chi eich hun yn ogystal â'r amgylchedd o'n cwmpas. Rydyn ni wedi neilltuo diwrnod yr wythnos i hyn ar ein calendr digwyddiadau, ond mae unrhyw ddiwrnod yn y flwyddyn yn ddiwrnod da ar gyfer awyr iach ac ymlacio meddyliol.
Bydd gennym ni amryw ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos hon (gweler y calendr llawn isod). Neu, beth am gynnal eich digwyddiad eich hun a rhoi gwybod i ni amdano! Rydyn ni'n awyddus i ddangos pob newid cynaliadwy rydych chi'n ei wneud, felly cymerwch ran!
Dydd Llun 11 Chwefror
Drwy gydol y dydd, byddwn ni'n profi'ch gwybodaeth am ailgylchu ac yn eich annog chi i newid i gwpan coffi y gellir ei hailddefnyddio, y ffordd hawsaf o newid i fod yn eco-gyfeillgar! Sicrhewch eich bod chi'n casglu'ch cerdyn stampiau o unrhyw un o'r caffis ar y campws – bob tro byddwch chi'n cael coffi mewn cwpan y gellir ei ailddefnyddio, cewch stamp ar eich cerdyn a choffi AM DDIM! Heb gwpan? Peidiwch â phoeni - bydd gennym ni rywfaint ar gael am ddim ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.
Dydd Mawrth 12
Yma yn PCYDDS, rydyn ni'n ceisio hyrwyddo'r defnydd o ddulliau eraill o drafnidiaeth, a heddiw byddwn ni'n eich gwobrwyo chi am eich ymdrech! Dewch i'r brifysgol ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn car wedi'i rannu, ar feic neu ar eich dwy droed eich hun a rhannwch lun neu hunlun gyda'r hashnod #DyddMawrthODeithio ar gyfryngau cymdeithasol!
Dydd Mercher 13
Rydyn ni'n gwybod bod Gwyrdd yn golygu mwy na dim ond achub yr amgylchedd, felly rydyn ni am hyrwyddo'r defnydd o 'therapi gwyrdd' i hybu iechyd meddwl cadarnhaol a chyfuno manteision bod yn yr awyr agored mewn amgylchedd naturiol ag ymlacio'ch meddwl am brynhawn. Bydd gan bob campws wahanol weithgaredd yn yr awyr agored - boed yn daith i'r traeth, taith gerdded gyda chŵn y swyddfa neu gyflwyniad i'n rhandiroedd, bydd rhywbeth i bawb am brynhawn ymlaciol yng nghanol yr wythnos. (Gan ddibynnu ar y tywydd)
Dydd Iau 14
Mae'n bwysig torri'r stigma ar broblemau, ac ar y diwrnod hwn i gyd-fynd â'n hymgyrch #BloodyHell, bydd gennym ni bopeth sy'n ymwneud â misglwyfau cynaliadwy! Ansicr sut rydych chi'n teimlo, sut mae modd helpu neu hyd yn oed beth ydyn nhw? Dewch i ddarganfod pa mor dda gallan nhw fod i'ch corff ac i'ch planed.
Dydd Gwener 15
Bob semester, bydd Diffodd Popeth yn ceisio arbed ein hegni. Ymunwch â ni wrth i ni dreulio noson o arbed arian, arbed ynni, a darganfod pa adran yn y Brifysgol yw'r mwyaf effeithlon o ran ynni! O, a bydd pizza am ddim am eich holl drafferthion?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn eich llywydd a'ch cynorthwyydd ymgysylltu â myfyrwyr ar eich campws am y datblygiadau diweddaraf a’r amseroedd sy’n benodol i’ch campws chi ar gyfer y gweithgareddau uchod.
Campws Caerfyrddin
Llywydd Campws Caerfyrddin
Cynorthwyydd Ymgysyllu â Myfyrwyr: Caerfyrddin
Campws Llambed
Llywydd Campws Llambed
Cynorthwyydd Ymgysyllu â Myfyrwyr: Llambed
Campws Abertawe
Llywydd Campws Abertawe