Gwnewch Wahaniaeth: Byddwch yn Gynrychiolydd Llais Myfyrwyr!

Dydd Llun 02-06-2025 - 09:00
Svr iicl thumbnail

Rydym yn chwilio am 8 o fyfyrwyr angerddol sydd eisiau helpu â siapio bywyd myfyrwyr yn PCyDDS – allech chi fod yn un o’r rhain?  
 
Os ydych chi wedi'ch lleoli ar un o'n Campysau ac eisiau sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed ar y lefelau uchaf a derbyn bwrsariaeth o £450 am eich gwaith, mae gennym gyfle perffaith i chi! 
 
Rydym am recriwtio ein Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr ar gyfer 2025/26 ac mae ceisiadau ar agor nawr 

Ffurflen Gais

Mae ceisiadau’n cau am 5pm dydd Gwener 20 Mehefin 

Pam dod yn Gynrychiolydd Llais Myfyrwyr 

Mae’n gyfle i greu newid: Gallwch eirioli dros fyfyrwyr, gan sicrhau bod eu syniadau a’u pryderon yn cael eu clywed ar y lefelau uchaf.

Cysylltu a Chydweithio: Byddwch yn gweithio gyda Chynrychiolwyr Cwrs, Undeb y Myfyrwyr, a staff y brifysgol i ddod â syniadau newydd yn fyw a helpu i gyfoethogi bywyd myfyrwyr yn y ddarlithfa a thu allan iddi.

Gwobrwyo a Chydnabyddiaeth: Byddwch yn derbyn bwrsariaeth o £450 i gydnabod eich ymroddiad, ynghyd â thystlythyrau amhrisiadwy i wella’ch rhagolygon ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.  

Pwy Ddylai Ymgeisio?    

Mae'r rôl hon yn berffaith i chi os:  

  • Rydych chi'n angerddol am greu effaith gadarnhaol.  
  • Rydych chi wrth eich bodd yn cysylltu â phobl o wahanol gefndiroedd. 
  • Rydych chi eisiau datblygu sgiliau hanfodol a fydd yn eich helpu mewn unrhyw yrfa 
  • Rydych chi'n awyddus i gyfrannu at gymuned myfyrwyr ffyniannus.

Tystebau Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr

Ond peidiwch â chymryd ein gair ni – clywch gan ein Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr presennol

  • “Mae gwasanaethu fel Cynrychiolydd Llais Myfyrwyr wedi bod yn brofiad bythgofiadwy, gan ganiatáu i mi gynrychioli fy nghyfoedion a hybu newid ystyrlon. Mae nid yn unig wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu ac arweinyddiaeth ond hefyd wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i mi o sut mae'r brifysgol yn gweithredu. Os ydych chi am greu effaith gadarnhaol ar y campws, rwy'n eich argymell i ymgeisio am y rôl hon!” 
    - Lili, Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg (Caerfyrddin) 
  • “Roedd bod yn rhan o’r broses CLlM yn brofiad gwerth chweil, gan ei fod yn caniatáu i mi helpu eraill a bod yn rhan o’u twf a’u hatgofion. Er fy mod wedi gweithio ar fy mhen fy hun, roeddwn i wrth fy modd yn cael y cyfle i gefnogi a chysylltu â myfyrwyr newydd. Roedd yn heriol fel cyfranogwr blwyddyn gyntaf, ond roedd y gallu i gyfathrebu, dysgu am ddiwylliannau newydd, a dod â hapusrwydd i eraill yn gwneud y cyfan yn werth chweil.” 
    - Catalin George Marin - Cyfrifiadura, Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Llundain. 
  • “Mae ymuno â grŵp CLlM yn undeb myfyrwyr wedi bod yn un o’m profiadau gorau, o ddeall diwylliant y DU, ffyrdd o weithio yn y brifysgol ac ymgysylltiad myfyrwyr ar draws gwahanol bynciau gan gynnwys gwelliannau o ran iechyd meddwl. Yn ogystal mae’n gweithio o ran helpu myfyrwyr i gael profiad dysgu gwell ac mae’n gweithio fel pont rhwng y myfyrwyr a’r brifysgol.”
    - Olena Kokorieva – Busnes – Llundain 
  • “Rwy’n hapus iawn i fod yn aelod o CLlM. Yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi cymryd rhan mewn llawer o gyfarfodydd. Dysgais am waith y brifysgol a chasglu rhai awgrymiadau gan fyfyrwyr yn y cyfarfodydd. Rwy'n meddwl ei fod yn brofiad da i mi gymryd rhan ynddo a’i weld â'm llygaid fy hun, ac i wneud bywyd campws yn well. Mae hyn yn fy ngalluogi i fod yn fwy beiddgar wrth gyfathrebu â phobl a mynegi fy marn fy hun. Rwy’n gobeithio y bydd mwy o fyfyrwyr yn gallu cymryd rhan yn y dyfodol.”
    - Yanxin Zhang – Celf a'r Cyfryngau – Abertawe
  • “Roedd bod yn Gynrychiolydd Llais Myfyrwyr yn brofiad hynod werth chweil. Rhoddodd gyfle i mi eirioli dros fy nghyfoedion, gweithio'n agos gyda'r gyfadran, a chyfrannu at newidiadau ystyrlon yn y brifysgol. Datblygais sgiliau cyfathrebu ac arweinyddiaeth gwerthfawr tra'n cael effaith wirioneddol. Os ydych chi’n angerddol am gynrychiolaeth myfyrwyr, rwy’n argymell eich bod yn cymryd rhan.”
    - Kevin A Williams – Busnes (ar-lein)
  • “Roedd bod yn Gynrychiolydd Llais Myfyrwyr yn brofiad hynod werth chweil. Mae wedi rhoi'r cyfle i mi greu effaith wirioneddol trwy sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed a'u gweithredu. Rwyf wedi datblygu fy hyder a sgiliau cyfathrebu, gan ffurfio cysylltiad cryfach gyda myfyrwyr a staff. Byddwn yn argymell y rôl i unrhyw un sydd am wneud gwahaniaeth tra’n ennill profiad gwerthfawr!” 
    -Skyler Schenke – Cyfrifiadura Cymhwysol – Abertawe
  • “Mae cydweithio gyda fy nghyd-gynrychiolwyr wedi bod yn brofiad amhrisiadwy, ac yn wir ni allwn fod wedi cyflawni dim heb eu gwaith tîm a’u cefnogaeth.
     
    O’r cychwyn cyntaf, roeddwn yn teimlo bod croeso mawr i mi, a oedd yn ei gwneud hi’n hawdd i mi ymgysylltu a chyfrannu. Roedd yr amgylchedd yn annog cyfathrebu agored, gan ganiatáu i mi ofyn cwestiynau yn hyderus. Hyd yn oed pan fethais gyfarfod, cefais y wybodaeth ddiweddaraf yn brydlon i sicrhau fy mod yn parhau i fod yn gwybod beth oedd yn digwydd, fel y gallwn ddal ati i gymryd rhan. 
     
    At hynny, roedd yr apwyntiadau wedi'u hamserlennu'n feddylgar ymlaen llaw i’w gwneud yn haws i ni fynychu. Mewn achosion lle na allwn ymuno, roedd yna bob amser opsiwn i ddal i fyny, a oedd yn hynod fuddiol.
     
    Diolch am y cyfle i fod yn rhan o dîm mor groesawgar ac effeithlon.”
    - Nia Clarke – Iechyd a Gofal Digidol – Abertawe

Rolau sydd ar gael

Athrofa Rheolaeth ac Iechyd (IMH)  

  1. Chwaraeon a Byw'n Iach    
  2. Iechyd a Gofal Digidol  
  3. Lletygarwch a Thwristiaeth   

Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA)

  1. Cyfrifiadureg Gymhwysol    

Athrofa Dysgu Canol-y-Ddinas (IICL)

  1. Busnes a Chyfrifiadureg (Birmingham) 
  2. Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Birmingham) 
  3. Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chyfrifiadureg (Llundain) 
  4. Busnes (Llundain) 

Sut i Ymgeisio

Peidiwch â methu’r cyfle hwn i arwain, ysbrydoli a chreu newid. Cyfranogwch a gwnewch wahaniaeth! Os ydych chi’n fyfyriwr gyda ni rhwng Medi 2025 ac Ebrill 2026, gallwch wneud cais.

Ddim yn siŵr pa rôl sy’n alinio â’ch cwrs a’ch campws? Rydym ni yma i helpu – does ond angen i chi anfon e-bost i ofyn am gymorth: studentvoice@uwtsd.ac.uk

Mae ceisiadau’n cau am 5pm dydd Gwener 20 Mehefin

Categorïau:

Departments

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...