Gwna wahaniaeth: Bydd yn Gynrychiolydd Llais Myfyrwyr!

Dydd Llun 08-09-2025 - 09:00

Rydym yn chwilio am 5 o fyfyrwyr angerddol sydd eisiau helpu â siapio bywyd myfyrwyr yn PCyDDS – allech chi fod yn un o’r rhain?  
 
Os ydych chi wedi'ch lleoli ar un o'n Campysau ac eisiau sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed ar y lefelau uchaf a derbyn bwrsariaeth o £450 am eich gwaith, mae gennym gyfle perffaith i chi! 
 
Rydym am recriwtio ein Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr ar gyfer 2025/26 ac mae ceisiadau ar agor nawr. Mae ceisiadau’n cau am 17:00 Dydd Iau 2 Hydref 

Ffurflen Gais

Pam dod yn Gynrychiolydd Llais Myfyrwyr 

  1. Mae’n gyfle i greu newid: Gallwch eirioli dros fyfyrwyr, gan sicrhau bod eu syniadau a’u pryderon yn cael eu clywed ar y lefelau uchaf.
  2. Cysylltu a Chydweithio: Byddwch yn gweithio gyda Chynrychiolwyr Cwrs, Undeb y Myfyrwyr, a staff y brifysgol i ddod â syniadau newydd yn fyw a helpu i gyfoethogi bywyd myfyrwyr yn y ddarlithfa a thu allan iddi.
  3. Gwobrwyo a Chydnabyddiaeth: Byddwch yn derbyn bwrsariaeth o £450 i gydnabod eich ymroddiad, ynghyd â thystlythyrau amhrisiadwy i wella’ch rhagolygon ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.  

Pwy Ddylai Ymgeisio?    

Mae'r rôl hon yn berffaith i chi os:  

  • Rydych chi'n angerddol am greu effaith gadarnhaol.  
  • Rydych chi wrth eich bodd yn cysylltu â phobl o wahanol gefndiroedd. 
  • Rydych chi eisiau datblygu sgiliau hanfodol a fydd yn eich helpu mewn unrhyw yrfa 
  • Rydych chi'n awyddus i gyfrannu at gymuned myfyrwyr ffyniannus.

Tystebau Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr

Ond peidiwch â chymryd ein gair ni – gair gan Gynrychiolwyr Llais Myfyrwyr y llynedd 

  • “Mae gwasanaethu fel Cynrychiolydd Llais Myfyrwyr wedi bod yn brofiad bythgofiadwy, gan ganiatáu i mi gynrychioli fy nghyfoedion a hybu newid ystyrlon. Mae nid yn unig wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu ac arweinyddiaeth ond hefyd wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i mi o sut mae'r brifysgol yn gweithredu. Os ydych chi am greu effaith gadarnhaol ar y campws, rwy'n eich argymell i ymgeisio am y rôl hon!” 
    - Lili, Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg (Caerfyrddin) 
  • “Roedd bod yn rhan o’r broses CLlM yn brofiad gwerth chweil, gan ei fod yn caniatáu i mi helpu eraill a bod yn rhan o’u twf a’u hatgofion. Er fy mod wedi gweithio ar fy mhen fy hun, roeddwn i wrth fy modd yn cael y cyfle i gefnogi a chysylltu â myfyrwyr newydd. Roedd yn heriol fel cyfranogwr blwyddyn gyntaf, ond roedd y gallu i gyfathrebu, dysgu am ddiwylliannau newydd, a dod â hapusrwydd i eraill yn gwneud y cyfan yn werth chweil.” 
    - Catalin George Marin - Cyfrifiadura, Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Llundain. 
  • “Mae ymuno â grŵp CLlM yn undeb myfyrwyr wedi bod yn un o’m profiadau gorau, o ddeall diwylliant y DU, ffyrdd o weithio yn y brifysgol ac ymgysylltiad myfyrwyr ar draws gwahanol bynciau gan gynnwys gwelliannau o ran iechyd meddwl. Yn ogystal mae’n gweithio o ran helpu myfyrwyr i gael profiad dysgu gwell ac mae’n gweithio fel pont rhwng y myfyrwyr a’r brifysgol.”
    - Olena Kokorieva – Busnes – Llundain 
  • “Rwy’n hapus iawn i fod yn aelod o CLlM. Yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi cymryd rhan mewn llawer o gyfarfodydd. Dysgais am waith y brifysgol a chasglu rhai awgrymiadau gan fyfyrwyr yn y cyfarfodydd. Rwy'n meddwl ei fod yn brofiad da i mi gymryd rhan ynddo a’i weld â'm llygaid fy hun, ac i wneud bywyd campws yn well. Mae hyn yn fy ngalluogi i fod yn fwy beiddgar wrth gyfathrebu â phobl a mynegi fy marn fy hun. Rwy’n gobeithio y bydd mwy o fyfyrwyr yn gallu cymryd rhan yn y dyfodol.”
    - Yanxin Zhang – Celf a'r Cyfryngau – Abertawe
  • “Roedd bod yn Gynrychiolydd Llais Myfyrwyr yn brofiad hynod werth chweil. Rhoddodd gyfle i mi eirioli dros fy nghyfoedion, gweithio'n agos gyda'r gyfadran, a chyfrannu at newidiadau ystyrlon yn y brifysgol. Datblygais sgiliau cyfathrebu ac arweinyddiaeth gwerthfawr tra'n cael effaith wirioneddol. Os ydych chi’n angerddol am gynrychiolaeth myfyrwyr, rwy’n argymell eich bod yn cymryd rhan.”
    - Kevin A Williams – Busnes (ar-lein)
  • “Roedd bod yn Gynrychiolydd Llais Myfyrwyr yn brofiad hynod werth chweil. Mae wedi rhoi'r cyfle i mi greu effaith wirioneddol trwy sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed a'u gweithredu. Rwyf wedi datblygu fy hyder a sgiliau cyfathrebu, gan ffurfio cysylltiad cryfach gyda myfyrwyr a staff. Byddwn yn argymell y rôl i unrhyw un sydd am wneud gwahaniaeth tra’n ennill profiad gwerthfawr!” 
    -Skyler Schenke – Cyfrifiadura Cymhwysol – Abertawe
  • “Mae cydweithio gyda fy nghyd-gynrychiolwyr wedi bod yn brofiad amhrisiadwy, ac yn wir ni allwn fod wedi cyflawni dim heb eu gwaith tîm a’u cefnogaeth.
     
    O’r cychwyn cyntaf, roeddwn yn teimlo bod croeso mawr i mi, a oedd yn ei gwneud hi’n hawdd i mi ymgysylltu a chyfrannu. Roedd yr amgylchedd yn annog cyfathrebu agored, gan ganiatáu i mi ofyn cwestiynau yn hyderus. Hyd yn oed pan fethais gyfarfod, cefais y wybodaeth ddiweddaraf yn brydlon i sicrhau fy mod yn parhau i fod yn gwybod beth oedd yn digwydd, fel y gallwn ddal ati i gymryd rhan. 
     
    At hynny, roedd yr apwyntiadau wedi'u hamserlennu'n feddylgar ymlaen llaw i’w gwneud yn haws i ni fynychu. Mewn achosion lle na allwn ymuno, roedd yna bob amser opsiwn i ddal i fyny, a oedd yn hynod fuddiol.
     
    Diolch am y cyfle i fod yn rhan o dîm mor groesawgar ac effeithlon.”
    - Nia Clarke – Iechyd a Gofal Digidol – Abertawe

Rolau sydd ar gael

Athrofa Rheolaeth ac Iechyd (IMH)  

  1. Chwaraeon a Byw'n Iach    
  2. Iechyd a Gofal Digidol  
  3. Lletygarwch a Thwristiaeth   

Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA)

  1. Cyfrifiadureg Gymhwysol    

Athrofa Dysgu Canol-y-Ddinas (IICL) 

  1. Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chyfrifiadureg (Llundain)  

Sut i Ymgeisio

Peidiwch â methu’r cyfle hwn i arwain, ysbrydoli a chreu newid. Cyfranogwch a gwnewch wahaniaeth! Os wyt ti’n fyfyriwr gyda ni o fis Hydref 2025 i fis Mai 2026, galli ymgeisio. 

Ddim yn siŵr pa rôl sy’n alinio â’ch cwrs a’ch campws? Rydym ni yma i helpu – does ond angen i chi anfon e-bost i ofyn am gymorth: studentvoice@uwtsd.ac.uk

Mae ceisiadau’n cau am 17:00 Dydd Iau 2 Hydref

Categorïau:

Departments

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...