Helo Georgia ydw i! Fi yw Llywydd Campws Caerfyrddin. Rwy’n teimlo mor gyffrous i gael gweithio gyda chi i gyd eleni, a helpu i wneud eich profiad prifysgol y gorau y gall fod! Ydych chi am ddod i fy adnabod ychydig yn well? Dilynwch fi ar gyfryngau cymdeithasol!
Byddaf yn ateb unrhyw negeseuon preifat a negeseuon uniongyrchol cyn gynted â phosibl! Gallwch hefyd gysylltu â fi drwy fy nghyfeiriad e-bost: georgia.thomas@uwtsd.ac.uk
Ar hyn o bryd rwy'n gorffen fy ail flwyddyn yn astudio BA Gwneud Ffilm ar gampws Caerfyrddin! Fel ffotograffydd, mae wedi rhoi cyfle i mi ehangu fy sgiliau a meithrin dealltwriaeth ddyfnach o ffilmiau a sut maen nhw'n cael eu gwneud! Rwy'n credu mai'r rhan rydw i wedi'i mwynhau fwyaf yw'r cyfleoedd rydyn ni'n eu cael, boed hynny'n Feicio Mynydd neu’n dynnu lluniau o blanhigion blodeuog, mae wedi bod yn gymaint o hwyl!
Mae gen i sawl blaenoriaeth eleni; er y gallai rhai fod ychydig yn anoddach oherwydd cymdeithas ôl-Covid, byddaf yn ceisio cyflawni fy mhwyntiau maniffesto o hyd. Yn gyntaf, adnewyddu Llety, gan weithio ochr yn ochr â chi’r myfyrwyr. Byddwn yn creu lle llawer mwy cyfforddus i chi astudio a byw. Rwyf am greu mwy o leoedd gwaith i rieni sy'n astudio ar y campws, gan greu lle diogel i'w plant ddysgu a chwarae tra gall rhieni ganolbwyntio ar waith cwrs a thraethodau pwysig. Mae yna hefyd fwy o gyfleoedd ar gyfer bywyd-nos yr hoffwn eu creu ar gyfer myfyrwyr nad ydyn nhw efallai'n hoffi nosweithiau cymdeithasol rhyw lawer. Defnyddio nosweithiau gêm, nosweithiau cwis a mwy i greu rhagor o gyfleoedd i bawb! Rwy'n credu serch hynny bod eich syniadau chi’n cyfrif hefyd! Cofiwch felly, mae fy mewnflwch bob amser ar agor os oes gennych chi unrhyw syniadau o gwbl!
Roedd fy rôl cyn dod yn Llywydd yn canolbwyntio'n bennaf ar Fywyd Nos Myfyrwyr. Gweithiais yn y Dog & Piano lle’r oedd llawer o'r myfyrwyr yn hoffi mynychu, cyn gweithio gyda'r tîm i agor Encore ar Gampws Caerfyrddin! Gan ddefnyddio awgrymiadau myfyrwyr, aethon ni ati i greu'r lle perffaith i chi i gyd fwynhau eich Nosweithiau Mercher Myfyrwyr. Roeddwn hefyd yn gadeirydd y Gymdeithas Ffilm a Ffotograffiaeth ac roeddwn yn Gynrychiolydd Myfyrwyr ar gyfer fy nghwrs dros y ddwy flynedd.
Ceisiwch fyw pob profiad y gallwch chi! Pan ddewch chi i'r brifysgol, bydd pawb yn dweud wrthych chi am ganolbwyntio ar eich graddau. Sydd wrth gwrs, yn berffaith wir, ond peidiwch â chyfyngu'ch hun i'ch dosbarthiadau yn unig. Drwy fod yn gymdeithasol yn y brifysgol, byddwch yn cwrdd â rhai o'ch ffrindiau gorau ac yn ffurfio perthnasoedd fydd yn aros gyda chi am byth! Gwnewch atgofion! Ewch allan gyda'ch ffrindiau! Ymunwch â thîm chwaraeon! Bydd eich profiad prifysgol yr hyn rydych chi'n ei wneud ohono. Gallwch
ddisgwyl adegau gwael; maen nhw'n anochel, bydd pobl bob amser yn gwrthdaro. I lawer o bobl, mae mynd i’r brifysgol yn ymwneud â darganfod pwy ydych chi; mae llawer o bobl yn teimlo'r un fath â chi. Byddai myfyrwyr hŷn eisoes yn gyfarwydd â’r teimlad, pwyswch arnyn nhw; er efallai ein bod ni'n edrych yn anghyfeillgar, rydym yn barod iawn i helpu mewn gwirionedd.
Gobeithio y cewch chi i gyd yr amser gorau posib yn PCyDDS! Dwi’n methu aros i gwrdd â chi i gyd!
Georgia :)