Dewch i gwrdd ag Interniaid INSPIRE 🌱

Dydd Mawrth 30-03-2021 - 14:23

Mae tîm o 10 myfyriwr wedi ymgymryd â rolau Interniaid INSPIRE. Myfyrwyr sy’n gwirfoddoli yw’r rhain, yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol i greu newid cynaliadwy ar draws PCyDDS. 

Mae’r Intern Blog a Dylunio, Rachel, wedi llunio blog sy’n sôn am y prosiect ac yn cyflwyno'r tîm.

Beth yw INSPIRE a sut allwn ni fod yn fwy cynaliadwy? 

 

Gan: Rachel Norman, Intern INSPIRE Dylunio a Blogiau 20-21

 

Lansiwyd INSPIRE ym mis Ionawr 2012 i wreiddio cynaladwyedd fel agwedd graidd o fframwaith y brifysgol ar draws y cwricwlwm, y gymuned, diwylliant a’n campysau. Mae hyn yn rhan o gynllun datblygu ehangach yng Nghymru, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dyma ddeddfwriaeth sy'n pwyso am wella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd yng Nghymru i bobl nawr ac ar gyfer y cenedlaethau i ddod. 

Yn y gorffennol, mae INSPIRE wedi arwain digwyddiadau fel y Prosiect Plannu Mawr, lle mae myfyrwyr yn cael eu hannog i fynd ati i blannu glasbrennau a roddwyd i ni gan Ymddiriedolaeth y Coetir. Digwyddiad arall dan arweiniad interniaid INSPIRE yw'r Ymgyrch Ddiffodd, oedd yn annog myfyrwyr i ddiffodd pob offer nad oedd yn hanfodol fel cyfrifiaduron, argraffwyr a gwefryddion ffôn, cyn gadael am y penwythnos. Mae'r ddau ddigwyddiad hyn yn dangos sut mae INSPIRE yn gweithio tuag at annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn bod yn fwy ymwybodol o'r amgylchedd. 

Diben rhaglen INSPIRE yw helpu i annog myfyrwyr i wneud dewisiadau gwell ar gyfer yr amgylchedd. Mae gan bawb y gallu i newid agweddau bach ar eu bywydau bob-dydd i fod yn fwy cynaliadwy. Nid oes rhaid i'r rhain fod yn gamau mawr na drud,  ond yn hytrach rhai syml fel cyfnewid brwsys dannedd plastig am rai bambŵ neu feicio, cerdded a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan fo hynny'n bosibl yn hytrach na defnyddio car. Mae gan bob un ohonom ddyletswydd i adael y byd o'n cwmpas mewn cyflwr gwell na sut y gwnaethom ei dderbyn. 

 

Dyma’r Tîm 

 

Ffion Hann-Jones

Intern Prosiect Campws Caerfyrddin - Hyrwyddo'r Gymraeg

Elan Rees-Lewis

Intern Digwyddiadau ac Ymgyrchoedd Caerfyrddin

Alex Rice

Intern Gwerthuso ac Achrediad Caerfyrddin

Bradley Sloanes

Intern Prosiect Campws Llambed - Canolfan Tir Glas

Saskia Judd

Intern Digwyddiadau ac Ymgyrchoedd Llambed

Paul O’Toole

Intern Gwerthuso ac Achrediad Llambed

Amy Rachel Cooper

Intern Prosiect Campws Abertawe - Prosiect Campws 15 Munud

Isabella Faye Wintour

Intern Digwyddiadau ac Ymgyrchoedd Abertawe

Ffion Brooke Thomas

Intern Gwerthuso ac Achrediad Abertawe

Rachel Norman

Intern Dylunio a Blogiau

 

Ffion Hann-Jones

(Hi)

 

Rôl:

Intern Prosiect Campws Caerfyrddin - Hyrwyddo'r Gymraeg

Pa gwrs wyt ti’n ei astudio? 

Rwyf ar gwrs Addysg Gynradd gyda SAC yn y Gymraeg; rydw i wedi bod eisiau bod yn athrawes ers pan oeddwn i'n 3 oed. 

Pam oeddet ti am fod yn rhan o INSPIRE? 

Roeddwn i eisiau cymryd rhan oherwydd fy mod i wrth fy modd yn herio fy hun, rhoi cynnig ar bethau newydd ac rydw i'n angerddol iawn ynghylch cynnal y Gymraeg, yn enwedig oherwydd y ffaith fy mod i wedi dod o deulu di-Gymraeg. 

Beth yw pwysigrwydd cynaladwyedd i ti? 

Mae cynaladwyedd yn bwysig i mi oherwydd fy mod i’n credu bod ailgylchu, arbed trydan a dŵr, gwneud y gorau o adnoddau naturiol a lleihau llygredd yn bwysig er mwyn sicrhau bod gan genedlaethau’r dyfodol blaned i fyw arni. 

Ffaith ddiddorol amdanat ti? 

Dwi wrth fy modd yn teithio. Rydw i wedi bod i; Orlando, Miami, Efrog Newydd, Washington DC, Philadelphia, Portiwgal, Sbaen, Paris, Berlin, Iwerddon a Mecsico! 

Elan Rees-Lewis

(Hi)

 

Rôl:

Intern Digwyddiadau ac Ymgyrchoedd Caerfyrddin

Pa gwrs wyt ti’n ei astudio? 

Ar hyn o bryd rwy'n astudio Rheolaeth Busnes lefel 5 (ail flwyddyn) ar Gampws Caerfyrddin, PCyDDS. Ond dyma fy mlwyddyn gyntaf ar y cwrs, gan fy mod i wedi astudio Troseddeg yng Nghaerdydd y llynedd, ond nid oedd hynny at fy nant, gan mai Busnes sydd o wir ddiddordeb i mi. 

Pam oeddet ti am fod yn rhan o INSPIRE?

I fod yn hollol onest, yr interniaeth y ceisiais amdani oedd 'hyrwyddo'r Gymraeg', ond ar ôl y cyfweliad a sylweddoli nad oeddwn i wedi bod yn llwyddiannus yn fy nghais am yr interniaeth benodol honno, cefais gynnig y rôl hon. Rwyf wrth fy modd ac yn awyddus i ddechrau ar yr ymgyrchoedd y byddaf yn eu trefnu; dwi am godi ymwybyddiaeth am faterion sy’n ymwneud â chynaladwyedd heddiw, fel ailgylchu gwastraff, ynni, a dwi eisiau helpu â hyrwyddo sut y gallai myfyrwyr fyw bywyd gwell a glanach. 

Beth yw pwysigrwydd cynaladwyedd i ti?

Rwy'n credu bod cynaladwyedd yn bwysig am lawer o resymau gan gynnwys, Ansawdd yr Amgylchedd. Er mwyn bod â chymunedau iach, mae angen aer glân, adnoddau naturiol ac amgylchedd sydd ddim yn wenwynig arnom. Nod cynaladwyedd yw defnyddio ein hadnoddau yn effeithlon er budd ein campws a'n cymuned. Hefyd, mae'n bwysig ein bod ni'n gwybod bod ein gweithredoedd ein hunain yn effeithio ar ein dyfodol ni. 

Ffaith ddiddorol amdanat ti?

Lwyddais i gymhwyso fel hyfforddwraig nofio lefel 2 pan oeddwn yn astudio Lefel A yn yr ysgol. 

Alex Rice

(Fo / Fe)

 

Rôl:

Intern Gwerthuso ac Achrediad Caerfyrddin

Pa gwrs wyt ti’n ei astudio? 

Dwi'n fyfyriwr BA Actio, ar fy nhrydedd flwyddyn. 

Pam oeddet ti am fod yn rhan o INSPIRE? 

Roeddwn i eisiau cymryd rhan oherwydd fy mod i wedi bod wrth fy modd â daearyddiaeth ddynol erioed, a bron i mi astudio’r pwnc hwn ar gyfer gradd, felly rwy'n teimlo’n gyffrous fy mod i'n gallu datblygu fy sgiliau ymhellach. 

Beth yw pwysigrwydd cynaladwyedd i ti? 

Mae cynaliadwyedd yn bwysig oherwydd ei fod yn hanfodol i amddiffyn ein planed; sicrhau y gallwn edrych ar ôl ein hunain nawr heb niweidio cenedlaethau’r dyfodol. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu nawr i atal y difrod rhag cyrraedd lefel nad oes modd ei adfer. 

Ffaith ddiddorol amdanat ti? 

Ffaith ddiddorol amdanaf yw fy mod yn dipyn o nerd a bod gen i sawl eitem o set Doctor Who, yn ogystal ag offer wedi’u llofnodi gan David Tennant a Billie Piper.  

Bradley Sloanes

(Fo / Fe)

 

Rôl:

Intern Prosiect Campws Llambed - Canolfan Tir Glas

Pa gwrs wyt ti’n ei astudio? 

Rwy'n astudio Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg ar Gampws Llambed 

Pam oeddet ti am fod yn rhan o INSPIRE? 

Roeddwn i eisiau cymryd rhan mewn interniaeth INSPIRE oherwydd fy mod i'n angerddol am ddatblygiad cynaliadwy a chredaf fod gan PCyDDS, a champws Llambed yn benodol yn fy achos i, gymaint o botensial. Mae gen i ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut mae sefydliadau mawr yn mynd ati o ran gosod a gweithredu nodau datblygiad / llesiant cynaliadwy, ac roedd INSPIRE yn ymddangos fel cyfle gwych i wneud yn union hynny. 

Beth yw pwysigrwydd cynaladwyedd i ti? 

Mae cynaladwyedd yn bwysig i mi oherwydd i mi fod yn ddigon ffodus i dyfu i fyny mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, penrhyn Gŵyr, lle datblygais fy nghariad at yr awyr agored, natur ac anifeiliaid. Mae amddiffyn ac adfywio ein hamgylchedd yn rhywbeth sy'n golygu llawer iawn i mi. Wrth gwrs, mae mwy i gynaladwyedd na gwarchod ein hamgylchedd, ac rwyf wedi gweld sut mae colli diwydiannau trwm a buddsoddiad wedi cael effaith negyddol ar yr ardal rwy'n byw ynddi. Dyma pam rwyf hefyd yn angerddol am fynd i'r afael â materion yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol ac anghydraddoldeb yn ein cymunedau, sy'n rhan enfawr o'r hyn y mae cynaladwyedd yn ei olygu i mi. 

Ffaith ddiddorol amdanat ti? 

Treuliais rai o fy Hafau yn teithio o amgylch Iwerddon yn gwneud gwaith WWOOF, (ddim mor rhyfedd ag y mae'n swnio, rwy'n addo) - mae’n sefyll am gyfleoedd ledled y byd ar ffermydd organig. Yn gyfnewid am waith ar y tir, byddai’r ffermwyr yn fy nysgu am arferion ffermio organig ac yn darparu bwyd a tho wrth fy mhen. Yn y pen draw, fe wnes i droi fan yn lle byw gyda fy nghymar, er mwyn i ni allu bod â’n cartref ein hunain! 

Saskia Judd

(Hi)

 

Rôl:

Intern Digwyddiadau ac Ymgyrchoedd Llambed

Pa gwrs wyt ti’n ei astudio? 

Rwy'n fyfyrwraig Archaeoleg ar fy ail flwyddyn, yn astudio ar gampws Llambed. 

Pam oeddet ti am fod yn rhan o INSPIRE? 

Roeddwn i eisiau cymryd rhan yn interniaethau INSPIRE oherwydd mae'n rhoi mwy o blatfform i mi gael fy syniadau wedi’u clywed. 

Beth yw pwysigrwydd cynaladwyedd i ti? 

Mae cynaliadwyedd yn bwysig iawn i mi; fe wnes i astudio daearyddiaeth ar gyfer Safon Uwch, a rhoddodd hynny bersbectif i mi ar ba mor ddifrifol yw'r argyfwng byd-eang. Ond rydw i wastad wedi bod yn angerddol am yr amgylchedd, ac roeddwn i'n swyddog gwyrdd pan oeddwn i ym mlwyddyn 7! Hefyd, mae hyn yn cysylltu â fy ngobeithion ar gyfer gyrfa yn y dyfodol fel archeolegydd amgylcheddol, gan felly roi mwy o brofiad i mi o ran cynaladwyedd a materion amgylcheddol. Mae cynaladwyedd yn bwysig i mi, a'r peth pwysicaf yw cynaladwyedd unigol. Credaf y gall pawb wneud newidiadau bach i newid y byd, a bod yn rhaid i'r 'bobl fach' wneud rhywbeth, oherwydd nad yw corfforaethau mawr yn ystyried yr amgylchedd a chynaladwyedd. Mae cynaladwyedd i mi hefyd yn golygu cael yr hyn rydyn ni ei eisiau nawr, ond gan adael digon ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n bwysig oherwydd os nad ydym yn gynaliadwy nawr, cenedlaethau'r dyfodol fydd y rhai yr effeithir arnynt. 

Ffaith ddiddorol amdanat ti? 

Ffaith ddiddorol; gadewch i mi feddwl.... Dwi ddim yn siŵr. Rwy'n chwarae'r sacsoffon, sy'n unigryw mae'n debyg, a gallaf gyffwrdd fy nhrwyn â'm tafod. Dydw i ddim yn berson diddorol iawn; haha. 

Paul O’Toole

(Fo / Fe)

 

Rôl:

Intern Gwerthuso ac Achrediad Llambed

Pa gwrs wyt ti’n ei astudio? 

Ar hyn o bryd rwy'n astudio Ysgrifennu Creadigol ac Athroniaeth. 

Pam oeddet ti am fod yn rhan o INSPIRE? 

Fy rheswm dros gymryd rhan yw ceisio gwneud yr hyn a allaf i helpu i greu byd gwell ar gyfer yfory. Rwy'n teimlo bod yn rhaid gosod pwyslais ar addysg ac ymwybyddiaeth ynghylch y mater. Credaf fod addysgu plant ynglÅ·n â’r materion hyn yn hollbwysig, ac mai dyma'r sylfaen sydd ei hangen er mwyn creu byd llewyrchus sy'n gwella'n barhaus. Ar hyn o bryd rwy'n cynnal ymchwil i gysylltiadau rhwng deallusrwydd a chynaladwyedd i ategu fy mhrosiect. 

Beth yw pwysigrwydd cynaladwyedd i ti? 

Mae cynaladwyedd yn hanfodol bwysig i mi, a dylai fod yn rhywbeth y mae pob dyn, dynes a phlentyn yn rhoi ystyriaeth iddo. Dyma'r byd rydyn ni'n byw ynddo ac mae'n estyniad o bwy ydyn ni; dylen ni drin y byd fel rydyn ni’n trin ein hunain er mwyn helpu i ddatblygu cytgord ac amgylchedd sydd o hyd yn gwella. 

Ffaith ddiddorol amdanat ti? 

Ynghyd â fy astudiaethau, rwy'n mwynhau gwneud pethau creadigol. Rwy'n chwarae'r gitâr ac yn ysgrifennu caneuon, yn creu celf ac rwyf wedi ysgrifennu nofel rydw i'n ei golygu ar hyn o bryd. 

Amy Rachel Cooper

(Hi)

 

Rôl:

Intern Prosiect Campws Abertawe - Prosiect Campws 15 Munud

Pa gwrs wyt ti’n ei astudio? 

Blynyddoedd cynnar ac addysg 

Pam oeddet ti am gymryd rhan? 

Wrth dyfu i fyny, roeddwn i bob amser â diddordeb yn y cefnfor dwfn, yr Arctig, yr Antarctig a choedwigoedd yr Amazon, ac mae'n drist iawn gweld bywyd yn y lleoedd hyn mewn perygl. Felly gosodais amcan i mi fy hun i addysgu cymaint o bobl ag y gallaf am y materion hyn, gan obeithio cychwyn mudiad cynaliadwyedd. 

Pwysigrwydd cynaladwyedd i ti? 

Fel rhywun sydd am weithio yn y sector gofal plant, ac yn breuddwydio am fod yn fam ac yn fam-gu. Rwyf am fod ag amgylchedd hyfryd, iach i’r plant hynny dyfu i fyny a datblygu ynddo. Po fwyaf o ddifrod a wneir i’r amgylchedd, mae’r anifeiliaid, ac o bosibl hyd yn oed y ddynoliaeth, yn llai tebygol o oroesi. 

Ac rwy'n teimlo os ydym yn dod yn fwy cynaliadwy nawr, bydd y byd yn lle llawer hapusach ac iachach i bob math o fywyd ar y blaned. 

Ffaith ddiddorol amdanat ti 

Fy mreuddwyd yn y pen draw yw ymweld â Ffos Mariana a Thriongl Bermuda.

Isabella Faye Wintour

(Hi)

 

Rôl:

Intern Digwyddiadau ac Ymgyrchoedd Abertawe

Pa gwrs wyt ti’n ei astudio? 

Rheoli digwyddiadau a gwyliau 

Pam oeddet ti am gymryd rhan? 

Roeddwn i eisiau cymryd rhan yn yr interniaeth gan fy mod i'n credu ei fod yn gyfle anhygoel i helpu â rhannu pwysigrwydd cynaladwyedd ac addysgu pobl ei bod hi'n haws bod yn gynaliadwy nag y byddech chi’n meddwl. 

Pwysigrwydd cynaladwyedd i ti? 

Mae cynaliadwy yn rhan mor bwysig o'n byd. Heb brosiectau cynaladwyedd, byddem yn defnyddio llawer mwy o adnoddau, gan achosi problemau ariannol ac effeithiau amgylcheddol negyddol i ni. Mae'n bwysig caru'r byd rydych chi'n byw ynddo.

Ffaith ddiddorol amdanat ti 

 

 

Mae gen i 3 o bobl adnabyddus yn fy nghoeden deuluol. Y 2 gyntaf oedd Thomas a Robert Wintour; nhw oedd y 2 ddyn gyda Guto Ffowc y noson y ceisiodd ddinistrio’r Senedd â ffrwydron. A'r drydedd yw Anna Wintour, golygydd cylchgrawn Vogue. Mae yna hefyd atyniad i dwristiaid yn Lloegr wedi’i enwi ar ôl un o’m hynafiad, sef Syr John Wintour, brenhinwr / marchfilwr a neidiodd oddi ar glogwyn ar ei geffyl i ddianc rhag y Roundheads, sef grŵp o bobl oedd yn gefnogol i’r senedd ac Oliver Cromwell yn ystod y Rhyfel Cartref yn Lloegr. 

 

Ffion Brooke Thomas

(Hi)

 

Rôl:

Intern Gwerthuso ac Achrediad Abertawe

Pa gwrs wyt ti’n ei astudio? 

Hysbysebu Creadigol. 

Pam oeddet ti am gymryd rhan? 

Rwyf am ennill profiad nad yw'n ymwneud â gweithio ym maes manwerthu neu letygarwch, ac yn fwy penodol fy mhwnc astudio. 

Pwysigrwydd cynaladwyedd i ti? 

Yr hyn mae cynaliadwyedd yn ei olygu i mi yw bod y byd yn cael ei wneud yn lle gwell a sicrhau ein bod ni'n gofalu amdano, gan mai ni yw'r unig rai sy'n gallu ei adfywio. 

Ffaith ddiddorol amdanat ti 

Rwy'n ffrydio ar Twitch fel dizzyturtle, ac yn chwarae gemau gan gynnwys CoD, Minecraft a mwy. 

Rachel Norman

(Hi)

 

Rôl:

Intern Dylunio a Blogiau 

Pa gwrs wyt ti’n ei astudio? 

Rwy'n astudio Celf Gain. 

Pam oeddet ti am gymryd rhan? 

Ynghyd â fy niddordeb mewn cynaladwyedd, roeddwn i eisiau datblygu fy set sgiliau creadigol ymhellach, a hynny mewn ffyrdd nad wyf fel arfer yn cael cyfle i’w gwneud ar fy nghwrs gradd. 

Pwysigrwydd cynaladwyedd i ti? 

Rwy'n teimlo'n gryf ynglÅ·n â sut rydyn ni'n trin y byd o'n cwmpas, gan ein bod ni wedi creu cymaint o ddifrod amgylcheddol yn ystod y 100 mlynedd diwethaf, sydd wedi creu sefyllfa fregus i fywyd ar y blaned hon. Mae angen i ni wneud mwy, ac mae angen i ni wneud yn well. 

Ffaith ddiddorol amdanat ti 

Rwy'n siarad Almaeneg yn rhugl, a dwi wrth fy modd yn teithio. 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...