Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2025

Dydd Llun 12-05-2025 - 09:10
Mhaw blog thumbnail

Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2025 rhwng dydd Llun 12fed Mai a dydd Sul 18fed Mai. Thema eleni yw "cymuned", ac yn arwain y prosiect eleni mae Natalie, gyda gweithgareddau'n digwydd ar draws gwahanol gampysau.

"Mae codi ymwybyddiaeth yngylch cefnogaeth iechyd meddwl yn bwysig i mi gan fod yna adegau yn ystod fy amser yn y brifysgol pan oeddwn i wir yn cael anawsterau gyda fy iechyd meddwl - yn cael trafferth gyda syndrom twyllwr ac yn meddwl bob amser nad oeddwn i'n ddigon da, ac roedd yn rhaid i mi weithio'n galed ar reoli lefelau straen, gorbryder, iselder a meddylfryd yn ystod cyfnodau cyflwyno asesiadau.

Pan wnes i gynnig fy hun ar gyfer rôl Llywydd Campws Abertawe, gwnes i addewid i mi fy hun y byddwn i'n gweithio'n galed i sicrhau na fyddai neb byth yn teimlo'n unig wrth wynebu anawsterau o’r fath. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi cyflwyno mentrau fel y sticeri QR Llesiant ar bob campws, sesiynau galw-heibio rheolaidd i gael Sgwrs gyda Nat, ac rydw i wrthi'n gweithio ar brosiect atgyfeirio llesiant, sydd â'r nod o'i gwneud mor hygyrch â phosibl i'n myfyrwyr geisio'r cymorth sydd ei hangen arnyn nhw a derbyn y gefnogaeth honno cyn gynted â phosibl.

- Natalie Beard, Llywydd Campws Abertawe


Sesiynau Hyfforddiant

Gofalu Am Dy Gyfaill

13:00 - 16:00, dydd Mawrth 13eg Mai

Mae Gofalu am dy Gyfaill yn weithdy rhyngweithiol sydd wedi'i gynllunio i helpu myfyrwyr a allai fod yn cynnig cymorth i ffrind sy'n mynd trwy anawsterau iechyd meddwl, neu ar gyfer y rhai a hoffai wybod mwy am iechyd meddwl. Darperir yr holl hyfforddiant gan dîm Llesiant PCyDDS.

Archebwch eich lle

Hyfforddiant Rhagfarn ac Ymyriad Gwyliedydd Gweithredol

10:00 - 12:00, dydd Mercher 14eg Mai

Cewch archwilio achosion ac effeithiau rhagfarnau, dysgu strategaethau diogel ac effeithiol i herio ymddygiadau camwahaniaethol, a meithrin hyder wrth ymateb i sefyllfaoedd anodd. Bydd y sesiwn hon hefyd yn tynnu sylw at sut mae'r ymagwedd Gwyliedydd Gweithredol yn cyd-fynd â gweithdrefnau'r Brifysgol i feithrin cymuned fwy cynhwysol a chefnogol. Darperir yr holl hyfforddiant gan dîm Llesiant PCyDDS.

Archebwch eich lle


Gweithgareddau

Byddwn yn cynnal gweithgareddau gofalgarwch rhwng 11:00 - 13:00 ddydd Mawrth, 13eg Mai yn Abertawe (IQ a Dinefwr), Birmingham (Louisa House), a Chaerfyrddin (Cwad). Bydd gweithgareddau ar bob campws ychydig yn wahanol, o liwio ystyriol a chrefftau clai, i greu negeseuon, a rhoddion am ddim.

 

Categorïau:

Campus, Sabbatical Officers

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...