P'un a ydych chi'n symud i neuaddau prifysgol, neu lety preifat, mae'n bwysig deall yr ymrwymiad cyfreithiol rydych chi'n ei wneud wrth lofnodi contract meddiannaeth. Cyn i chi lofnodi unrhyw ddogfen, treuliwch ychydig funudau’n gwirio'r pum peth hyn fel y gallwch chi ddechrau'r tymor yn hyderus.
Gwiriwch fod eich landlord neu asiant gosod tai yn bodloni'r gofynion cyfreithiol. Er enghraifft, yng Nghymru, dylai landlordiaid ac asiantau fod wedi'u cofrestru a'u trwyddedu trwy Rhentu Doeth Cymru. Gallwch hefyd wneud eich ymchwil eich hun – edrychwch ar adolygiadau ar Google neu Marks Out of Tenancy.
Cyn llofnodi contract, rydym yn argymell eich bod yn mynd i weld yr eiddo er mwyn sicrhau ei fod yn addas i chi – er enghraifft, gwirio bod y lleoliad yn gyfleus ar gyfer eich taith i'r brifysgol. Rydyn ni wedi creu teclyn ar-lein, hawdd ei ddefnyddio i'w gwneud hi'n haws i chi gofnodi gwybodaeth bwysig pan fyddwch chi’n mynd i weld tai a fflatiau.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen eich contract meddiannaeth ac yn deall y canlynol:
Cofiwch wirio'r telerau ac amodau canslo – unwaith y byddwch chi'n llofnodi'r contract, gall fod yn anodd iawn canslo y tu allan i'r 'cyfnod oeri'.
Gall symud i lety a rennir, neu gyda chyd-letywyr fod yn gyffrous iawn, ond gallai hefyd fod yn brofiad hollol newydd i chi ac yn gofyn am gryn addasiad ar eich rhan chi. Cyn llofnodi eich contract, ceisiwch gael sgyrsiau gonest ynghylch glanhau, biliau, gwesteion, sŵn a chyfrifoldebau a rennir. Trwy osod y disgwyliadau hyn yn gynnar, gallwch osgoi sefyllfaoedd lletchwith ac anghytuno’n ddiweddarach.
Mae’n bwysig cadw copïau o bopeth gan gynnwys eich contract meddiannaeth, rhestr eiddo, e-byst a’r dderbynneb am eich blaendal a'ch rhent. Os bydd angen cymorth arnoch yn ddiweddarach gydag ymholiadau ynghylch eich llety, bydd yn ddefnyddiol iawn bod y dogfennau hyn wrth law.