Mae Arweiniwch Ni yn gyfle i fyfyrwyr cyfredol benderfynu pwy fydd yn llenwi swyddi arweinyddiaeth gwag o fewn Undeb y Myfyrwyr.
Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, gall pob myfyriwr yn PCyDDS enwebu ei hun ar gyfer cyfle i ddod yn Fyfyriwr Ymddiriedolwr, Swyddog Rhan-Amser neu Gadeirydd Cyngor yr UM. Bydd ein myfyrwyr yn dewis eu cynrychiolwyr o'r rhestr o enwebeion.
I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer unrhyw un o'r swyddi hyn, mae'n rhaid i chi fod yn fyfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (neu’n swyddog sabothol etholedig yn UMyDDS yn eu blwyddyn gyntaf yn y rôl) ar ddydd Mercher 16 Hydref 2019.
Awydd Arwain UMyDDS? Bydd yr enwebiadau ar gyfer Arweiniwch Ni yn agor ddydd Mercher 9 Hydref ac yn cau dydd Mercher 16 Hydref 2019.
Cyfeirir at y broses o gynnig eich hun ar gyfer rôl fel Hunan Enwebiad; bydd hyn yn para ychydig wythnosau, fel bod gan bob myfyriwr y cyfle i ddysgu am yr hyn y mae'r rôl yn ei olygu, sut y gall eich datblygu chi a sut y dylech fynd ati i ysgrifennu maniffesto.
Bydd y pleidleisio yn agor am 10am ddydd Gwener 25 Hydref, ac yn cau am 3pm ddydd Llun 28 Hydref 2019.
Cynrychioli barn myfyrwyr o UMYDDS yn yr cynhadledd genedlaethol Cymru.
Cynrychioli barn myfyrwyr o UMYDDS yn yr cynhadledd genedlaethol.
Mae Swyddogion Rhan-Amser yn fyfyrwyr cyfredol sy'n angerddol am eu rôl ac sy’n meddu ar syniadau a fydd, gobeithio, yn gwella bywyd y myfyrwyr y maent yn eu cynrychioli. Cyfeirir at y myfyrwyr hyn fel SRhA; byddant yn cynnal ymgyrchoedd, yn casglu adborth ac yn cynrychioli corff y myfyrwyr mewn amryw o wahanol ffyrdd. Mae gan bob SRhA gylch gorchwyl gwahanol, sy'n canolbwyntio ar faes penodol neu grŵp arbennig o fyfyrwyr.
Mae gan Gaerfyrddin, Llambed ac Abertawe eu Cyngor Campws eu hunain, ac mae pob un o'r swyddogion ar y campws hwnnw’n adrodd yn ôl iddo. Anfonir pob Syniad a Pholisi i Gyngor y Campws, lle caiff ei drafod ac yna naill ai ei basio neu ei wrthod. Mae pob Swyddog Rhan-Amser yn mynychu Cyngor y Campws ac yn siarad ar ran y grwpiau o fyfyrwyr y maent yn eu cynrychioli drwy eu rôl. Gall pob myfyriwr yn PCyDDS fynychu'r Cyngor, ond dim ond y rhai a etholir sy'n cael pleidleisio.
Mae gan swyddogion rhan-amser rôl hanfodol i'w chwarae o ran helpu'r Swyddogion Sabothol i gynrychioli buddiannau myfyrwyr yn effeithiol, yn ogystal â'u dal i gyfrif ac archwilio eu gwaith.
Rhaid i chi fod yn astudio ar y campws dan sylw i ymgeisio ar gyfer un o'r rolau hyn.
Dylech sefyll ar gyfer rôl fel swyddog rhan-amser os ydych chi'n angerddol am un o'r swyddi hyn, a bod gennych lwyth o syniadau ynglŷn â sut y gallwch chi gael myfyrwyr i gyfranogi, ymgyrchu dros newid, neu wneud bywydau myfyrwyr yn well.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr LHDT+, hyrwyddo materion LHDT+ a chynnig cymorth i fyfyrwyr LHDT+. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i ymgeiswyr hunan-ddiffinio o fewn ymbarél LHDT+.
Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli Myfyrwyr Hŷn, gan geisio gwella profiad myfyrwyr hŷn a hyrwyddo eu syniadau a’r materion hynny sy’n effeithio arnyn nhw. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i ymgeiswyr fod dros 25 oed.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr Traws, hyrwyddo materion Traws a chynnig cymorth i fyfyrwyr Traws. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i ymgeiswyr hunan-ddiffinio fel Traws.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr LHDT+, hyrwyddo materion LHDT+ a chynnig cymorth i fyfyrwyr LHDT+. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i ymgeiswyr hunan-ddiffinio o fewn ymbarél LHDT+.
Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli Myfyrwyr Rhyngwladol, gan geisio gwella profiad myfyrwyr rhyngwladol a hyrwyddo eu syniadau a’r materion hynny sy’n effeithio arnyn nhw. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i ymgeiswyr fod yn fyfyriwr o wlad sydd ddim yn rhan o’r UE.
Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, hyrwyddo'r defnydd cynyddol o'r Gymraeg; hefyd codi materion a rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i ymgeiswyr fod yn medru siarad Cymraeg yn rhugl.
Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli Myfyrwyr Rhyngwladol, gan geisio gwella profiad myfyrwyr rhyngwladol a hyrwyddo eu syniadau a’r materion hynny sy’n effeithio arnyn nhw. I fod yn gymwys i sefyll ar gyfer y rôl hon, rhaid i ymgeiswyr fod yn fyfyriwr o wlad sydd ddim yn rhan o’r UE.
Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli Myfyrwyr sy'n Rhieni neu’n Ofalwyr, gan geisio gwella eu profiad fel myfyrwyr ac adeiladu rhwydwaith gweithredol ar gyfer Myfyrwyr sy'n Rhieni neu’n Ofalwyr.
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n teimlo eich bod chi'n barod ar gyfer un o'r rolau hyn. Gallwch ddweud eich dweud o hyd drwy gyflwyno enw rhywun rydych chi’n meddwl fyddai’n gwneud cyfiawnder â’r swydd. Os ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai yn eich barn chi’n wych ar gyfer y rôl, gallwch eu henwebu nhw drwy ein ffurflen Enwebu Eich Cyfaill, sy'n gwbl anhysbys. Mae'r ffurflen yn cymryd llai na munud i'w chwblhau, ac unwaith mae hyn wedi'i wneud, gallwn gysylltu â nhw i roi gwybod iddynt fod rhywun yn meddwl y bydden nhw’n gwneud gwaith gwych, a’u hannog i gynnig eu henw.