Llambed: Dydd Mawrth 27 Ionawr - 5 pm
Caerfyrddin: Dydd Mercher 28 Ionawr - 5 pm
Abertawe: Dydd Iau 29 Ionawr - 5 pm
Mae eich Undeb Myfyrwyr yn fudiad dan arweiniad myfyrwyr, sy'n golygu mai chi sy'n penderfynu beth mae'r Undeb yn ei wneud, sut rydyn ni'n gweithio a’ch bod chi’n cael cyfle i lunio ein blaenoriaethau a'n hymagweddiad. Un o'r ffyrdd y gallwch chi wneud hyn yw trwy ein Cynghorau Myfyrwyr. Mae gennym gyngor myfyrwyr ar gyfer campysau Llambed, Caerfyrddin ac Abertawe, yn ogystal â Chyngor Undeb y Myfyrwyr sy'n cwmpasu'r cyfan.
Mae gan gampysau Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe eu cynghorau myfyrwyr eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys ein myfyrwyr etholedig gwirfoddol (Swyddogion rhan-amser), Swyddogion etholedig llawn-amser (Swyddogion Sabothol), cynrychiolwyr myfyrwyr o bob Cyfadran a'n Myfyrwyr Ymddiriedolwyr etholedig. Caiff pob un o'r cyfarfodydd hyn ei gadeirio gan Lywydd y Grŵp. Gall unrhyw fyfyriwr fynychu'r cyfarfodydd hyn ac awgrymu syniadau, polisïau a digwyddiadau ar gyfer eu campws. Maent hefyd yn gyfle i fyfyrwyr holi cwestiynau i'w cynrychiolwyr etholedig a chanfod mwy am faterion cyfoes a digwyddiadau sydd ar y gweill.
Oes gennych chi syniad mawr i'w awgrymu i'ch Undeb Myfyrwyr? Beth am ddefnyddio ein llwyfan ar gyfer Syniadau Mawr! Ewch i'n gwefan i ddarganfod mwy o wybodaeth a chyflwyno'ch syniad!
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gan ddefnyddio Microsoft Teams; bydd dolenni'n cael eu hanfon trwy e-bost at gynrychiolwyr etholedig, a byddant ar gael ar y wefan ynghyd â'r agenda yma.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'ch Cydlynydd Cyfleoedd Myfyrwyr perthnasol:
Laura Yates
Laura-Cait Driscoll
laura-cait.driscoll@uwtsd.ac.uk
Andrew Jones