Cynllun y Cyfeillion Gohebol

Dydd Iau 29-06-2017 - 15:20

Eleni, cysylltodd y cartref ymddeol lleol yng Nghaerfyrddin (Cartref Cynnes) â'r Undeb, gan holi a fyddai gan rai o'n myfyrwyr ddiddordeb mewn defnyddio'r ardal a'r cyfleusterau yn ei adeilad ar gyfer ymarfer, cymdeithasu neu hyd yn oed gwirfoddoli i wneud gwaith achlysurol. A ninnau'n awyddus i gael gwybod mwy, es i ac Anya O'Callaghan, myfyriwr sy'n ymddiriedolwr yng Nghaerfyrddin, ar ymweliad â Chartref Cynnes a siaradom ni â'r staff yno am ddulliau i annog myfyrwyr i ddod i'r ardal a helpu i ddwyn budd i'r preswylwyr ac i fyfyrwyr yn PCYDDS Caerfyrddin.

Creon ni ‘Gynllun y Cyfeillion Gohebol’, lle bydden ni'n paru rhai o breswylwyr Cartref Cynnes a rhai o fyfyrwyr PCYDDS a fyddai am wirfoddoli i ysgrifennu llythyron at ei gilydd.

Y rheswm am hyn oedd y duedd gynyddol mewn unigrwydd ymysg yr henoed a myfyrwyr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yn ôl Age UK, mae 3.9 miliwn o bobl yn dweud mai'r teledu yw eu prif fath o gwmni, ac mae 200,000 yn dweud nad ydyn nhw wedi cael sgwrs gyda ffrindiau na theulu ers mis. Mae'r Athro Siobhan O'Neill yn creu darlun tebyg gyda bywyd rhai myfyrwyr, gan ddweud bod gan 60% o fyfyrwyr anawsterau gorbryder ac y gall bywyd myfyrwyr weithiau fod ‘yn llawn unigrwydd a gorbryder’.

O fewn awr ar ôl hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol, llwyddom ni i baru 5 unigolyn ac un cwpl o Gartref Cynnes â myfyrwyr fel cyfeillion gohebol. Bu'r ymateb yn ANHYGOEL, er gwaethaf llawer o fyfyrwyr yn cydbwyso arholiadau, asesiadau a swyddi. Roedd llawer mwy o fyfyrwyr yn fodlon neilltuo eu hamser a oedd yn siomedig ynglŷn â cholli'r cyfle, ond gobeithio bydd modd i ni barhau i ehangu'r rhaglen a pharu mwy o breswylwyr â mwy o fyfyrwyr!

Er gwaethaf cyfnod prysur y flwyddyn ein myfyrwyr, llwyddon nhw i gyd i anfon eu llythyron yn brydlon, ac rydyn ni'n hapus iawn bod yr ymatebion cyntaf oddi wrth Gartref Cynnes wedi dechrau cyrraedd yr Undeb.

Er bod y prosiect yn un gweddol newydd, mae'n rhywbeth sydd wedi profi ei fod yn boblogaidd iawn, ac mae'n faes rydyn ni'n awyddus i ganolbwyntio arno yn y flwyddyn academaidd nesaf er mwyn helpu a rhoi rhywbeth bach yn ôl i'n cymuned. Diolch yn fawr IAWN i'n holl gyfeillion gohebol, i Anya am ei chymorth i drefnu'r cyfarfodydd a'u syniadau, i'r Undeb am ei gefnogaeth ac i Gartref Cynnes a'r staff yno - gobeithio y byddwn ni, y prosiect, yn parhau i dyfu a gallwn ni ganfod mwy o ffyrdd o helpu!

 

 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...