Mehefin yw mis Balchder; mae'n fis pan fyddwn ni’n rhoi sylw penodol i ddathlu cymunedau LHDT+. Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn wallgof, a gyda phopeth sy'n digwydd, mae'n dal i fod mor bwysig ag erioed ein bod ni i gyd yn sefyll yn gadarn dros gydraddoldeb a pharch. Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i’ch tywys drwy hanes Balchder, dathlu buddugoliaethau’r gymuned LHDT+, siarad am y gwaith sydd ar ôl i'w wneud o hyd, a sut y gallwch chi ymuno â'n cymdeithasau LHDT+.
Mehefin yw Mis Balchder gan ei fod yn coffáu Terfysgoedd Stonewall; cyfres o ymgyrchoedd a gwrthdystiadau gan aelodau o'r gymuned LHDT mewn ymateb i gyrch gan yr heddlu a ddigwyddodd yn oriau mân bore’r 28ain Mehefin 1969, yn Nhafarn Stonewall, Greenwich Village, Efrog Newydd. Mae llawer o'r farn bod y terfysgoedd hyn yn gatalydd yn yr ymgyrch dros hawliau LHDT yn UDA ac maent wedi dylanwadu ar ymgyrchoedd LHDT ledled y byd.
Ymddangosodd mudiad Balchder am y tro cyntaf ar ffurf Gorymdeithiau Atgoffa. Fe’u cynhaliwyd yn Philadelphia a Washington, DC ar 4 Gorffennaf, gan ddechrau yn 1965. Cynhaliwyd y gorymdeithiau hyn oherwydd yr angen i atgoffa'r cyhoedd o ormes y gymuned LHDT. Newidiodd hyn ar ôl Terfysgoedd Stonewall. Ac yn y flwyddyn ganlynol, sef 1970, cynhaliwyd yr orymdaith Balchder gyntaf yn Efrog Newydd. Erbyn heddiw, mae Gorymdeithiau Balchder yn cael eu cynnal ledled y byd drwy gydol yr Haf. Nod y digwyddiadau awyr-agored hyn yw dathlu'r gymuned a diwylliant LHDT, a gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant a hawliau. Cynhaliwyd digwyddiad Balchder cyntaf y DU yn Llundain ar 1af Gorffennaf 1972.
Cafodd y faner Balchder 8-streipen ei chreu gan yr artist Gilbert Baker. Codwyd y faner am y tro cyntaf yng Ngorymdaith Diwrnod Rhyddid Hoyw San Francisco 1978. Cyn hyn, defnyddiwyd y Triongl Pinc fel y symbol ar gyfer y mudiad LHDT; i adennill y logo a grëwyd gan y Natsïaid a chydnabod pennod dywyll yn hanes LHDT. Gostyngwyd nifer y lliwiau yn ddiweddarach oherwydd ystyriaethau cynhyrchu, gan arwain at y fersiwn 6-streipen sy’n cael ei chydnabod yn eang. Bellach mae nifer o amrywiadau o'r faner balchder sy’n adlewyrchu gwahanol faterion.
Hoffai'r tîm yn UMyDDS anrhydeddu’r cof am Marsha P. Johnson, ymgyrchydd rhyddhad hoyw Croenddu-Americanaidd, oedd yn aelod blaenllaw o’r mudiad rhyddhad. Roedd yn adnabyddus fel rhywun oedd yn eiriol dros hawliau hoyw, ac yn ffigwr amlwg yn nherfysgoedd Stonewall ym 1969 ac ymdrechion mudiad hawliau LHDT.
Nid oes unrhyw fuddugoliaeth yn rhy fawr nac yn rhy fach, ac mae pob un yn gam tuag at well cydraddoldeb. Dyma rai o’r buddugoliaethau nodedig i'r gymuned LHDT+ yn 2019/20. Gallwch weld hanes llawn hawliau LHDT+ ar Wikipedia:
Mae Balchder yn ymwneud ag ailddatgan gwerthoedd cydraddoldeb, parodrwydd i dderbyn, urddas a chynyddu ymwybyddiaeth o'r gymuned LHDT+. Mae Balchder yn beth personol iawn. I rai, mae hynny'n golygu gwisgo'r holl liwiau a mynychu un o'r gorymdeithiau. I eraill, mae'n ymwneud â theimlo'n gyfforddus ynddynt eu hunain. Sut bynnag rydych chi am ddathlu, dylech chi fod yn falch o bwy ydych chi!
Fel aelod o'r gymuned LHDT+, mae eich taith yn unigryw. Efallai bod gennych bryderon am stigma, camwahaniaethu, dod allan. Cofiwch fod eich cymuned yma i chi, a gallwch ddod o hyd i gyngor gwych gan Mind a Stonewall.
Cyngor LHDT+ gan MindCOVID-19 a Llesiant LHDTGwefan Stonewall
Mae balchder yn ymwneud â bod yn gynhwysol, yn barchus ac yn barod i dderbyn. Ac eto, mae astudiaeth a gynhaliwyd gan Stonewall yn dangos bod 51% o bobl LHDT+ sydd o leiafrifoedd ethnig wedi cael profiad o hiliaeth ar apiau canfod cymar ar-lein neu'n bersonol, ac mae'r canran hwn yn cynyddu i 61% ar gyfer y gymuned groenddu. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn sefyll yn gadarn dros gydraddoldeb ac yn gweithio i fynd i'r afael â'r materion hyn. Meddai Ruth Hunt, Prif Weithredwr Stonewall y DU:
"Mae'r ymchwil hwn yn tanlinellu’r pryderon sy’n bodoli ynghylch pa mor ddifrifol yw problem rhagfarn yn ein cymuned, ac mae angen i ni siarad amdano. Ar-lein ac yn eu bywydau bob dydd, mae pobl LHDT groenddu’n cael eu hallgau ac yn wynebu stereoteipio gan eu cyfoedion croenwyn. Mae hyn yn golygu bod pobl LHDT CALlE yn teimlo nad oes croeso iddynt yn y gymuned ehangach [...] Mae hyn yn annerbyniol ac mae'n achosi niwed a drwgdybiaeth. Os yw newid go iawn i ddigwydd i bobl LHDT CALlE, mae angen i ni fel cymuned ddal drych i ni ein hunain a chael sgyrsiau agored ynglŷn â sut i newid. Mae hyn yn golygu dysgu cydnabod ein breintiau ein hunain a bod yn gefnogwyr gweithredol i'n gilydd."
Bydd llawer o orymdeithiau Balchder yn digwydd yn ddiweddarach eleni. Dyma rai dolenni i'r amryw o drefnwyr Balchder ger ein campysau.
Balchder CymruBalchder yn AbertaweBalchder yn BirminghamBalchder yn Llundain
Fel llawer o grwpiau eraill, mae'r gymuned LHDT+ yn dal i brofi ansicrwydd a chamwahaniaethu, ond mae'r gymuned wedi dod yn bell yn ystod y 70 mlynedd diwethaf. Mae mor bwysig bod pobl yn cael eu derbyn am bwy ydyn nhw, waeth sut maen nhw'n diffinio’u hunain a phwy maen nhw'n eu caru. Gadewch i'ch lliwiau ddisgleirio, a helpwch UMyDDS i ddathlu mis Balchder.
Swyddog LHDT+ (Safle Agored)
Caerfyrddin
Swyddog LHDT+ (Safle Agored)
Llambed
Swyddog LHDT+ (Safle Agored)
Abertawe
Swyddog LHDT+ (Safle Agored)
Caerfyrddin
Swyddog LHDT+ (Safle Agored)
Llambed
Swyddog LHDT+ (Safle Agored)
Abertawe
Swyddog Myfyrwyr Traws
Caerfyrddin
Swyddog Myfyrwyr Traws
Llambed
Swyddog Myfyrwyr Traws
Abertawe
Os hoffech chi sefyll ar gyfer un o'r rolau hyn fel Swyddog, gwyliwch allan am ein hetholiadau yn ystod tymor cyntaf 2020/21
Os ydych chi'n astudio ar ein campysau yng Nghaerdydd, Birmingham neu Lundain, a’ch bod am sefydlu cymdeithas LHDT, byddem ni wrth ein bodd clywed gennych chi: yoursu@uwtsd.ac.uk