Helo bawb, Mis Balchder Hapus! 🏳️🌈
Mehefin yw mis Balchder; mae'n fis pan fyddwn ni’n rhoi sylw penodol i ddathlu cymunedau LHDTC+.
Mae Balchder yn ymwneud ag ailddatgan gwerthoedd cydraddoldeb, parodrwydd i dderbyn, urddas a chynyddu ymwybyddiaeth o'r gymuned LHDTC+. Mae Balchder yn beth personol iawn. I rai, mae hynny'n golygu gwisgo'r holl liwiau a mynychu un o'r gorymdeithiau. I eraill, mae'n ymwneud â theimlo'n gyfforddus ynddynt eu hunain. Sut bynnag rydych chi am ddathlu, dylech chi fod yn falch o bwy ydych chi!
Er efallai na fyddwn yn gallu cynnal y gorymdeithiau a'r dathliadau anhygoel sy'n digwydd fel arfer. Rydym yn gobeithio y bydd ein hymdrechion yn caniatáu i unrhyw un yn y gymuned sy'n teimlo'n ynysig i gysylltu â myfyrwyr LHDTC+ eraill, ymuno â'r rhwydwaith ryddhad dan arweiniad myfyrwyr, a mwynhau Balchder hyd yn oed os yw o’ch cartref.
Beth ydyn ni'n ei gynnal?
Pecyn Balchder Am Ddim
Byddwn yn dosbarthu 50 pecyn ar sail ‘y cyntaf i’r felin’ a fydd yn cynnwys yr eitemau canlynol:
- Mwgwd neu faner o'ch dewis
- Glitter corff eco-gyfeillgar
- Sticeri ar thema Balchder
- Tatŵs dros-dro ar thema Balchder
- Cerdyn post wedi'i bersonoli gyda dolenni a gwybodaeth ddefnyddiol.
Araith Ysgogol
Byddwn hefyd yn cynnig cyfle i bob myfyriwr fynychu araith ysgogol ac ysbrydoledig gan ddarlithydd PCyDDS sy'n rhan o’r gymuned LHDTC+ a bydd yn ymdrin â phwnc ymgyrchu Balchder a Chwïar.
Dod yn fuan
Noson Ffilm
Yn olaf, rydyn ni am i'r gymuned ddod at ei gilydd; sut allwn ni wneud hyn? Byddwn yn cynnal Noson Ffilm ar thema Balchder ar noson y 30ain Mehefin.