Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben neu nid yw'r digwyddiad bellach ar gael.
I ddod â Mis Balchder i ben, rydym yn cynnal noson ffilm rithwir am 6pm nos Fercher. Gallwch bleidleisio dros y ffilm o’ch dewis yma trwy glicio i gofrestru. Yng ngeiriau doeth Brenhines Drag-Racers, ewch i bleidleisio; cawn weld pa ffilm fydd yn ENNILL.
Mae’r pleidleisio’n cau 18 Mehefin. Byddwn yn e-bostio pawb sydd wedi cofrestru, gan gadarnhau pa ffilm sy’n mynd i gael ei dangos a rhannu’r ddolen ar gyfer ymuno, ddydd Gwener 53 Mehefin.
Yn seiliedig ar stori wir, mae Pride (2014) yn sôn am grŵp o ymgyrchwyr lesbiaidd a hoyw a aeth ati i godi arian i helpu teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan streic glowyr Prydain ym 1984; dyma ddechrau'r hyn a fyddai'n dod yn ymgyrch Lesbiaid a Hoywon i Gefnogi'r Glowyr.
Mae gan Alex Truelove gynlluniau i golli ei wyryfdod i'w gariad hoffus, Claire, ond mae cynlluniau'n mynd o chwith pan fydd Alex yn cwrdd ag Elliot, sydd yr un mor annwyl.
The Miseducation of Cameron Post (2018) yw stori goroesi merch ifanc, amddifad, o dref fach ym Mhennsylvania, a anfonwyd yn erbyn ei ewyllys i wersyll therapi trosi Cristnogol, heb unrhyw beth heblaw ei synnwyr o hunaniaeth ddigyfaddawd.
Mae The Half of It (2020) yn fersiwn fodern o Cyrano de Bergerac lle mae Ellie Chu, sydd yn ei harddegau, yn dechrau ysgrifennu llythyrau serch ar ran Paul Munsky, sy’n ei chael yn anodd mynegi ei hun, at Aster Flores sydd wedi mynnu ei sylw. Ond mae pethau'n mynd ychydig yn lletchwith pan fydd Ellie yn dechrau cwympo mewn cariad ag Aster hefyd.
Lleoliad : Online
Math: Birmingham, Caerdydd, Caerfyrddin, Llambed, London, Ar-lein, Abertawe
Dyddiad dechrau: Dydd Mercher 30-06-2021 - 18:00
Dyddiad gorffen: Dydd Mercher 30-06-2021 - 21:00
Rebecca Crane
Rebecca.Crane@uwtsd.ac.uk