Mae'r rhan fwyaf o bobl bellach yn gweld ailgylchu fel y “peth iawn i'w wneud” - maent yn cydnabod ei bwysigrwydd wrth fynd i'r afael â disbyddu adnoddau a diraddiad amgylcheddol yn rhyngwladol. Mae rhai pobl hyd yn oed yn hoffi'r syniad bod eu sbwriel diangen yn cael ei droi’n rhywbeth newydd a chyffrous, tra bod eraill yn ei weld fel dim mwy na’u dyletswydd er mwyn bod yn ddinasyddion cyfrifol. Mae pob un o'r rhesymau hyn yn ddilys, ac mae'n wych bod y rhan fwyaf o bobl (a myfyrwyr!) bellach yn ailgylchu heb ail feddwl; erbyn hyn, mae’n rhan annatod o gymdeithas.
Fodd bynnag, mae'r brwdfrydedd diweddar dros ailgylchu wedi arwain at fater arall: halogiad.
Halogiad yw pan roddir eitem anghywir mewn bin - gall hon fod yn eitem y gellir ei hailgylchu, neu gall fod yn eitem na ellir ei hailgylchu. Felly, er enghraifft, os rhoddir potel wydr yn y bin papur, yna bydd yr eitem hon yn mynd drwy'r un driniaeth â phe bai'n bapur, ond oherwydd bod y cyfansoddiad cemegol yn wahanol, bydd yn ymateb yn wahanol ac yn arwain at broblemau yn y safle ailgylchu. Y peth gwaethaf a all ddigwydd yw y bydd yn toddi neu'n cael ei rhwygo ynghyd â'r papur, gan “halogi” yr holl bapur y gellir ei ailgylchu, gan arwain at y cyfan (y “llwyth”) yn gorfod cael ei waredu mewn safleoedd tirlenwi.
Mae gan y rhan fwyaf o safleoedd ailgylchu, a elwir yn “Gyfleusterau Adfer Deunyddiau” (CAD), ffordd o ddidoli'r deunyddiau ailgylchadwy y maent yn eu casglu - mae hon yn broses ddiddorol sy'n cynnwys gwahanol beiriannau, magnetau a didoli â llaw. (Os ydych chi am ddarllen ychydig yn fwy am y broses, gallwch fwrw golwg ar y Blog a ysgrifennais fis diwethaf am ein taith i CAD Nantycaws gyda Chymdeithas Amgylcheddol y DDS Abertawe). Fodd bynnag, mae hyn yn ddrud, yn cymryd llawer o amser ac yn defnyddio cryn lawer o ynni (meddyliwch faint o drydan y mae ei gymryd i redeg yr holl beiriannau hynny). Mae hon yn gost sy'n cael ei throsglwyddo i'r busnesau a'r bobl sy'n gwaredu'r gwastraff halogedig. Yn syml: mae'n rhatach i ni, a'r Brifysgol, i waredu gwastraff ailgylchadwy sydd wedi'i ddidoli'n gywir, yn hytrach na gwastraff wedi'i ddidoli'n anghywir neu “wedi'i halogi”.
Mae'n costio £310 y dunnell fetrig i'r Brifysgol waredu gwastraff cyffredinol, p'un a yw'r eitemau yn y bag yn ailgylchadwy ai peidio, o'i gymharu â dim ond £170 y dunnell yn achos ailgylchu cymysg sych wedi'i ddidoli'n gywir. Yn yr un modd, mae gwydr yn rhatach fyth, sef £160 y dunnell (gan fod gwydr yn ddeunydd sy’n ailgylchu’n ardderchog; nid yw'n diraddio mewn ansawdd mor hawdd â phlastig a phapur). Mae hyd yn oed gwastraff bwyd yn costio llai i waredu o gymharu â gwastraff cyffredinol, sef £210 y dunnell, oherwydd gellir ei droi'n gompost a'i werthu gan y CAD. Os oes gormod o eitemau anghywir mewn unrhyw fin penodol, yna bydd yn cael ei ystyried yn halogedig a bydd ei holl gynnwys yn cael ei waredu fel gwastraff cyffredinol, ac yn cael ei anfon i dirlenwi.
Yn syml, nid oes gan y staff cyfleusterau sy'n gwagio ein biniau yn y Brifysgol amser i fynd drwy bob bin a thynnu allan yr hyn na ellir ei ailgylchu. Maent yn bobl brysur gyda llu o ddyletswyddau eraill i'w cyflawni, ac ni ddylai fod disgwyl iddyn nhw orfod mynd trwy finiau a ddylai, yn ddamcaniaethol, fod yn gywir beth bynnag. Petai myfyrwyr a staff yn talu mwy o sylw i'r hyn sy'n briodol ar gyfer pob bin, yna byddai gostyngiad amlwg mewn halogiad ar draws y Brifysgol, a byddai ein cyfraddau ailgylchu yn cynyddu o ganlyniad.
Un o’r pethau mwyaf amlwg sy’n halogi biniau ailgylchu yn gyffredinol yw gwastraff bwyd. Mae gwastraff bwyd yn cyrraedd biniau ailgylchu drwy gynwysyddion bwyd, fel pecynnau brechdanau neu hambyrddau bwyd. Mae bwyd yn aml yn wlyb ac mae'n cynnwys olew, sydd nid yn unig yn fudr ac yn gwneud i'r bin arogli'n annymunol, ond gall hefyd ddiraddio ansawdd y deunyddiau ailgylchadwy. Ystyriwch bapur, er enghraifft: mae faint o weithiau y gellir ailgylchu unrhyw ddarn o bapur yn dibynnu ar hyd y ffibrau papur y mae'n eu cynnwys, po hwyaf yw'r rhain, y mwyaf o weithiau y gellir ei ailgylchu. Yn anffodus, gall olewau bwyd (neu unrhyw hylif, o ran hynny) drwytho’r papur a diraddio'r ffibrau, gan eu gwneud yn fyrrach. Os rhoddir eitem gyda gweddillion bwyd arni mewn bin ailgylchu, yna gall hyn drosglwyddo i eitemau papur yn yr un bin ac achosi difrod iddynt.
Os nad ydych chi'n siŵr sut i waredu eitem benodol, gallwch ddod o hyd i ddolenni ac adnoddau defnyddiol ar wefan y Brifysgol
Mae'n bwysig cofio bod gwasanaethau ailgylchu yn amrywio rhwng tai preifat, Neuaddau Preswyl, a hyd yn oed rhwng campysau Prifysgolion (mae gan Lambed gontractwyr gwastraff gwahanol i Abertawe a Chaerfyrddin!). Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi waredu eich gwastraff yn wahanol, gan ddibynnu ar ble rydych chi. Os ydych chi'n dal i fod yn ansicr ynghylch pa fin i roi eich sbwriel ynddo, yna dilynwch y rheol syml o “os ydych yn ansicr, gadewch e allan” - mae hyn yn golygu nad yw eitemau a allai o bosib beri problem yn creu anawsterau’n nes ymlaen, gan beri i fwy o eitemau fod yn amhosib eu hailgylchu.
Mae hyn yn llawer o wybodaeth i’w hystyried, felly peidiwch â phoeni os byddwch chi'n gwneud camgymeriadau. Y peth pwysig yw parhau i wneud eich gorau, a dweud wrth eich ffrindiau ynglŷn â halogi, a sut y gallwn gydweithio i gael gwared arno!