Cofrestrwch i Bleidleisio: Mae’r Dyddiad Cau yn Agosáu!

Dydd Mawrth 19-11-2019 - 15:50

 
Rhaid i unrhyw un sydd am bleidleisio yn Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU ddydd Iau 12 Rhagfyr 2019 gofrestru erbyn dydd mawrth 26 Tachwedd. Mae cofrestru'n hawdd, ac mae’n gyflym: gallwch wneud hynny ar-lein yn:
 

➡️ www.gov.uk/registertovote

 
Bydd angen eich Rhif Yswiriant Gwladol a'ch cyfeiriad arnoch i gwblhau'r cais. Os nad oes gennych chi eich rhif YG wrth law, yna mae opsiwn o fewn y ffurflen i fwrw ymlaen â’r cofrestriad hebddo.
 
Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n byw ac yn astudio oddi cartref, gallwch gofrestru yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor a’ch cyfeiriad cartref, ac yna dewis ym mha etholaeth yr ydych yn dymuno pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.
 
Mae'n drosedd i rywun fwrw mwy nag un bleidlais ar ran eu hunain mewn Etholiad Cyffredinol Seneddol yn y DU. Os ydych chi wedi'ch cofrestru mewn dwy etholaeth ar wahân, mae'n rhaid i chi ddewis pa un i fwrw'ch pleidlais ynddi; dim ond unwaith y gallwch chi bleidleisio.
 
Mae'r Guardian wedi cyhoeddi teclyn defnyddiol i fyfyrwyr a allai eich helpu i ddewis a ydych ch’n dymuno pleidleisio yn eich etholaeth gartref neu yn ystod y tymor.
 

➡️ Teclyn defnyddiol i fyfyrwyr

 
Os na allwch chi bleidleisio'n bersonol yn yr etholaeth o'ch dewis ar 12fed Rhagfyr, a’ch bod yn dymuno gwneud cais am bleidlais bost, gallwch chi lawrlwytho’r ffurflen gais yma. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 26 Tachwedd (21 Tachwedd yn achos y rhai sy'n pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon).
 

➡️ Lawrlwytho’r ffurflen gais yma

 
Os hoffech chi wybod mwy am ASau cyfredol, gallwch edrych ar eu record bleidleisio drwy fynd i theyworkforyou.com. Gallwch weld canlyniad yr etholiad blaenorol ar gyfer unrhyw etholaeth seneddol yn y DU drwy ymweld â www.bbc.co.uk/news/election/2017/results a mynd i 'Find a Constituency'.
 

➡️ www.theyworkforyou.com

➡️ Weld canlyniad yr etholiad blaenorol

 
 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...