Y Memorandwm ac Erthyglau Cydgymdeithasu (MacE) yw Dogfen Lywodraethol Undeb y Myfyrwyr. Mae'n ddogfen gyfreithiol. Mae angen adolygu'r ddogfen hon bob 4 blynedd; yn flaenorol mae Undeb y Myfyrwyr wedi ‘diweddaru’ rhywfaint ar y MacE, ond nid adolygiad llawn mohono.
Caiff yr Undeb ei lywodraethu gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr (gallwch ddarganfod mwy am y Bwrdd yma). Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi datgan ei fwriad i gynyddu nifer yr ymddiriedolwyr allanol; y rheswm am y cynnydd hwn yw er mwyn i bob swyddog sabothol fod ag ymddiriedolwr allanol i weithredu fel mentor.
Cynigir newidiadau gweinyddol; ni fydd yr amcanion (y rheswm yr ydym yn bodoli) nac elfennau rheoliadol eraill yn cael eu newid, felly ni fydd angen cymeradwyaeth ffurfiol gan y Comisiwn Elusennau.
Isod mae darn o'n dogfen lywodraethol sy'n esbonio'r broses.
9. Adolygu a Diwygio'r Erthyglau
9.1 Bydd yn ofynnol i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant adolygu darpariaethau Erthyglau Cydgymdeithasu'r Undeb o leiaf bob pum mlynedd.
9.2 Bydd angen y canlynol ar gyfer unrhyw newid i Erthyglau Cydgymdeithasu'r Undeb:
9.2.1 Bod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn anfon allan y cynnig i ddiwygio'r Erthyglau i Bwyllgorau Arweinyddiaeth Canghennau’r Myfyrwyr (y “Cynnig”);
9.2.2 Cyfnod o amser (fel y nodir yn yr Is-ddeddfau) pan fydd Pwyllgorau Arweinyddiaeth Canghennau’r Myfyrwyr yn ymgynghori â Changhennau’r Myfyrwyr, a gellir cyflwyno unrhyw newidiadau i'r Cynnig i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr;
9.2.3 Bod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn anfon allan i holl Bwyllgorau Arweinyddiaeth Canghennau’r Myfyrwyr y penderfyniad i gymeradwyo naill ai'r Cynnig neu Gynnig diwygiedig sy'n cynnwys y newidiadau hyn a gyflwynwyd yn unol ag Erthygl 9.2.2 y mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ôl eu disgresiwn llwyr wedi'u derbyn;
9.2.4 Penderfyniad a basiwyd gan bob Cyngor Undeb Myfyrwyr trwy bleidlais fwyafrifol o ddwy ran o dair yn cymeradwyo'r Cynnig neu'r Cynnig diwygiedig (fel sy’n berthnasol);
9.2.5 Penderfyniad arbennig gan yr Aelodau Cyfraith Cwmnïau yn gwneud y newidiadau i'r Erthyglau sydd wedi'u cymeradwyo trwy benderfyniad Pwyllgorau Arweinyddiaeth Canghennau’r Myfyrwyr yn unol ag Erthygl 9.2.4; a
9.2.6 Cymeradwyaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Nid oes unrhyw beth yn newid ym mywydau myfyrwyr yn sgil y newidiadau arfaethedig. Y ddau brif beth rydym ni’n bwriadu eu gwneud yw ychwanegu mwy o safbwyntiau allanol at Fwrdd yr Ymddiriedolwyr (a chynnig rhywfaint o fentora i'r swyddogion), yn ogystal â chael gwared ar iaith ryweddol yn y ddogfen. Fodd bynnag, os ydych chi’n bwrw golwg dros y ddogfen lywodraethol a gweld rhywbeth yr hoffech ei newid neu ei ychwanegu, cysylltwch â ni union@uwtsd.ac.uk i gael sgwrs am yr hyn a ddylai newid yn eich barn chi. Mae angen i chi wneud hyn cyn 26 Hydref.
Ar ddiwedd yr erthygl hon fe welwch ddwy ddogfen 1) dogfen 'rhesymeg' sy'n helpu i egluro pam ein bod yn argymell rhai newidiadau; mae llawer o hyn yn ymwneud â chynnwys ‘Commas Rhydychen’, a 2) yw'r ddogfen lywodraethol sydd â newidiadau wedi’u tracio, fel y gallwch chi weld y newidiadau yn uniongyrchol. Mae'r ddwy ddogfen i'w darllen gyda'i gilydd fel pwyntiau cyfeirio ar gyfer y naill a’r llall.
02 Hydref: Y Bwrdd yn cymeradwyo'r newidiadau terfynol a awgrymir i’r MacE
16 Hydref: Mae’r 'Cynnig' ar gael ar gyfer ymgynghoriad â myfyrwyr
26 Hydref: Dyddiad cau ar gyfer sylwadau / newidiadau a awgrymir gan fyfyrwyr
28 Hydref: Dyddiad cau i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr gymeradwyo unrhyw newidiadau a awgrymir gan fyfyrwyr
16 Tachwedd: Y Cynnig Terfynol yn cael ei gyflwyno i Gynghorau Campws
23 Tachwedd: Wythnos Cynghorau Campws (ar gyfer pleidleisiau ym mhob Cyngor Campws i gymeradwyo'r newidiadau)
25 Tachwedd: Cyngor PCyDDS yn cymeradwyo'r newidiadau
30 Tachwedd: Cyfarfod Cyfraith Cwmnïau yn ystod yr wythnos hon i gymeradwyo'r newidiadau
Y tu hwnt i hyn… cyflwynir y Memorandwm ac Erthyglau Cydgymdeithasu wedi'i chwblhau i Dŷ'r Cwmnïau a'u huwchlwytho i wefan undeb y myfyrwyr
Memorandwm ac Erthyglau Cydgymdeithasu gyda Newidiadau wedi’u Tracio