Helo bawb,
Felly dyma ddiwedd fy siwrne dair blynedd a siwrne llawer ohonoch chi sydd wedi bod yn gynrychiolwyr cwrs eleni. Rydw i am drafod rhai o fy meddyliau, cofio gwaith caled y bobl yn PCYDDS (myfyrwyr a staff) a sôn am bethau na ddylid eu hanghofio erbyn mis Medi.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi bod yn teimlo'n eithaf emosiynol. Yn anffodus, cafodd fy nheulu brofedigaeth pan ddychwelais i yn ôl ar ôl teithio a doedd dim rhybudd o gwbl roedd hynny'n mynd i ddigwydd. Mae colli fy Mam-gu ar yr adeg hon wedi rhoi safbwynt eithaf gwahanol i mi ar bethau ac wedi caniatáu i mi adlewyrchu'n fwy ar bethau ar adeg ingol iawn i wneud hynny. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn hunan werthuso gymaint ag sy'n bosib, ond i chi barhau i ganolbwyntio ar y dasg wrth law. Dyma'r unig ffordd rydyn ni'n gwella.
Eleni a llynedd, rydw i wedi gweithio'n galed iawn, yn galetach nag rydw i wedi gweithio erioed. Roeddwn i am ennill dosbarth cyntaf! Cael swydd ran amser oedd y cam cyntaf, dysgu sut i fynd at fy nhiwtoriaid cymorth a manteisio ar eu cryfderau nhw a fy nghryfderau i oedd nesaf. Cefais i hyblygrwydd a brwdfrydedd na chefais i erioed wrth i mi geisio osgoi gwneud camgymeriadau dwl. Felly, darllenais i ambell erthygl, helpais i'r myfyriwr a oedd yn ymchwilydd oherwydd gofynnodd rhywun yn y gwaith i mi ymuno, a sylweddolais i roedd bod yn fwy uniongyrchol a phur ond yn golygu dweud pethau'n uchel ac yn glir.
Ar ôl i mi ddwyn budd o gytuno i ambell gyfle yn yr ail flwyddyn, penderfynais i wneud yr un peth eto. Fis Mehefin, des i'n gynrychiolydd cwrs ar ôl mynychu cyfarfod y pwyllgor staff-myfyrwyr yn anfwriadol (diolch Gemma). Fis Medi, gwnes i gais i fod yn gynrychiolydd cyfadran a llwyddais (diolch Gwyneth, Lydia a Rhys). Meddyliais i, jiw maen nhw wedi rhoi cryn dipyn o ffydd ynof i er doeddwn i ddim yn gynrychiolydd cwrs yn hir, ond yna sylweddoli i fel myfyriwr (gweddol) rhagweithiol, doedd dim angen blynyddoedd o brofiad mewn gwirionedd ac roedd fy llais a fy ngweledigaeth mor werthfawr â rhai unrhyw un arall. Gyda'r llais a'r weledigaeth hynny, penderfynais i ddechrau ceisio galluogi eraill a dechreuais i gan ofyn i Gemma (y cynrychiolydd cyfadran blaenorol) pa broblemau a gafodd hi a beth oedd rhaid i mi fod yn ymwybodol ohono. Roedd angen y cyngor hwn arna i'r gorau y gallwn, ond mewn realiti, er mwyn gwybod, mae angen i chi gael profiad ohono yn y fan a'r lle. Roedd siarad â myfyrwyr, darlithwyr, Meg a Bea yn hawdd. Rydych chi gyd wedi bod yn anhygoel gydol y flwyddyn a chi yw'r rheswm pam mae popeth wedi digwydd. Ond, doedd siarad â swyddfa'r gyfadran a pherson roedd gen i feddwl mawr ohono, ddim mor hawdd. Ar ôl diffyg cyfathrebu ac ar ôl cwpl o fisoedd, aeth pethau yn ôl yn eu blaen fel arfer. Roedd rhaid i mi drechu fy ofn peri anghyfleustra ac anghofio am y tôn a ddefnyddiwyd wrth ddelio â fy mhroblem, oherwydd nid fi oedd yr unig destun dan sylw yma. Rydw i ond yn un myfyriwr ymhlith mil a mwy ac roeddech chi, eich cohortau, y brifysgol a'r Undeb yn dibynnu arnaf i weithio. Ceisiais i wneud mwy na hynny ac yn sgil fy mhrofiadau, daeth fy nghanolbwynt i yn ôl yn gryfach nag erioed a gwellodd fy ngwaith a'r ffordd y cynrychiolais i chi (wel... gobeithio! ;) ).
Yn y gwanwyn, penderfynais i geisio trechu rhai o'r problemau mwy anhwylus. Roeddwn i wedi awgrymu ambell beth a chadwais i fy hunan-addewid yn dryloyw. Roedd siarad â'r brifysgol, yr Undeb a myfyrwyr yn agored eisoes wedi cyflawni cryn dipyn a chafodd llawer o broblemau unigol eu datrys yn gyflym iawn ac mewn modd boddhaol. Roeddwn i am i fyfyrwyr ledled Llambed gael Panopto, roeddwn i am gael gwybod yr hyn oedd wir ar feddwl y myfyrwyr a cheisio dileu'r rhwystr roedd gan rhai unigolion rhag cyflawni gweledigaeth yr Undeb. Roedd Kyle wedi crybwyll roedd hyd yn oed y cynrychiolwyr gorau ond yn cynrychioli eu barn eu hunain a'u ffrindiau, ond nid hynny yw ein bwriad. Felly daethoch chi ataf i, awgrymoch chi bethau a gofynnoch chi am gymorth sef union yr hyn sydd eu hangen arnom. Daeth yr arolwg i'w derfyn fis Mawrth, cafodd Panopto ei gyrru yn wynebau llawer o bobl a dro ar ôl tro codwyd y pwynt bod angen i'r campysau integreiddio'n fwy, yn bennaf ar lefel y staff fel bod y rheiny yn Abertawe a Chaerfyrddin yn teimlo'n llai ynysig.
Gyda'ch cymorth, cyrhaeddom ni fwy o fyfyrwyr nag mae hyd yn oed y gyfadran a'r Undeb yn gallu eu cyrraedd a heb eu cymorth chwaith. Mae'r Undeb wedi penderfynu adolygu ei strwythur a'i ddemocratiaeth flwyddyn nesaf, bydd y gyfadran yn cynnal cyfarfodydd bwrdd y gyfadran unwaith yn yr holl gampysau sy'n creu'r gyfadran i helpu integreiddio, mae Panopto yn cael ei hystyried o ddifrif i'w gweithredu'n orfodol yn y gyfadran a nawr yn ôl pob sôn(?) mewn cyfadran arall, mae'r Llyfrgell wedi derbyn cyngor ar oriau agor ac yn ceisio gwella'r cynllun gwirfoddoli. Eleni cafwyd mwy o fentrau a arweinir gan fyfyrwyr yn y brifysgol nag yn unrhyw flwyddyn arall yn ddiweddar. I'r rheiny ohonoch chi sy'n meddwl mai'r rheswm am hyn yw ambell berson yn unig, dydy hynny ddim yn wir. Galla i siarad am yr holl bethau hyn mewn cymaint o fanylder am mai fy nghyfrifoldeb i yw pasio'r rhain ymlaen. Roedd cyfnodau pan oedd y cymorth yn weddol fach, ond cwyno a dyfalbarhad a helpodd ni i lwyddo ac roedd cyfnodau pan ddaeth y cymorth atom ni'n llu. Ond doedden ni ddim wedi rhoi'r gorau i gwyno, canmol, ymateb, siarad na gweithredu. Rhaid i fyfyrwyr yn y brifysgol hon beidio rhoi'r gorau i'r pethau hynny, am fod angen i ni wella ac am eich bod chi'n cyfrannu gymaint at welliant ag mae unrhyw un arall.
Roedd eleni'n llwyddiant mawr; mae'r staff, myfyrwyr, cynrychiolwyr, ffrindiau a theulu sy'n rhan o'r brifysgol mewn unrhyw ffordd yn cyfrannu at hynny yn eu ffordd eu hunain. Cyfrannodd y rheiny ohonoch a e-bostiodd, gwnaeth sylw, darllenodd, mynychodd gyfarfodydd, trafododd â'ch ffrindiau a'ch cohort, ac felly gwnaeth unrhyw un o'r pethau hynny, at y llwyddiant hwn. Mae'n werth yr oriau poenus a dreuliwyd yn ysgrifennu a gallwn ni wneud mwy o hyd yn PCYDDS i ddwyn budd i ni ein hunain ac i bawb arall yma (yn bwysicach oll, i'r rheiny fydd yn dod).
Y rheswm am hynny yw'r rheiny ohonoch sy'n aros flwyddyn nesaf.
Hoffwn ni ddiolch i bob un ohonoch chi am eich cymorth, yn enwedig os ydych chi wedi llwyddo bod yn ddigon amyneddgar i ddarllen mor bell â hyn! Hoffwn ni ddiolch i Gwyneth, Bea, Rhys, Dylan a Meg a oedd yn rhan o'r Undeb eleni. Hoffwn ni ddiolch i Kyle, Jeremy, Marlene, Sylvia, Philip, Matt, Janet, Sarah, Haf, Paul, Thomas, Dominique ac Alison, yr aelodau staff a oedd yn rhan annatod o lwyddiant yr hyn rydyn ni wedi ei gyflawni. Yn olaf, hoffwn i ddiolch hefyd i fy ffrindiau i ac i'ch ffrindiau chi, sydd wir wedi cyfrannu at ein syniadau (hyd yn oed os cafodd y syniadau hynny eu trosglwyddo drwy Yik Yak).
Ar gyfer y flwyddyn nesaf, hoffwn i glywed bod y pethau hynny'n parhau. Mae'n hangen ni ar y brifysgol, ei myfyrwyr. Ddylid ddim anghofio Panopto. Mae angen i'r brifysgol gadw ei safonau dysgu'n uchel, mae angen ymchwilio i farn y myfyrwyr a'i herio, ac ar raddfa uwch, dylai'r Llyfrgell wastad weithio tuag at gynnal y system a'r oriau mwyaf addas i fyfyrwyr. Mae eich system gynrychiolaeth wedi cael ei herio i'r ffin, mae angen rhoi cynnig ar bethau newydd a rhaid i'ch adborth barhau i ddod (dwi'n siwr y bydd).
Beth bynnag fydd yn digwydd, diolch am eich cyfraniad. Fyddai unrhyw beth a gyflawnwyd ddim yn bosib heboch chi. Peidiwch ag ofni lleisio'ch barn, ewch yn syth at y person sydd fwyaf addas i'ch helpu. Byddwch yn barchus, ond peidiwch ag oedi.