Gall mynd i'r brifysgol fod yn newid mawr mewn bywyd, ffrindiau newydd, dinas newydd, cyfleoedd cyffrous o amgylch pob cornel. Ond weithiau gall fod ychydig yn frawychus, yn enwedig os ydych chi'n cael eich hun mewn gwlad newydd - ac rydyn ni'n deall hynny'n llwyr!
Dyna pam rydyn ni wedi llunio canllaw hawdd ei ddefnyddio o'r pethau pwysig y gallech fod angen i chi eu gwneud neu eu gwybod cyn ac yn ystod eich amser yma yn y Drindod Dewi Sant ac yn y DU
Cofrestrwch gyda meddygfa leol y GIG cyn gynted ag y bydd gennych chi gyfeiriad — peidiwch ag aros nes eich bod yn sâl.
Defnyddiwch wefan y GIG i ddod o hyd i feddygfeydd yn eich ardal a chofrestrwch ar-lein trwy eu gwefan neu wyneb-yn-wyneb gan ymweld â'r feddygfa agosaf.
Ganddefnyddio gwefan GIG 111 Cymru, gallwch ddod o hyd i'ch practis lleol a chysylltu â nhw'n uniongyrchol i gofrestru gyda nhw
Damweiniau ac Achosion Brys (A&E): Mae adran Ddamweiniau ac Achosion Brys ar gyfer anafiadau difrifol ac argyfyngau sy'n peryglu bywyd. Gallwch hefyd gysylltu â'r gwasanaeth gofal brys hwn trwy ffonio 999 neu trwy ymweld ag adran ddamweiniau ac achosion brys mewn rhai ysbytai fel claf sy’n "cerdded i mewn".
GIG 111: os nad ydych chi'n siŵr a oes angen i chi fynd i'r adran Ddamweiniau ac Achosion Brys, gall GIG 111 wirio'ch symptomau a dweud wrthych chi beth i'w wneud.
Gwiriwch eich symptomau ar 111 ar-lein, neu ffoniwch 111 i siarad â rhywun os oes angen help arnoch
Gofal deintyddol ac optegol: Nid yw'n gwbl ddi-dâl; gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys hyn yn eich cyllideb ar wahân; yn dibynnu ar y practis a'r driniaeth, gall disgowntiau i fyfyrwyr fod yn berthnasol weithiau.
Os nad ydych chi eisoes wedi trefnu llety, neu os oes angen i chi ddod o hyd i le yng nghanol eich astudiaethau, mae yna ychydig o bethau i'w hystyried:
Llwyfannau cyffredin ar gyfer dod o hyd i eiddo rhent yn y sector preifat: SpareRoom, Rightmove, Zoopla.
Gofynnwch am y “cynllun diogelu blaendaliadau”- yn ôl y gyfraith, rhaid i'ch landlord ddiogelu eich blaendal mewn cynllun wedi’i gymeradwyo gan y llywodraeth (e.e. DPS, MyDeposits, TDS) o fewn 30 diwrnod i'w dderbyn, a rhoi'r manylion i chi.
Mae gennych chi hawl i gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig: y contract cyfreithiol rhwymol rhwng landlord a thenant sy'n nodi'r rheolau ac amodau ar gyfer rhentu eiddo
Gall PCyDDS eich darparu â llythyr eithrio rhag Treth y Cyngor (Mae hwn ar gael i bob myfyriwr cymwys llawn-amser, cofrestredig sydd â hawl i gael ei eithrio rhag treth y cyngor). Gellir lawrlwytho hwn o'ch Cyfrif MyTSD
https://www.uwtsdunion.co.uk/advice/housing
https://www.uwtsdunion.co.uk/articles/moving-tips-before-you-sign-on-the-dotted-line
Fel arfer, fe welwch mai rhent yw eich cost fwyaf, ac yna bwyd, teithio a biliau, felly gallai fod yn ddefnyddiol creu taenlen neu ddogfen sy'n dangos yr arian sydd gennych yn dod i mewn a'ch costau sy'n mynd allan; bydd hyn yn caniatáu i chi wario o fewn eich cyllideb.
TOTUM - rydym yn gweithio gyda TOTUM i gynnig gostyngiadau myfyrwyr unigryw i chi. Gallwch gael mynediad at fwy na 400 o ostyngiadau ar-lein ac mewn siopau ar gyfer brandiau fel Apple, Samsung, ASOS ac Amazon gyda TOTUM. https://www.uwtsdunion.co.uk/venues-and-shop/student-discount
Cerdyn Adnabyddiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol (ISIC) - rydym yn falch o weithio gyda'r Cerdyn Adnabyddiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol i roi mynediad i chi at ostyngiadau ac i wirio'ch statws myfyriwr ledled y byd.
Y cerdyn ISIC yw'r unig gerdyn adnabyddiaeth myfyrwyr a dderbynnir yn rhyngwladol. Fel myfyriwr yn PCyDDS, gallwch chi brynu cerdyn ISIC i gadarnhau eich statws myfyriwr a chael mynediad at ostyngiadau mewn dros gant o wledydd, o deithio i dechnoleg, llety a bwyd, i ddiwylliant a siopa. https://www.uwtsdunion.co.uk/venues-and-shop/isic
Efallai eich bod chi'n teimlo ychydig yn hiraethus am adref - mae hynny'n hollol arferol. Gallai fod yn braf creu neu ddod o hyd i rwydwaith cymorth neu gymuned o bobl rydych chi'n rhannu'r un diddordebau, profiadau neu hobïau â nhw, fel y gallwch chi gysylltu a helpu i greu cartref oddi cartref.