Wythnos Sgiliau Llundain - Tachwedd 2025

Dydd Mercher 15-10-2025 - 13:01

Mae Wythnos Sgiliau Llundain yn ôl gyda rhestr newydd sbon o weithdai a hyfforddiant, i gyd yn canolbwyntio ar eich helpu i baratoi ar gyfer gyrfa.

Ond pwy well i ddweud wrthych chi am ein Wythnos Sgiliau nag Inna - ein Cydlynydd Cyfleoedd Myfyrwyr sy'n rhedeg yr wythnos - felly bant â thi Inna!

Pam Dylai Myfyrwyr Gyfranogi?

"Mae Wythnos Sgiliau yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n mynd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae'n eich helpu i feithrin hyder, cwrdd â phobl newydd, a chael eich ysbrydoli am eich gyrfa yn y dyfodol. Gallwch ennill profiad ymarferol, dysgu gan siaradwyr gwadd a staff, a meithrin sgiliau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth wneud cais am swyddi neu interniaethau. Mae hefyd yn hwyl ac yn seibiant o’ch astudiaethau o ddydd i ddydd."

Sut Gall Myfyrwyr Gyfranogi?

“Mae'n hawdd! Gallwch gofrestru drwy’r dudalen Wythnos Sgiliau ar ein gwefan, ymuno â sesiynau galw-heibio, neu ymweld â'n stondinau hyrwyddo ar y campws y tu allan i'n swyddfa borffor."

Beth Gall Myfyrwyr ei Ddisgwyl ac Edrych Ymlaen Ato?

"Gweithdai rhyngweithiol, wynebau cyfeillgar, ac ambell esboniad defnyddiol. Byddwch chi'n gadael gyda sgiliau newydd, cysylltiadau newydd, ac efallai hyd yn oed syniadau newydd am eich llwybr yn y dyfodol. Rydym wedi cynnal sawl sesiwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, pob un yn canolbwyntio ar helpu myfyrwyr i dyfu'n bersonol ac yn broffesiynol. Rydym yn ceisio trefnu o leiaf un sesiwn bob dydd i gadw'r wythnos yn ddiddorol. Rwy'n deall y gall bywyd fod yn brysur, felly rydym hefyd yn cynnig sesiynau ar-lein - sy'n golygu na fydd angen i chi deithio i'r campws bob dydd."

Rhestr Digwyddiadau Wythnos Sgiliau

Cynllunio Gyrfa
Nos Lun 10fed Tachwedd • 18:00 - 19:00

Sesiynau 1-i-1 Adeiladu Eich CV
Dydd Mawrth 11eg Tachwedd • 10:00 - 16:30

Deallusrwydd Emosiynol
Nos Fawrth 11eg Tachwedd • 18:00 - 19:00

Hanfodion Cyfweliad am Swydd
Dydd Mercher 12fed Tachwedd • 13:00 - 14:00

Pwysigrwydd Rhwydweithio
Dydd Iau 13eg Tachwedd • 13:00 - 14:00

Lluniau Pen Proffesiynol ar gyfer LinkedIn
Dydd Gwener 14eg Tachwedd • 11:30 - 14:00

Hanfodion LinkedIn i Fyfyrwyr
Nos Wener 14eg Tachwedd • 18:00 - 19:00

Siarad Cyhoeddus: Datgloi Hyder
Dydd Sadwrn 15fed Tachwedd • 11:00 - 12:00

Rhestr Digwyddiadau Wythnos Sgiliau

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...