Blwyddyn Newydd Dda i chi oddi wrthym ni, tîm Undeb y Myfyrwyr. Rydyn ni’n dechrau 2026 yn gryf gyda llawer i chi gymryd rhan ynddo.
Ond cyn hynny, ydych chi’n fodlon ein helpu ni i dyfu ein cymuned myfyrwyr ar Instagram yn 2026 trwy ein dilyn ni?

Mae ein tîm cynghori’n mynd ar daith ar draws Cymru gan stopio yng Nghaerdydd, Caerfyrddin ac Abertawe. Bydd aelodau’r tîm yno i sgwrsio am ein gwasanaeth cynghori am ddim ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw rhwng 11:00 a 14:30 yn y lleoliadau canlynol:
Cyfle i wella'ch sgiliau gyda’r Wythnos Sgiliau yng NghaerdyddAr gyfartaledd, roedd yna 140 o ymgeiswyr am bob swydd ar gyfer graddedigion yn 2024 (ystadegau Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr). Rydyn ni'n mynd i'ch helpu chi i sefyll allan o'r dorf trwy gynnig hyfforddiant am ddim fel rhan o’r Wythnos Sgiliau.
Cynhelir 21 sesiwn ar-lein ac ar y campws rhwng y 5ed a’r 10fed o Ionawr.
Gallwch weld rhestr ddigwyddiadau’r Wythnos Sgiliau ac ymuno â ni.
Pan fydd bywyd yn rhoi lemonau i chi ... gwnewch lemonêdYmunwch â Gwyneira, Llywydd Birmingham a Llundain, yn ei stondin lemonêd i siarad am fywyd myfyrwyr - gan rannu eich profiadau’n onest.
Bydd y stondin ar agor yn Birmingham ar y 14eg a'r 15fed o Ionawr rhwng 10:00 - 12:45 a 15:00 - 17:00. Yna mae'n mynd i Lundain ar y 12fed a'r 13eg o Chwefror ac mae ar agor 10:00 - 12:00 a 14:00 - 16:30.
Ymunwch â'r hwyl gyda LLWYTH o Ddigwyddiadau Bar AM DDIMNosweithiau Cerddoriaeth Fyw, Gwisgo i Fyny ar Thema Disney, Sesiynau Crefftau, Cystadlaethau Pŵl, Nosweithiau Cwis - mae yna ddigonedd i chi gymryd rhan ynddo yn ein bar a chlwb myfyrwyr yng Nghaerfyrddin - gallwch weld y rhestr ar ein gwefan - a dyma'r rhai rydyn ni'n edrych ymlaen atynt:
Dewch yn Llywydd MyfyrwyrAllwn ni ddim credu ein bod ni’n dweud hyn yn barod, ond byddwn ni'n gofyn i fyfyrwyr gynnig eu hunain fel Llywyddion a Swyddogion ar gyfer 2026/27 yn fuan iawn.
Byddwn ni’n agor enwebiadau ym mis Chwefror, ond fyddwch chi ddim yn dechrau tan yr haf. Bydd mwy o fanylion yn cael eu rhannu'n fuan - gwiriwch eich mewnflwch am ein e-bost ynghylch Etholiadau Myfyrwyr.
Ychydig o Docynnau ar Ôl: Pantomeim Robin Hood yn Hippodrome BirminghamDim ond ychydig o docynnau sydd gennym ar ôl ar gyfer ein taith i Bantomeim Robin Hood yn Hippodrome Birmingham nos Fercher, 21ain Ionawr am 19:00.
Archebwch eich tocyn gyda ni, a chewch ostyngiad sylweddol (£12 y tocyn yn lle £20)
Prynwch eich tocyn trwy ein gwefan.