Camu Ymlaen Gyda'n Gilydd Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol - OCD  

Dydd Mawrth 15-03-2022 - 09:00

Gan: Lauren Thomas 

Swyddog Myfyrwyr sy’n Rhieni/Gofalwyr Campws Caerfyrddin 

Hyrwyddwr Campws Caerfyrddin  

Cynrychiolydd Cwrs  

 

Helo – Lauren ydw i, mam i 2, myfyrwraig trydedd flwyddyn, cynrychiolydd cwrs, cynrychiolydd llais myfyrwyr, swyddog rhan-amser ar ran myfyrwyr sy'n rhieni a gofalwyr, llysgennad myfyrwyr a hyrwyddwr campws! Rwyf wedi dechrau drwy restru fy rolau yn y Brifysgol oherwydd fel y gwelwch yn fuan, mae cysylltiad cryf rhwng hyn â fy OCD. Byddwch hefyd yn sylwi fy mod yn cyfeirio ato fel “fy OCD” ac mae hyn oherwydd ei fod yn effeithio ar bobl yn wahanol. Mae'n bersonol ac yn unigol.  

Rwyf bob amser wedi bod â thueddiadau OCD. Dydw i ddim yn hoffi odrifau, mae angen i bethau fod mewn trefn maint, os yw mat ychydig yn gam, mae angen i mi ei sythu neu rwy'n mynd yn rhwystredig. Wna i ddim eu rhestru nhw i gyd, ond fe allwch weld y syniad! Ym mis Ionawr 2014, pan oedd fy merch yn 2 oed, dechreuais fynd yn hynod bryderus wrth feddwl am fynd â hi i unrhyw le. Roeddwn i'n ofni y byddai rhywbeth drwg yn digwydd iddi. Yna, fe waethygodd y sefyllfa nes fy mod i’n ofni amdani yn y tŷ. Beth os bydd rhywun yn torri i mewn ac yn ei brifo? Beth os bydd hi'n cwympo ac yn taro ei phen ar gornel y bwrdd? Daeth y meddyliau a'r teimladau “beth os” yn anodd iawn i'w rheoli. Felly, dechreuais geisio delio â nhw yn fy ffordd fy hun. Fy arferiad gwaethaf oedd tapio fy nhalcen gyda fy mys canol. Pe bawn i'n meddwl am rywbeth drwg, a oedd bron drwy'r amser, byddwn yn eistedd yno ac yn tapio fy mhen oherwydd roeddwn i'n credu y byddai'n atal y pethau drwg rhag digwydd. Byddwn hefyd yn glanhau’n obsesiynol. Nid oherwydd ofn germau, ond oherwydd mai dyna'r unig beth roeddwn i'n teimlo bod gen i reolaeth drosto. 

Roeddwn i'n cael tua 2 awr o gwsg y noson oherwydd roeddwn i'n datgloi ac yn ail-gloi'r drysau dro ar ôl tro, yn gwirio'r ffenestri, yn gwneud yn siŵr bod plygiau wedi'u diffodd, ac yn cadw golwg ar fy merch yn obsesiynol. Byddai'r ychydig iawn o gwsg roeddwn i’n ei gael yn ei gwely hi, oherwydd roeddwn i'n teimlo'n fwy diogel gyda hi. Dim ond pan gefais fy hun yn cannu nenfwd fy nghegin oherwydd nad oedd gen i ddim byd arall i'w lanhau y sylweddolais fod angen cymorth arnaf. Roeddwn wedi canslo cynlluniau gyda ffrindiau ers wythnosau ac roedden nhw wedi sôn am hynny rai gweithiau, ond byddwn bob tro’n rhoi rhyw esgus neu’i gilydd. Erbyn hyn roedd hi'n Ebrill. 

Ffoniais fy meddygfa a gwneud apwyntiad. Fe wnaethon nhw fy ngweld yn gyflym iawn a threfnu atgyfeiriad brys i'r tîm iechyd meddwl. Symudodd pethau’n gyflym iawn, a chefais fy ngweld gan broffesiynwr iechyd meddwl o fewn yr wythnos. Ar ôl ateb rhestr hir o gwestiynau, fe wnaethon nhw ddiagnosis o OCD a gorbryder yn fy achos i. Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach cefais fy apwyntiad cyntaf ar gyfer therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) a dyma ble dechreuodd popeth wneud synnwyr. Roedd fy therapydd yn anhygoel, a gwrandawodd ar fy meddyliau a theimladau, wrth fy helpu i wneud synnwyr ohonynt. Gan fod fy OCD yn canolbwyntio ar fy merch, esboniodd nad oes gennym ni unrhyw reolaeth dros bethau sy'n digwydd i ni neu bobl eraill yn aml. Felly, roedd fy ofnau am fy merch wedyn yn cael ei daflunio i bethau y gallwn i eu rheoli. Roeddwn yn aml yn tapio fy mhen yn y sesiynau hynny, a byddai’n gofyn i mi “sut mae hynny’n helpu? A fydd tapio'ch pen yn atal pethau drwg rhag digwydd?" a phan feddyliais o ddifrif am y peth - roeddwn yn gwybod mai'r ateb oedd na.  

Dysgodd hi i mi sut i dynnu fy sylw fy hun oddi wrth y meddyliau drwg, ac yn araf ond yn sicr, roeddwn i'n gallu gweld a theimlo fy hun yn gwella. Nid oedd angen i mi lanhau mor obsesiynol bellach, cadwais at gynlluniau gyda ffrindiau, a llwyddais i roi’r gorau i dapio fy mhen. Roedd hyn mor anhygoel i mi! Am deimlad anhygoel i ollwng yr holl ofn a straen roeddwn i wedi bod yn ei deimlo ers cyhyd.  

Ym mis Mawrth 2015, ychydig cyn pen-blwydd fy merch yn 4 oed, aeth yn sâl. Cafodd ei rhuthro i ysbyty plant Arch Noa yng Nghaerdydd i gael llawdriniaeth frys i achub ei bywyd. Yn sydyn, roeddwn i'n wynebu'r union beth roeddwn i wedi'i ofni ychydig flynyddoedd yn ôl. Roeddwn i’n tapio fy mhen yn fwy nag erioed o’r blaen, wnes i ddim bwyta am dros wythnos tra roedd hi’n gwella yn yr ysbyty, a phan gawson ni fynd â hi adref dechreuodd y glanhau obsesiynol eto, oherwydd doeddwn i ddim eisiau mentro iddi ddal dim byd. 8 wythnos yn ddiweddarach, aeth yn sâl eto, a chawsom ein rhuthro yn ôl i Gaerdydd am fwy o lawdriniaeth. Fodd bynnag, y tro hwn penderfynais na fyddwn yn caniatáu i'r cyflwr OCD effeithio arnaf fel y gwnaeth o'r blaen. Roedd angen i mi fod yn gryf iddi. Fe wnes i ei reoli gymaint yn well y tro hwn. Trodd tapio fy mhen yn rhwbio, oherwydd i unrhyw berson arall roedd yn edrych fel bod gen i gosi. Ond doeddwn i ond yn caniatáu fy hun i rwbio fy mhen dwywaith. Roeddwn i'n adennill fy rheolaeth.  

Diolch byth, cafodd wellhad buan! 7 mlynedd yn ddiweddarach, a dim ond pan fydd rhywbeth yn fy sbarduno y byddaf yn cael yr hyn a alwaf yn “episod” ond dim ond fy enw i ar gyfer fy nghyflwr fy hun yw hynny, nid un bobl eraill. Dwi'n dal i rwbio fy mhen, dim ond dwywaith ar y tro, a dwi angen pethau yn nhrefn maint ac yn casau odrifau o hyd! Ond mae'r rhain yn bethau rwy’n gallu eu rheoli, a dyna sy'n fy ngwneud i yn fi! Os caf ddiwrnod gwael byddaf naill ai'n rhoi trefn ar rywbeth (cypyrddau'r gegin fel arfer) neu byddaf yn glanhau popeth gyda channydd. Ond mae'r dyddiau hynny'n brin nawr. Mae gweld pa mor bell rydw i wedi dod yn gwneud i mi deimlo'n hynod falch. Mae'r rhai sy'n fy ngharu i'n fy nerbyn i am bwy ydw i, gan gynnwys yr OCD. Mae wedi bod yn anodd byw gyda’r cyflwr ar adegau, ond rydw i'n byw gyda fe!  

Y ffordd orau i mi reoli fy OCD yw trwy gadw’n brysur! Sy’n esbonio’r holl y rolau yn y Brifysgol! Fe wnes i gais i fynd yn ôl i'r brifysgol yn 30 oed a oedd yn gam enfawr i mi, a doeddwn i ddim yn siŵr a fyddwn i'n gallu ymdopi. Dyma’r penderfyniad gorau y gwnes i erioed. Rwyf wrth fy modd gyda fy nghwrs, fy rolau a fy swydd. Mae’n heriol ceisio cydbwyso popeth ar adegau, a dwi wastad wedi blino! Ond rwy’n hapus ac yn fodlon ac mor ddiolchgar am bopeth y mae PCyDDS wedi’i roi i mi.  

Y peth anoddaf i mi nawr yw wynebu pobl sydd ddim yn deall OCD. Mae yna farn ystrydebol iawn ynghylch OCD, ac mae wir yn llawer mwy cymhleth nag y mae pobl yn ei sylweddoli. Os byddaf yn cael episod, cefnogaeth yw'r hyn sydd ei angen. Nid pobl sy'n ymddwyn fel ei fod yn niwsans neu'n anghyfleustra iddyn nhw. Gallaf ddweud wrthych nawr - mae'n llawer mwy o anghyfleustra i mi nag i unrhyw un arall! Dyna pam ei bod yn bwysig i bobl gael eu haddysgu am iechyd meddwl i'w ddeall yn llawn. Efallai wedyn, ni fydd pobl bellach yn teimlo'r angen i ddioddef yn dawel fel y gwnes i ar ddechrau fy nhaith.  

Diolch am ddarllen hwn!  

Lauren x 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...