Yn ôl Student Minds, nid yw un o bob pedwar myfyriwr yn gwybod sut i gael mynediad at gymorth llesiant - a ydych chi'n un ohonyn nhw? Rydym am newid hyn er gwell a sicrhau bod myfyrwyr PCyDDS yn gwybod popeth am y cymorth sydd ar gael iddynt. Dyna pam rydym yn lansio ymgyrch codi ymwybyddiaeth newydd sbon.
Mae Natalie, Llywydd Campws Abertawe, wedi bod yn gweithio gyda’r brifysgol i sicrhau bod y gwasanaeth llesiant mor hygyrch â phosibl. Rhan o hyn yw codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth llesiant.
I wneud hyn, mae Natalie a’r gwasanaeth llesiant wedi lansio ymgyrch newydd yn seiliedig ar sticeri. Mae pum sticer, pob un â neges wahanol, ond mae pob un yn cysylltu myfyrwyr â chymorth llesiant. Bydd timau’r Undeb a’r Brifysgol yn eu gosod o amgylch y campws – dyma sydd gan Natalie i’w ddweud:
"Mae mis Mai yn Fis Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac fel rhan o fy maniffesto ar gyfer 2023/2024, fe wnes i addo gwneud cymorth llesiant yn fwy hygyrch. Heddiw, rwy’n lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth, a rhan o hyn yw cyfres o sticeri newydd sbon, lle gall myfyrwyr ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnynt trwy ddim ond sganio’r côd QR.
Pan oeddwn yn fyfyriwr, roedd yna adegau pan oeddwn i’n cael anawsterau gyda fy iechyd meddwl - ond roeddwn yn ddigon ffodus i gael y gefnogaeth gywir gan y tîm llesiant anhygoel.
Roeddwn i eisiau sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod popeth am y cymorth llesiant sydd ar gael, felly lansiais "Sgwrs gyda Nat" - digwyddiad cymdeithasol sy’n gyfle misol i ddal i fyny rhwng myfyrwyr a minnau.
Yn dilyn hyn, rwy'n gweithio gyda'r gwasanaeth llesiant ac adrannau eraill y brifysgol i lansio cyfres o "sticeri llesiant" i helpu myfyrwyr i gael mynediad at gymorth - mae'r sticeri'n cynnwys cod QR a dolen at gymorth.
Yn ôl Student Minds, ni fyddai 1 o bob 4 myfyriwr a gymerodd ran yn yr arolwg yn gwybod ble i fynd i gael cymorth iechyd meddwl yn y brifysgol pe bai angen hynny arnynt (www.studentminds.org.uk/uploads/3/7/8/4/3784584/student_minds_insight_briefing_feb23.pdf).
Yma yn PCyDDS, rydym yn ddigon ffodus i fod â gwahanol staff cymorth iechyd meddwl, gan gynnwys cwnselwyr – nod y sticeri hyn yw helpu myfyrwyr i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, a hynny gynted â phosibl. Mae gan y brifysgol hefyd offer hunangymorth, ynghyd â gwybodaeth ddefnyddiol, ac mae'n darparu mynediad at gefnogaeth 24/7 trwy'r rhaglen cymorth i fyfyrwyr."
- Natalie Beard, Llywydd Campws Abertawe
Fel Undeb Myfyrwyr, rydym hefyd yn darparu gwasanaethau annibynnol y mae gan ein haelodau fynediad iddynt:
Gall ein Gwasanaeth Cynghori, sy’n annibynnol, yn gyfrinachol ac am ddim, eich helpu gyda phrosesau'r Brifysgol a’ch cyfeirio at wasanaethau. Gallwch ddarganfod mwy am sut y gallant eich helpu trwy glicio yma.
Mae’r Tîm Cyfleoedd Myfyrwyr yn helpu i drefnu digwyddiadau a chymdeithasau sy’n wych ar gyfer cyfarfod â phobl newydd, ymuno â thîm chwaraeon neu gymdeithas, gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned, a dysgu sgiliau newydd. Cliciwch yma i weld pa gyfleoedd sydd ar gael i chi.
Mae ein Tîm Llais yn gweithio gyda rhwydwaith o gynrychiolwyr myfyrwyr i wneud yn siŵr bod meddyliau a syniadau myfyrwyr yn cael eu clywed gan y brifysgol. Gallwch ddarganfod mwy am y gwaith maen nhw’n ei wneud trwy glicio yma.