Cefnogwch yr UppaSaints!

Dydd Mawrth 04-11-2025 - 09:35
Bucs wednesday 2025

Mae Pêl-droed, Pêl-rwyd a Rygbi PCyDDS am fod y gorau. Maen nhw'n cystadlu o dan faner UppaSaints yn erbyn timau ledled y DU yng nghynghrair BUCS i ennill eu gemau a dod â'r tlws adref.

Ddydd Mercher 5ed Tachwedd bydd y tri thîm yn cystadlu yng Nghaerfyrddin - ac rydym yn eich annog i ddangos balchder yn eich prifysgol a chefnogi ein timau.

Gadewch i ni beintio'r dref yn las! Dangoswch eich cefnogaeth - byddwn yn dosbarthu baneri a bysedd ewyn am ddim - a bydd gwobr am yr arwydd UppaSaints gorau.

Rhestr Gemau dydd Mercher 5ed Tachwedd

  • Pêl-droed (PCyDDS V. Dynion Bryste 5)
    12:00 ar faes Clwb Pêl-droed Caerfyrddin, Heol y Prior, Caerfyrddin SA31 1LR
  • Pêl-rwyd (PCyDDS V. Menywod Bryste 6)
    13:00 yng Nghanolfan Chwaraeon Caerfyrddin, Campws Caerfyrddin PCyDDS, SA31 3EP
  • Rygbi (PCyDDS V. Dynion Hartpury 6)
    14:30 ar faes Clwb Rygbi Athletic Caerfyrddin, Heol Allt-y-cnap, Tre Ioan, Caerfyrddin SA31 3QY

Gallwch weld rhestr lawn y gemau ar gyfer gweddill y flwyddyn ar ein tudalen we uppasaints.

Ôl-barti a Pizza

Beth bynnag fo'r canlyniad, mae croeso i bawb ddod i Far y Llofft, sy'n agor yn gynharach o 16:30 ymlaen ar gyfer dathliadau neu i foddi ein gofidiau. Yna am 20:00 byddwn yn gweini pizza yn ein Noson Pizza Domino's - gwnewch yn siŵr eich bod chi'n bachu tocyn - dim ond £4 ydyn nhw

Categorïau:

Campaigns & Projects

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...