Wyddech chi fod gan 1 o bob 4 oedolyn o oedran gweithio yn y DU anabledd? Mae anableddau yn eang, ac mae profiad pob person yn wahanol. Fel Undeb Myfyrwyr, credwn y dylai pawb gael mynediad i addysg yn rhydd o unrhyw rwystrau gyda'r cymorth sydd ei angen arnynt. Ar gyfer Mis Hanes Anabledd eleni, sy’n rhedeg o 14eg Tachwedd tan 20fed Rhagfyr 2024, mae Maria Dinu – Llywydd y Grŵp – wedi gweithio gyda’r brifysgol i greu blog sy’n eich tywys trwy’r Lwfans Myfyrwyr Anabl, sef un o’r ffyrdd y gall myfyrwyr ag anableddau gael cymorth yn PCyDDS . Mae'r blog hwn yn esbonio beth ydyw, sut i wneud cais amdano, ac yn rhoi trosolwg o'r broses.
Mae 77% o fyfyrwyr sy'n datgelu anabledd yn derbyn gradd 'anrhydedd dda' (h.y. 1 / 2:1) o gymharu â 72% o'r rhai nad ydynt yn datgelu anabledd sy'n derbyn gradd 'anrhydedd dda' (h.y. 1 / 2:1). Mae hynny'n gynnydd o 5 y cant ar gyfer myfyrwyr anabl y llynedd.
Am beth y gall dalu?
Nid yw DSA yn talu costau cysylltiedig ag anabledd a fyddai gennych pe na baech yn mynychu cwrs, neu gostau y gallai fod gan unrhyw fyfyriwr.
Gofynnir i fyfyrwyr fynychu asesiad o anghenion; bydd hyn naill ai'n wyneb-yn-wyneb neu mewn canolfan asesu. Bydd yr asesiad hwn yn drafodaeth rhwng yr aseswr a’r myfyriwr i benderfynu pa gymorth y gallai’r myfyriwr fod ei angen. Bydd yr aseswr yn cynhyrchu adroddiad; rhennir hwn gyda'r myfyriwr, y brifysgol a Chyllid Myfyrwyr, a fydd yn penderfynu a fydd yr argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu gwireddu. Unwaith y bydd Cyllid Myfyrwyr wedi gwneud eu penderfyniad, bydd yn hysbysu'r myfyriwr trwy lythyr/e-bost DSA2, yn cadarnhau'r hyn y bydd y myfyriwr yn ei dderbyn.
Anfonwch e-bost at disability@uwtsd.ac.uk a gallant wneud trefniant ar gyfer:
Unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod i ni, byddwn yn eich cysylltu â Chynghorydd Anabledd. Mae'r Cynghorydd Anabledd yn gweithio ochr-yn-ochr â'r myfyriwr i gasglu tystiolaeth o gymhwysedd, a bydd yn ei chyflwyno ar ei ran os yw'n gwneud cais am DSA.
Cyn Cyrraedd - Edrych ar y rhestr ymgeiswyr a chysylltu â phob ymgeisydd a'u hannog i lenwi Ffurflen Ymholiad Anghenion Cymorth (SNEF).
Ar ddiwrnodau pan fydd ymgeiswyr yn ymweld â’r safle, mae cyfle i siarad â'r tîm a llenwi ffurflen SNEF. (Ffurflen Ymholiad Anghenion Cefnogaeth). Mae’r ffurflen hon yn fan cychwyn ar gyfer trafodaethau ynghylch Addasiadau Rhesymol yn ystod cyfnod myfyrwyr yn PCyDDS.
Gall myfyrwyr wneud cais am Lwfans Myfyriwr Anabl (DSA) ochr-yn-ochr â chais am gyllid myfyrwyr, ond mae llawer yn gwneud cais yn ystod eu hamser yn PCyDDS a gall y tîm o Gynghorwyr Anabledd gynghori a helpu myfyrwyr gyda’u ceisiadau.
Mae proses sgrinio’n cael ei chynnig i bob myfyriwr yn ystod eu hwythnosau cyntaf yn y Brifysgol. Ceir mynediad i'r broses sgrinio trwy gôd QR sy’n cael ei rannu yn ystod wythnosau cyntaf myfyrwyr yn y brifysgol. Mae'r broses sgrinio yn holiadur sy'n cynnwys cwestiynau amlddewis.
Bydd hyn yn helpu i ganfod yr angen am gymorth ac yn dwyn sylw at ddangosyddion posibl Gwahaniaethau Dysgu Penodol fel dyslecsia, dyspracsia a.y.b.
Gellir trefnu cymorth dros-dro, oherwydd gall y broses o dderbyn DSA fod yn eithaf hir. Bydd myfyriwr yn cael cadarnhad a yw ei gais am DSA yn llwyddiannus o fewn 6 wythnos. Gall gymryd hyd at 14 wythnos i roi cymorth DSA ar waith, sy’n cael ei wneud ar wahân.
Mae'r brifysgol hefyd yn rhedeg y grŵp Cyfathrebu Cymdeithasol (SoCom) sy'n helpu i ddatblygu sgiliau unigol.
Rydym yn darparu cymorth wedi'i deilwra i fyfyrwyr trwy addasiadau rhesymol. Mae hyn yn sicrhau nad yw myfyrwyr dan anfantais wrth gael mynediad i'w dysgu neu berfformio mewn asesiadau/arholiadau. Caiff addasiadau rhesymol eu hamlinellu mewn Datganiad o Fesurau Cydadferol a rennir gyda staff academaidd a staff cymorth priodol. Gall ein cymorth hefyd gynnwys mynediad at sgrinio a diagnostig ar gyfer Anawsterau Dysgu Penodol megis dyslecsia.
Gallech gael cymorth gan Diwtoriaid Sgiliau Astudio Arbenigol neu Fentoriaid Arbenigol, felly trafodwch eich anghenion pan fyddwch yn cyfarfod â'r timau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: www.uwtsd.ac.uk/experience-facilities/student-support-wellbeing/disability-support
Cwblhewch Ffurflen Ymholiad Anghenion Cefnogaeth (SNEF). Cysylltwch â’n tîm Cymorth Anabledd trwy e-bostio: disabilty@uwtsd.ac.uk
Bydd y tîm yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth sy'n cadarnhau'r diagnosis, yr effaith a hyd y cyflwr. Yn unol â'r Ddeddf Cydraddoldeb, diffinnir Anabledd fel nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith negyddol 'sylweddol' a 'hirdymor' ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Mae 'hirdymor' yn golygu bod y cyflwr wedi para neu'n debygol o bara 12 mis neu fwy. Gall proffesiynwyr meddygol cymwys ddarparu tystiolaeth, e.e. Meddyg Teulu, Ymgynghorydd, Nyrs Arbenigol. Os ydych chi wedi cael diagnosis am Anhawster Dysgu Penodol, e.e. dyslecsia, anfonwch gopi o'ch adroddiad diagnostig atom. Os ydych yn amau bod gennych ddyslecsia neu y bu gennych drefniadau mynediad yn yr ysgol neu'r coleg, siaradwch â'r tîm fel y gallwn ystyried sgrinio a phrofion pellach.
Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl yn allanol i'r brifysgol, ac mae’n cael ei weinyddu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Mae'n gymorth ychwanegol y gall myfyrwyr ei gyrchu i’w cynorthwyo â’u hastudiaethau. Gallai'r cymorth gynnwys gliniadur gyda thechnoleg gynorthwyol (AT), hyfforddiant ar gyfer technoleg gynorthwyol, cymorth gyda chostau teithio a chymorth un-i-un gan diwtoriaid neu fentoriaid arbenigol.
Gellir gwneud cais ar-lein neu ar bapur, a gall Cynghorydd Anabledd gynnig cymorth i chi gyda hyn. Mae'r broses yn hirfaith a gall gymryd hyd at 13 wythnos o gyflwyno cais. Ar ôl i'r cais gael ei gymeradwyo ac ar ôl derbyn llythyr DSA1, (yn cadarnhau cymhwysedd) bydd angen i chi drefnu eich Asesiad Anghenion DSA (ar-lein neu wyneb-yn-wyneb). Bydd yr asesydd anghenion yn trafod y cymorth a allai eich helpu gyda'ch astudiaethau a bydd yn anfon Adroddiad Asesiad Anghenion at y tîm DSA. Ar ôl derbyn yr adroddiad, bydd y tîm DSA yn anfon llythyr DSA2 atoch sy'n nodi'r hyn a ddarparwyd ar eich cyfer. Bryd hynny, gall Cynghorydd Anabledd eich helpu i gysylltu â chyflenwyr y DSA am eich gliniadur, hyfforddiant neu gymorth un-i-un.
Trwy'r Datganiad o Fesurau Cydadferol
Siaradwch â'ch Cynghorydd Anabledd neu Reolwr Cymorth Dysgu, a fydd yn cysylltu â’r timau Llety neu Gyfleusterau fel y bo'n briodol.
Mae gan bob myfyriwr fynediad at drwydded Microsoft 365 sy’n cynnwys technoleg gynorthwyol. Mae gan gyfrifiaduron sy'n wynebu myfyrwyr feddalwedd Claro. Holwch wrth y ddesg TG ar eich campws neu cysylltwch â'r tîm TG.
Gallwch ofyn am gyfarfod gyda Rheolwr eich Rhaglen i drafod eich anghenion neu siarad â Chynghorydd Anabledd os oes angen cymorth arnoch gyda hyn.
Siaradwch â Chynghorydd Anabledd yn y lle cyntaf, a fydd yn cysylltu ag aelodau staff eraill fel y bo'n briodol. Gall yr UM fod o gymorth hefyd.
Mae gan y Brifysgol Wasanaeth Llesiant penodol gydag offer hunangymorth a chyrsiau, yn ogystal â mynediad at Gynghorwyr a Chwnselwyr Llesiant.
Mae gennym ni grŵp Cymorth Cyfathrebu Cymdeithasol (SoCom). Mae SoCom yn cynnig syniadau a gweithgareddau sydd wedi'u hanelu at annog mwy o hunan-barch, ynghyd â'r gallu i ddeall ac ymdopi â materion sy'n ymwneud ag anawsterau cymdeithasol a chyfathrebu, gyda'r potensial i ddatblygu grŵp ffrindiau newydd a rhwydwaith cymorth. Mae cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd yn ddewisol.
Siaradwch ag Undeb y Myfyrwyr am drefnu grŵp!