Mae'r tîm Cynghori yn mynd ar daith o amgylch ein Campysau yng Nghymru ac yn dod i Gampws yn agos atoch chi!
Dewch i gwrdd â nhw yn eu stondinau dros-dro yng Nghaerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd, pan fyddan nhw yno i sgwrsio, gofyn cwestiynau a rhannu rhai danteithion gyda chi ar hyd y ffordd.
Mae'r Tîm Cynghori yn gweithio'n gyson y tu ôl i'r llenni gyda myfyrwyr, yn eu cynorthwyo trwy gydol eu hamser yn y brifysgol gydag ystod eang o bynciau, o gamymddwyn academaidd i amgylchiadau esgusodol i gasglu adnoddau ar gyfer materion y tu hwnt i brofiadau prifysgol o ddydd i ddydd.
A dyma ffordd arall o wneud hynny; maen nhw’n mynd allan ac yn lledaenu'r gair am yr hyn maen nhw'n ei wneud a sut y gallan nhw helpu trwy gydol eich astudiaethau.
Edrychwch ar y Wefan Gynghori am ragor o wybodaeth am y Tîm Cynghori a'u gwasanaethau: