Cyfle yw'r Bleidlais Fawr i fyfyrwyr presennol benderfynu pwy fydd yn llenwi rolau arwain gwag yn Undeb y Myfyrwyr.
Yn ystod ail semester pob blwyddyn academaidd, gall pob myfyriwr PCYDDS enwebu eu hunain i sefyll etholiad yr ymddiriedolwyr, y swyddogion rhan amser, Cadeirydd Cyngor yr Undeb neu'r swyddogion etholedig llawn amser, sef y Llywyddion Campws (Caerfyrddin, Llambed, Abertawe) a Llywydd y Grŵp.
Bydd y rolau'n dechrau'n swyddogol ar 1 Gorffennaf 2019 ar gyfer blwyddyn academaidd 2020.21.
I fod yn gymwys i sefyll etholiad unrhyw un o'r rolau hyn, rhaid i chi fod yn fyfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (neu’n swyddog sabothol etholedig yn UMYDDS ym mlwyddyn gyntaf y rôl) ddydd Ilun 2 Mawrth 2020.
Bydd cyfnod enwebu'r Bleidlais Fawr yn dechrau am 10 am ddydd Llun 16 Rhagfyr 2019 ac yn cau ddydd Llun 7 Mawrth 2020.
Mae enwebiadau ar gyfer y Bleidlais Fawr bellach ar agor; gall unrhyw fyfyriwr yn PCyDDS enwebu eu hunain yma.
Bydd y bleidlais yn agor ddydd Llun 16 Mawrth ac yn cau ddydd Iau 19 Mawrth am 4 pm.
Cyfeirir at y broses gynnig eich hun ar gyfer rôl fel hunan enwebu; bydd hyn yn para sawl wythnos, fel bod gan bob myfyriwr gyfle i ddysgu am yr hyn mae'r rôl yn ei olygu ac i fynychu gweithdai i ddatblygu eu maniffesto.
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n teimlo eich bod chi'n barod ar gyfer un o'r rolau hyn. Gallwch ddweud eich dweud o hyd drwy gyflwyno enw rhywun rydych chi’n meddwl fyddai’n gwneud cyfiawnder â’r swydd.
Os ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai yn eich barn chi’n wych ar gyfer y rôl, gallwch eu henwebu nhw drwy ein ffurflen Enwebu Eich Cyfaill, sy'n gwbl anhysbys. Mae'r ffurflen yn cymryd llai na munud i'w chwblhau, ac unwaith mae hyn wedi'i wneud, gallwn gysylltu â nhw i roi gwybod iddynt fod rhywun yn meddwl y bydden nhw’n gwneud gwaith gwych, a’u hannog i gynnig eu henw.
Gyda'n gilydd, mae tîm y swyddogion yn arwain Undeb y Myfyrwyr yn ddyddiol, gan ddarparu arweiniad i staff yr undeb a sicrhau bod gwaith y mudiad yn berthnasol i brofiad ein myfyrwyr. Mae'r Brifysgol yn ystyried ‘swogs’ yn brif gynrychiolwyr y myfyrwyr ac maen nhw'n darparu syniadau, materion a barn ar amrywiaeth o destunau drwy gyfranogi mewn gwaith prosiect, partneriaeth a phwyllgorau yn y Brifysgol.
Swogs sy'n gosod yr agenda o ran syniadau a gweithgareddau newydd i Undeb y Myfyrwyr roi cynnig arnynt ac maent yn gweithio'n galed i sicrhau bod pob myfyriwr yn ymwybodol o ddiben eu Hundeb a sut mae modd cysylltu ag ef.
Hefyd, mae swyddogion sabothol yn gweini'n awtomatig fel ymddiriedolwyr etholedig Undeb y Myfyrwyr, a dylai unrhyw ymgeisydd ddarllen adran yr ‘Ymddiriedolwyr’ isod, gan roi sylw penodol i'r rheolau cymhwysedd.
Mae Swyddogion Rhan-Amser yn fyfyrwyr cyfredol sy'n angerddol am eu rôl ac sy’n meddu ar syniadau a fydd, gobeithio, yn gwella bywyd y myfyrwyr y maent yn eu cynrychioli. Cyfeirir at y myfyrwyr hyn fel SRhA; byddant yn cynnal ymgyrchoedd, yn casglu adborth ac yn cynrychioli corff y myfyrwyr mewn amryw o wahanol ffyrdd. Mae gan bob SRhA gylch gorchwyl gwahanol, sy'n canolbwyntio ar faes penodol neu grŵp arbennig o fyfyrwyr.
Mae gan Gaerfyrddin, Llambed ac Abertawe eu Cyngor Campws eu hunain, ac mae pob un o'r swyddogion ar y campws hwnnw’n adrodd yn ôl iddo. Anfonir pob Syniad a Pholisi i Gyngor y Campws, lle caiff ei drafod ac yna naill ai ei basio neu ei wrthod. Mae pob Swyddog Rhan-Amser yn mynychu Cyngor y Campws ac yn siarad ar ran y grwpiau o fyfyrwyr y maent yn eu cynrychioli drwy eu rôl. Gall pob myfyriwr yn PCyDDS fynychu'r Cyngor, ond dim ond y rhai a etholir sy'n cael pleidleisio.
Mae gan swyddogion rhan-amser rôl hanfodol i'w chwarae o ran helpu'r Swyddogion Sabothol i gynrychioli buddiannau myfyrwyr yn effeithiol, yn ogystal â'u dal i gyfrif ac archwilio eu gwaith.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn elusen gofrestredig, ac fel Ymddiriedolwr byddwch chi'n aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac yn gyfrifol am sicrhau bod UMyDDS yn cael ei reoli a'i redeg yn gywir.
Mae gan Ymddiriedolwyr Elusen rôl bwysig dan y gyfraith; maent yn bersonol gyfrifol, o safbwynt cyfreithiol ac ariannol, am y ffordd mae’r elusen yn cael ei rhedeg. Nhw hefyd sy’n gyfrifol am benodi’r Prif Weithredwr a chraffu ar ei waith, yn ogystal â gosod cyfeiriad strategol cyffredinol yr elusen. Dylai unrhyw un sy'n ystyried enwebu eu hunain ar gyfer y rôl wirfoddol hon ddarllen canllaw’r Comisiwn Elusennau ‘the Essential Trustee’.
I fod yn gymwys ar gyfer rôl Ymddiriedolwr:
Rhaid i chi fod o leiaf 18 mlwydd oed i fod yn ymddiriedolwr Undeb y Myfyrwyr
Ni chewch weithredu fel ymddiriedolwr os ydych chi wedi cael eich gwahardd o dan y Ddeddf Elusennau
Mae hyn yn cynnwys os ydych chi:
Wedi cael eich gwahardd fel cyfarwyddwr cwmni
Bod gennych chi euogfarn heb ei disbyddu am drosedd sy'n ymwneud ag anonestrwydd neu dwyll
Yn fethdalwr heb ei ryddhau (neu'n wynebu difeddiannu yn yr Alban), neu os oes gennych chi drefniant gyda'ch credydwyr
Wedi cael eich gwahardd o fod yn ymddiriedolwr mewn unrhyw elusen gan y comisiwn (neu'r llys) oherwydd camymddwyn neu gamreoli
Dylech ymgeisio i fod yn Ymddiriedolwr os oes gennych chi ddiddordeb mewn sut mae mudiadau'n gwneud penderfyniadau, eich bod yn awyddus i sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithio er lles myfyrwyr PCyDDS ac eisiau helpu i lunio'r strategaeth a chyfeiriad y sefydliad yn y dyfodol.
Rhaid i bob un o'r 3 Chyngor Campws adrodd yn ôl i Gyngor Mawr yr UM i basio polisi ar gyfer Undeb y Myfyrwyr. Bob blwyddyn bydd Cadeirydd Cyngor yr UM yn rheoli'r cyfarfod i sicrhau bod cyfranogiad meddylgar, parch ymysg swyddogion wrth iddynt gynnal trafodaethau, a bod penderfyniadau effeithiol yn cael eu gwneud a'u gweithredu.
Bydd Cadeirydd Cyngor yr UM yn cadw trefn briodol yn y cyfarfod, yn sicrhau bod y cyfarfod yn cadw at yr agenda a’r amserlen, a bydd yn gyfrifol am sicrhau bod polisïau'r undeb yn cael eu dilyn drwy gydol y cyfarfod.
Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw sicrhau bod y ddadl yn gytbwys, yn hysbys ac yn deg.
Dylech ymgeisio i fod yn Gadeirydd Cyngor yr UM os ydych chi'n angerddol am y Syniadau a'r newidiadau mae myfyrwyr am eu gwneud i bob agwedd o Brofiad Myfyrwyr, a’ch bod yn awyddus i arwain y Cyngor yr UM wrth basio a gweithredu'r Syniadau hyn.
Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.