"Pan fydd bywyd yn rhoi lemons i chi, gwnewch lemonêd" neu mewn geiriau eraill, gwnewch rywbeth da o bob sefyllfa - dyna beth mae Gwyneira, eich Llywydd Birmingham a Llundain, yn ceisio'i wneud gydag Ymgyrch y Goeden Lemwn. Bant â thi Gwyneira!
"Helo, Llywydd campws Birmingham a Llundain sydd ‘ma, ac rwy'n teimlo’n gyffrous iawn i siarad â chi i gyd am eich taith gyda ni hyd yn hyn! Dewch i gymryd rhan yn fy stondin dros-dro rwy'n ei alw'n "Y stondin lemonêd". Mae'r digwyddiad dros-dro hwn yn gyfle i chi fel myfyrwyr ymuno â mi yn y stondin lemonêd i siarad â mi am eich profiad fel myfyriwr hyd yn hyn; ble hoffech chi i’ch profiad fynd yn y misoedd nesaf? Gallwch hefyd rannu unrhyw adborth am ddigwyddiadau yr hoffech eu gweld, adborth beirniadol ar eich taith academaidd, pryderon ac unrhyw gwestiynau ynghylch sut beth yw bod yn fyfyriwr yn gyffredinol.
Beth ydych chi’n ei wneud pan fydd bywyd yn rhoi lemons i chi? Gwnewch Lemonêd! Bachwch gerdyn lemwn melyn, ysgrifennwch eich meddyliau, rhowch ef yn y fasged lemwn, a chewch eich lemonêd am ddim!"Gwyneira Davies
Diben yr ymgyrch hon yw troi lleisiau myfyrwyr yn newid gwirioneddol, cadarnhaol. Mae cymuned ein prifysgol yn ffynnu pan fo adborth myfyrwyr yn cael ei glywed a bod camau’n cael eu cymryd i weithredu arno. Rydym yn eich gwahodd i rannu eich profiad a'ch adborth gonest, fel y gallwn ni ddeall beth sy'n wirioneddol bwysig i chi fel myfyriwr a'n helpu i droi hynny'n gamau cadarnhaol.
Rydym yn falch o gael ein harwain gan fyfyrwyr - sy'n golygu bod myfyrwyr yn helpu i lunio ein gwaith, boed hynny'n lobïo'r brifysgol, yn lobïo ASau, neu'n greu profiadau, grwpiau a gweithgareddau newydd y mae myfyrwyr eu heisiau mewn gwirionedd, i gyd â'r nod o wella bywyd ar y campws. Ac mae'r ymgyrch hon yn un ffordd y gallwn ni wneud hynny.