Mae Abertawe yn Ddinas Noddfa. Mae dwy brifysgol yng Nghymru yn Brifysgolion Noddfa. Rydym yn fyfyrwyr PCyDDS, a chredwn y dylai PCyDDS fod yn Brifysgol Noddfa hefyd.
Byddwch wedi clywed am y gefnogaeth ragorol y mae cymunedau ledled Cymru wedi’i dangos tuag at ffoaduriaid o’r Wcráin yn ddiweddar. Ond mae gan Gymru draddodiad balch o groesawu ffoaduriaid o bob cwr o’r byd sy’n mynd yn ôl yn llawer pellach. Er enghraifft:
• Efallai nad ydych yn meddwl amdanynt fel ffoaduriaid, ond roedd cyfran uchel o ymfudwyr o’r Iwerddon a gyrhaeddodd Gymru yn y 1840au yn ffoi rhag newyn.
• Daeth ffoaduriaid o gyfandir Ewrop i Gymru yn y degawdau ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf – llawer, ond nid pawb ohonynt, yn Iddewon.
• Er bod cymunedau Somali ac Yemen bywiog Caerdydd wedi dod i Gymru fel morwyr yn y lle cyntaf - yn hytrach na fel ffoaduriaid - roedd y ddwy gymuned mewn sefyllfa dda i groesawu ffoaduriaid o wrthdaro yn Somalia a'r byd Arabaidd yn y degawdau diweddarach.
Mae’r traddodiad hwn o groesawu ffoaduriaid yn cynnwys ein Prifysgol. Fel myfyrwyr PCyDDS, rydym yn hynod falch bod ein Prifysgol yn cynnig hyd at 4 ysgoloriaeth bob blwyddyn i geiswyr lloches a ffoaduriaid na allant gael mynediad at Gyllid Myfyrwyr. Mae'r ysgoloriaethau hyn yn ei gwneud hi'n bosibl i fyfyrwyr na fyddai fel arall yn cael y cyfle i fod yn rhan o gymuned ein prifysgol, a'u paratoi i integreiddio a chyfrannu at ble maen nhw'n byw.
Mae cymaint o gamddealltwriaeth ynghylch ceiswyr lloches yn y DU, ac rydym yn awyddus i'w herio. Er enghraifft:
• Nid yw ceiswyr lloches yn cael sicrwydd o lety mewn gwestai moethus, nac yn cymryd lle rhywun ar y rhestr ar gyfer tai cyngor. Mae ceiswyr lloches yn cael cynnig llety lle mae'n gyfleus i'r Swyddfa Gartref - nid ydynt yn cael dewis ble cânt eu hanfon - a gellir gofyn iddynt symud heb rybudd. Mae rhai hyd yn oed yn cael eu gosod mewn barics milwrol anaddas (gan gynnwys yn Sir Benfro).
• Nid yw ceiswyr lloches yn cael budd-daliadau llawn. Maent fel arfer yn derbyn llai na £6 y dydd tra bod eu cais yn cael ei brosesu – llawer llai na’r lefel isaf o fudd-dal diweithdra. Dychmygwch geisio talu am eich holl dreuliau dyddiol ar lai na'r hyn y mae'n ei gostio i brynu brechdan a choffi mewn caffi ar y stryd fawr.
• Ni all ceiswyr lloches benderfynu cael hyd i swydd i dalu eu ffordd. Ni allant weithio o gwbl am y 12 mis cyntaf tra'n aros i'w cais gael ei brosesu, a hyd yn oed wedyn dim ond mewn sectorau lle mae prinder penodol y gallant gael caniatâd i weithio.
Brynhawn Sadwrn diwethaf, ymwelodd grŵp ohonom â sesiwn galw heibio ar gyfer Cymorth i Geiswyr Lloches yn Abertawe. Fe wnaethom gyfarfod â threfnwyr, a ddywedodd wrthym am y rhwystrau y mae ceiswyr lloches yn eu hwynebu, a sut y gallwn eu cefnogi trwy wirfoddoli ac ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael dechrau ar y gwaith.
Hoffech chi ymuno â ni? Mae myfyrwyr PCyDDS yn cymryd rhan yn ein gweithgareddau ar gampysau Abertawe a Llambed, ond byddem wrth ein bodd yn clywed gan fyfyrwyr PCyDDS ble bynnag yr ydych yn astudio – Caerfyrddin, Caerdydd, neu ar ein campysau yn Llundain a Birmingham.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi’n fuan
Myfyrwyr PCyDDS yn Cefnogi Noddfa