Chwefror yw Mis Hanes LHDTC+ yn y DU. Thema eleni yw ymgyrchu a newid cymdeithasol, ac rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni i ddathlu a chydnabod cyflawniadau’r gymuned LHDTC+.
Fideo o Maria yn cyflwyno ein Harddangosfeydd Mis Hanes LHDTC+ ar gyfer 2025, i’w weld ar YouTube.
"Helo bawb! Rwy'n teimlo’n gyffrous i lansio ymgyrch Mis Hanes LHDTC+ eleni gydag Undeb y Myfyrwyr. Mae’n fwy na dathlu Balchder LHDTC+ yn unig – mae hefyd yn amser i fyfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd, anrhydeddu gwytnwch y rhai a aeth o’n blaenau, ac ymrwymo i’r gwaith sydd ei angen i sicrhau cydraddoldeb a chynhwysiant.
Thema eleni yw ymgyrchu a newid cymdeithasol, a byddwn yn cynnal trafodaeth banel gyda siaradwyr gwadd o adran Ryddhad UCM a CETMA, helfa lyfrau hoyw, ac arddangosfa ar-lein sy’n rhoi sylw i unigolion sydd wedi gwneud argraff arnaf, ynghyd â rhestr Ffigurau Hanesyddol LHDTC+ 2025 ar gyfer eleni.
Rwy’n eich gwahodd i ymwneud â’r ymgyrch hon, rhannu eich safbwynt, neu fyfyrio ar gefnogaeth, cyfeillgarwch a chynhwysiant. Gyda'n gilydd, gadewch i ni ddathlu pa mor bell rydyn ni wedi dod, cefnogi'r rhai sy'n dal i ymladd dros eu hawliau, a mynd ati i greu dyfodol lle gall pawb fyw eu bywydau’n agored a dilys."
Maria Dinu, Llywydd y Grŵp
Dewiswyd yr unigolion hyn ar gyfer arddangosfa ar-lein Mis Hanes LHDTC+ oherwydd eu cyfraniadau sylweddol i gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a hawliau dynol. Chwaraeodd pob un rôl hanfodol wrth lunio hanes, boed hynny trwy ymgyrchu, eiriolaeth, neu ddiwygio, ac mae eu hetifeddiaeth yn parhau i ysbrydoli newidiadau cadarnhaol heddiw!
Dewiswyd y ffigurau hyn i arddangos yr amrywiaeth o ran gweithredu ar draws hanes, gan amlygu pwysigrwydd ymladd dros gyfiawnder yn ei holl ffurfiau. Mae eu straeon yn annog myfyrwyr i ymwneud â materion cymdeithasol, herio camwahaniaethu, ac adeiladu byd mwy cynhwysol.
Rydym yn rhoi copîau o From Prejudice to Pride ac A Journey Through Time: The Story of LGBTQ+ History i ffwrdd am ddim. Bydd copi o’r llyfrau hyn ar gael ar bob un o’n chwe champws, wedi’u gorchuddio â phapur lapio â thema Balchder, a’u cuddio ar y campysau i chi eu darganfod. Ewch i’n tudalen Instagram, lle byddwn yn rhannu cliwiau ar sut i ddod o hyd iddynt yn ein straeon.
Rydym yn cloi Mis Hanes LHDTC+ gyda thrafodaeth banel lle bydd Maria yn arwain trafodaeth ochr-yn-ochr â siaradwyr gwadd am hawliau LHDCT+, gofal iechyd, iechyd meddwl, hygyrchedd ac arferion cynhwysol. Bydd y drafodaeth yn cael ei chyhoeddi’n ddiweddarach y mis hwn ar ein Sianel YouTube.