Pleidleisio Yn Agor Dydd Llun

Dydd Gwener 13-03-2020 - 12:46

 

Hi all, please note all on-campus events have been cancelled. We encourage everyone to follow University and Government advice around the COVID-19 (coronavirus) outbreak. The Big Vote 2020 will continue. Please vote online at www.tsdsu.co.uk/vote!

Mae'r pleidleisio yn y Bleidlais Fawr 2020 yn agor am 10:00am ddydd Llun 16eg Mawrth. Dyma'ch cyfle i benderfynu pwy fydd yn arwain Undeb y Myfyrwyr ac yn cael ei ethol i un o'n swyddi agored. Gallwch ganfod mwy am yr ymgeiswyr ar ein gwefan a chwrdd â nhw wyneb yn wyneb yn un o'n digwyddiadau 'Cwrdd â'r Ymgeiswyr':

 

Cwrdd â'r Ymgeiswyr
 

(CANCELLED) Abertawe: 6:30pm dydd Llun 16eg Mawrth yn Ystafell Dafydd ap Gwilym, Llys Glas.

(CANCELLED) Caerfyrddin: 6:30pm dydd Mawrth 17eg Mawrth yn Y Lloft, Undeb y Myfyrwyr.

(CANCELLED) Llambed: 6:30pm dydd Mercher 18fed Mawrth yn Yr Hen Far, Undeb y Myfyrwyr.

 

Mae pob myfyriwr yn PCyDDS yn cael pleidleisio yn yr etholiad hwn. Mae'r broses yn hawdd ac mae'r cyfan yn cael ei wneud ar-lein yn www.tsdsu.co.uk/vote. Mae'r pleidleisio'n cau am 4:00pm ddydd Iau 19eg Mawrth, a chyhoeddir y canlyniadau am 6:00pm. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi angen help i bleidleisio, cysylltwch â ni: election@uwtsd.ac.uk

 

 

 

GWOBRAU AR GYFER PLEIDLEISWYR!

 

Pan fyddwch chi'n pleidleisio yn y Bleidlais Fawr, byddwch yn:

•    Penderfynu ar arweinyddiaeth Undeb y Myfyrwyr.
•    Cael eich cynnwys mewn raffl ANHYGOEL.
•    Cael £5 oddi ar bris cerdyn TOTUM un-flwyddyn. 

 

Mae angen ychydig o anogaeth ar bob un ohonom weithiau; dyma’r gwobrau sydd ar gael yn ein raffl Anhygoel - rhaid i chi bleidleisio i fod â chyfle o ennill. Allwn ni ddim meddwl am unrhyw resymau dros beidio â phleidleisio!

•    1 x Cerdyn Rhodd Ticket Master gwerth £100
•    1 x Taleb Lucy & Yak gwerth £50
•    1 x Flwyddyn o Disney Plus
•    1 x Cactus Enfawr (bydd yn codi cywilydd ar eich planhigion suddlon)
•    3 x Jar o Ffa Jeli. 
 

 


Pwy sy'n sefyll ar gyfer beth?


Ewch i'n tudalen ymgeiswyr i weld pwy sy'n sefyll ar gyfer pa rolau. Unwaith y bydd y pleidleisio'n agor ddydd Llun, byddwch chi'n gallu gweld eu maniffestos a chanfod pam y dylech chi bleidleisio drostyn nhw.

 

Lle byddwn ni


Byddwn ni allan ar hyd y lle gydol yr wythnos nesaf; dewch o hyd i ni i gael toesenni, planhigion, CŴN, troelli i ennill a mwy. Cewch weld mwy yn yr adran ddigwyddiadau ar ein gwefan ac ar Facebook (yn dod yn fuan!)
 

 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...