Mae costau byw cynyddol yn taro myfyrwyr yn galed - waeth beth fo'u hoedran, waeth ble maen nhw'n byw, waeth beth maen nhw'n ei astudio.
Mae ymchwil costau byw gan UCM yn dweud wrthym fod bron i draean y myfyrwyr a holwyd yn gorfod byw ar ddim ond £50 y mis ar ôl talu eu rhent a'u biliau - gyda 52% o fyfyrwyr yn gwario llai ar fwyd a doedd 68% ddim yn gallu fforddio deunyddiau ar gyfer eu cwrs mwyach.
Mae eich Undeb a'ch Prifysgol yn cynnig cefnogaeth i chi drwy'r argyfwng hwn gyda grantiau, cronfeydd ariannol a chyfleoedd eraill â thâl.
Wedi dweud hynny, credwn fod angen i’n Llywodraethau weithredu mewn ffordd ystyrlon. Dyna pam mae Llywyddion eich Undeb wedi ysgrifennu at Aelodau Seneddol ac Aelodau Senedd Cymru ar eich rhan ym mis Hydref 2022.
Dros yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn yn eich darparu â’r newyddion diweddaraf ac yn sôn am y ffyrdd y gallwch chi fynnu cefnogaeth.
Beth allwch chi ei wneud nawr? Gallwch chi lofnodi ymgyrch UCM ynghylch effaith yr argyfwng costau byw ar fyfyrwyr.
Ysgrifennu at eich AS eich hun
Ydych chi am ysgrifennu eich AS eich hun? Gallwch ddefnyddio ffurflen ar-lein am ddim gan UCM i ddod o hyd i'ch AS yn gyflym ac anfon e-bost atyn nhw (mae yna hyd yn oed dempled i chi ei ddefnyddio).