Dydd Llun 09-06-2025 - 14:12
Bydd Llyfrgell Llambed ar gau o ddydd Iau 26ain Mehefin, ac yna'n ailagor ar 1af Medi trwy apwyntiad yn unig.
Yr hyn a wyddom
- Nid yw'r llyfrgell yn Llambed yn cau, felly ni fydd yr holl adnoddau diriaethol yn cael eu trosglwyddo o lyfrgell Llambed i lyfrgell Caerfyrddin.
- Nid oes gan y Brifysgol adeilad llyfrgell o'r un maint yng Nghaerfyrddin ag sydd yn Llambed; fodd bynnag mae gan lyfrgell Campws Caerfyrddin fwy na digon o le o ystyried nifer y myfyrwyr sy'n astudio ar y campws.
- Mae'r holl adnoddau diriaethol sydd ar y rhestr ddarllen hanfodol yn cael eu symud (mae hyn yn fwy na 1,000+ o lyfrau, a bydd cyfnodolion hefyd yn cael eu hadleoli) ac mae sicrwydd wedi'i roi bod digon o le i'r 1,000+ o lyfrau a chyfnodolion yn llyfrgell Campws Caerfyrddin.
- Bydd unrhyw lyfrau o'r prif gasgliad sy'n weddill yn Llambed ar gael ar gais trwy wasanaeth clicio a chasglu Llyfrgell y Brifysgol.
- Dim ond trwy apwyntiad y bydd mynediad i gasgliadau arbennig ac archifau o ddydd Llun 1af Medi 2025 ymlaen.
Yr hyn yr hoffem weithio arno gyda'r Brifysgol
- Cadarnhad o sut y byddai'r cynllun benthyciadau rhyng-gampws yn gweithio
- Cadarnhad ynghylch a fydd y casgliadau arbennig a'r deunyddiau archifau yn cael eu hymgorffori o fewn modiwlau
Beth sydd nesaf
- Bydd y system negesydd yn parhau tan fis Rhagfyr 2025 (mae hyn yn digwydd ddwywaith yr wythnos ar draws pob safle).
Mae Uwch-dîm y Llyfrgell yn gweithio ar fanylion pellach ar gyfer trefniadau..
Categorïau:
Campus, Future of Lampeter
Tagiau perthnasol :
Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant