Lle mae Baw mae Arian

Dydd Iau 14-02-2019 - 15:10
P2120048

 

Does dim amheuaeth mai’r Wythnos Werdd yw un o'm hoff ddigwyddiadau yng nghalendr y Brifysgol; mae'n gyfle i fyfyrwyr sy’n frwd dros yr amgylchedd i fynd amdani a dathlu eu mannau gwyrdd, hyrwyddo ffyrdd o fyw sy’n gydnaws â’r amgylchedd a gwneud rhywbeth positif yn y gymuned, fel casglu sbwriel neu blannu coed. Yma yng Nghymdeithas Amgylcheddol y DDS Abertawe, penderfynwyd gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol ...

 

Mae holl wastraff y Brifysgol o'i champysau yng Nghaerfyrddin ac Abertawe yn cael ei gasglu a'i gymryd i'r un lle: Nantycaws, Sir Gaerfyrddin. Mae'r safle yn cael ei redeg gan CWM Environmental, a oedd yn ddigon bodlon ein tywys o amgylch eu cyfleusterau fel rhan o'r Wythnos Werdd. Cyrhaeddom ni am hanner dydd, ar ôl gadael Abertawe a chasglu myfyrwyr o Gaerfyrddin yn y bws-mini ar y ffordd. Daeth Andrew a Bruce i’n cwrdd ni, ac aethant â ni o amgylch y safle, gan ddechrau gyda'r gwastraff cyffredinol. Gwelsom sut y caiff gwastraff cyffredinol ei gywasgu i ffurfio byrnau a'i lapio’n dynn mewn plastig. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i’w gludo ac, os yw'n cael ei gladdu, mae’n rhwystro cnofilod rhag ei fwyta. Gwerthir y gwastraff cyffredinol lle bo'n bosib i gwmnïau sy’n creu ynni o wastraff (llosgyddion sy'n adennill yr ynni o'r gwastraff drwy ei losgi a chynhyrchu trydan gan ddefnyddio'r gwres), a'i dirlenwi fel dewis olaf. Gwelsom sut y torrwyd matresi ar agor, gan dynnu’r sbrings allan a'u hailgylchu, a gwneud byrnau o’r rhan feddal ar gyfer llosgi.

 

Fy hoff ran, fodd bynnag, oedd y llinell ddidoli. Mae cyfres o feltiau cludo, magnetau a gweithwyr yn mynd ati i ddidoli’r deunyddiau ailgylchadwy sy’n cyrraedd y warws. Fe’u gwahanir yn raddol yn ôl math ac ansawdd y deunydd. Yn gyntaf, mae eitemau bach yn disgyn drwy dyllau, gan adael i’r darnau mwy i barhau ar eu ffordd. Yna, mae’r darnau llai yn mynd dan fagnet sy’n codi unrhyw gapiau poteli. Caiff plastig meddal (megis bagiau plastig a phecynnau bwyd) eu didoli â llaw a'u bwydo i bibellau sugno uwch pennau’r gweithwyr. Nesaf, caiff y deunyddiau eu gwahanu drwy eu hysgwyd yn fecanyddol i sicrhau nad ydynt yn sownd yn ei gilydd. Wedyn mae gweithwyr eraill yn tynnu allan unrhyw bapur a chardfwrdd, ac yna mae’r gwastraff yn mynd drwy fagnet sy’n tynnu allan y caniau dur. Roedd gwahanu alwminiwm ychydig yn wahanol, gan ei fod yn cael ei wthio i ffwrdd gan fath arbennig o fagnet, felly yn y bon, roedd yn cael ei "daflu" oddi ar y belt gludo ar y pwynt hwn.

 

Mae'n swnio'n syml, ond roedd lefel y sŵn a maint y peiriannau, yn ogystal â faint o wastraff sy'n cael ei ddidoli, wedi ein syfrdanu. Yna, roedd y gwahanol fathau o wastraff yn cael eu ffurfio’n fyrnau a'u "lapio" cyn eu hanfon dramor i'w hailgylchu. Dywedodd Andrew wrthym fod y mwyafrif helaeth o'r deunyddiau ailgylchadwy y maent yn eu prosesu yn cael eu gwerthu dramor, gan nad oes gan y DU yr isadeiledd i greu nwyddau o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu. Mae hyn yn drueni mawr, gan fod cludo deunyddiau mewn llongau ar draws y byd yn defnyddio ynni, y gellid ei arbed pe baem yn eu hailgylchu yma yn y DU.

 

Un peth a wnaeth gryn argraff arnom oedd y cywasgydd polystyren. Mae'r peiriant yn gwasgu’r darnau bach o bolystyren at ei gilydd, gan dynnu allan unrhyw aer, ond mae'n dal i edrych yn debyg iawn i bolystyren. Cawsom ein twyllo gan bwysau'r blociau polystyren ar ôl eu cywasgu! Hefyd, cawsom gipolwg ar y cyfleusterau compostio, lle mae gwastraff bwyd y Brifysgol yn cael ei brosesu. Ar ôl cael ei drin, gosodir y gwrtaith drewllyd a mwdlyd mewn "ffenestri" sy'n cael eu hawyru yn achlysurol. Gynted mae’n barod, caiff hwn ei ddidoli yn ôl maint y gronynnau (mawr neu fach) ei osod mewn bagiau, a'i werthu fel "Compost Hud Myrddin". Daethom â phum bag yn ôl gyda ni i'w defnyddio ar randiroedd campws Caerfyrddin!

 

Ar ôl i’r daith ddod i ben, cawsom gyfle i ofyn cwestiynau a thrafod ymysg ein gilydd yr hyn a oedd wedi ein synnu fwyaf am y cyfleusterau. Cytunodd pawb ohonom y byddem yn adrodd yn ôl i fyfyrwyr eraill am ein profiadau, er mwyn hyrwyddo ailgylchu a lleihau’r nifer o eitemau a gaiff eu rhoi yn y bin ailgylchu anghywir. Nododd Louie fod y profiad yn ddiddorol iawn o safbwynt Busnes, gan ei bod yn astudiaeth achos nad oedd wedi'i ystyried o'r blaen. Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau eich Wythnos Werdd gymaint ag y gwnaethom ni!

 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...